Yr hyn fydd yn digwydd os na fyddwch yn talu’ch bil treth
Sut mae CThEF yn defnyddio pwerau gorfodi dyledion, asiantaethau casglu dyledion a beth sy’n digwydd os ydych yn byw dramor pan na fyddwch yn talu’ch bil treth.
Mae pawb yn wahanol, felly mae’r help rydyn ni’n ei gynnig yn amrywio yn ôl eich anghenion.
Os na allwch dalu’r dreth sydd arnoch yn llawn ac yn brydlon, gall CThEF weithio gyda chi i ddod o hyd i ffordd i chi dalu’r hyn sydd arnoch:
- cyn gynted â phosibl
- mewn ffordd y gallwch ei fforddio
Os byddwn yn cysylltu â chi ar unrhyw adeg, mae’n rhaid i chi ymateb cyn gynted â phosibl fel y gallwn gytuno ar ffordd ymlaen os oes angen cymorth arnoch.
Cael help i gyfrifo ad-daliadau dyledion
Dylech wneud y canlynol:
-
Cysylltu â CThEF — os na allwch dalu’r dreth sydd arnoch neu os ydych yn anghytuno â swm y ddyled.
-
Siaradwch â ni am y ffordd orau ymlaen.
Bydd angen i chi gysylltu â’r canlynol:
- Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF — os ydych yn byw yn y DU
- Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF — os ydych yn byw dramor yn barhaol
Os ydych chi’n fusnes gyda rheolwr cydymffurfiad cwsmeriaid, dylech siarad â ni yn gyntaf.
Os oes gennych ddyled dreth, cyn i ni gymryd unrhyw gamau — ac eithrio mewn achosion lle rydym yn amau twyll neu weithgarwch troseddol — byddwn yn gwneud y canlynol:
- ceisio cysylltu â chi i drafod eich sefyllfa
- cytuno ar ffordd ymlaen cyn i ni gymryd unrhyw gamau
Efallai y byddwn yn gwneud unrhyw un o’r canlynol:
- gofyn i chi gytuno ar drefniant Amser i Dalu — yn seiliedig ar eich sefyllfa ariannol
- defnyddio unrhyw dreth a ordalwyd a fyddai fel arfer yn cael ei had-dalu i chi i glirio unrhyw ddyledion treth eraill sydd gennych
- addasu eich cod treth i gasglu unrhyw ddyledion treth sy’n ddyledus — os ydych yn derbyn incwm TWE
Dylech ymateb cyn gynted â phosibl, er mwyn i ni wybod eich bod:
- angen cymorth
- nad ydych yn gwrthod talu’r hyn sy’n ddyledus gennych
Gallwn ddefnyddio ein pwerau gorfodi dyledion i gasglu’r dreth sy’n ddyledus os nad ydych yn siarad â ni am sut y byddwch yn talu’r hyn sydd arnoch.
Os ydych yn breswylydd y tu allan i’r DU neu os oes gennych asedion dramor
Gallwn ofyn i awdurdod treth dramor gasglu’r ddyled i ni drwy ddefnyddio ein cytundebau adfer rhyngwladol os nad ydych yn siarad â ni am dalu’r hyn sy’n ddyledus gennych.
Os na fyddwch yn ymgysylltu â CThEF neu’n gwrthod talu’r hyn sydd arnoch
Os na fyddwch yn ymateb i CThEF neu’n gwrthod talu’r hyn sydd arnoch, mae’n bosibl byddwn yn gwneud un o’r canlynol:
- ymweld â chi yn eich cyfeiriad cartref neu fusnes i’n helpu ni ddeall eich amgylchiadau er mwyn i ni allu gweithio gyda chi i dalu’r dreth sydd arnoch
- defnyddio asiantaeth casglu dyledion er mwyn mynd i’r afael â’ch dyled
Ymweld â chi yn eich cyfeiriad cartref neu fusnes
Os byddwn yn ymweld â chi, byddwn yn:
-
Holi am eich sefyllfa ariannol a’ch gallu i dalu.
-
Ceisio cytuno gyda chi ar y ffordd orau o dalu’r ddyled, boed hynny drwy wneud un taliad llawn neu drwy dalu fesul rhandaliad gan ddefnyddio trefniant Amser i Dalu.
-
Cymryd taliad yn uniongyrchol gennych yn ystod ymweliad (os yn bosibl) — gall y taliad hwn fod yn llawn neu’n rhandaliad fel rhan o drefniant Amser i Dalu.
Mae gan bob un o gasglwyr CThEF beiriannau talu â cherdyn i’w galluogi i gymryd taliad oddi wrthych yn ddiogel yn eich cartref neu’ch busnes.
Mae yna:
- ffi na ellir ei had-dalu — os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol.
- dim ffi — os talwch â cherdyn debyd personol
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Os na allwn ddod i gytundeb â chi, efallai y byddwn yn defnyddio ein pwerau gorfodi i gasglu’r ddyled.
CThEF ac asiantaethau casglu dyledion
Gallwn ddefnyddio asiantaeth casglu dyledion er mwyn mynd i’r afael â’ch dyled
Dim ond drwy’r dulliau canlynol y bydd asiantaeth casglu dyledion sy’n gweithio i ni yn cysylltu â chi drwy’r canlynol:
- llythyrau
- negeseuon testun SMS
- ffôn
Ni fyddant byth yn ymweld â chi yn eich cartref na’ch man gwaith.
Gwiriwch y rhestr o asiantaethau casglu dyledion a allai gysylltu â chi:
- 1st Locate — yn masnachu fel LCS
- Advantis Credit Ltd
- Ardent Credit Services — yn masnachu fel Debt & Revenue Services (DRS)
- Bluestone Consumer Finance Limited — yn masnachu fel Bluestone Credit Management
- BPO Collections Ltd
- CCS Collect — a elwir hefyd yn Commercial Collection Services Ltd
- Moorcroft Debt Recovery Ltd
- Pastdue Credit Solutions Limited
Mae’r holl asiantaethau casglu dyledion rydyn ni’n gweithio gyda nhw’n cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol a rhaid iddynt ddilyn ein prosesau a’n canllawiau bob amser — rydym yn cynnal adolygiadau rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn gwneud hyn.
Gallwch wneud y canlynol:
-
Talu iddynt yr hyn sydd arnoch i ni — os gallwch.
-
Siarad â nhw am sut y gallwch dalu eich dyled drwy ddefnyddio Trefniant Amser i Dalu.
Pan fydd eich taliad yn clirio, bydd yr asiantaeth yn ei anfon atom i gredydu i’ch cyfrif CThEF.
Os na allwch dalu’r hyn sydd arnoch yn llawn neu gytuno ar drefniant Amser i Dalu, bydd yr asiantaeth yn trosglwyddo’ch achos yn ôl i ni i ddelio ag ef. Byddwn yna’n cysylltu â chi er mwyn rhoi gwybod i chi beth fydd yn digwydd nesaf.
Galwadau ffôn gan asiantaethau casglu dyledion
-
Byddant yn gofyn rhai cwestiynau diogelwch — i’ch diogelu chi a chyfrinachedd eich materion treth.
-
Gwiriwch a oes angen i chi roi caniatâd i rywun arall siarad ar eich rhan — bydd caniatâd yn para 24 awr am bob dyled rydych chi’n ei thrafod â nhw.
Os ydych am i rywun weithredu ar eich rhan am fwy na 24 awr
Bydd angen i chi lenwi ffurflen 64-8 i roi awdurdod ysgrifenedig i CThEF wneud hynny.
Os byddwch yn rhoi gwybod i’r asiantaeth casglu dyledion fod gennych asiant yn gweithredu ar eich rhan, bydd angen i’r asiantaeth wirio gyda ni ei bod wedi’i hawdurdodi i siarad â’r asiant cyn y gall gysylltu ag ef. Gall hyn olygu y bydd oedi byr wrth ddelio â’ch achos.
Cwyno am asiantaeth casglu dyledion
Os oes angen i chi wneud cwyn am asiantaeth casglu dyledion, gallwch wneud hyn drwy un o’r canlynol:
- yr asiantaeth casglu dyledion
- CThEF — mae hyn yn cynnwys os ydych yn anfodlon ar sut y gwnaeth yr asiantaeth casglu dyledion drin eich cwyn wreiddiol
Gallwch ddod o hyd i fanylion am sut i gwyno i’r asiantaeth casglu dyledion naill ai ar y llythyr y maent wedi’i anfon atoch chi neu ar eu gwefan. Gwiriwch broses gwynion yr asiantaeth casglu dyledion. Dylai fodloni’r gofynion a nodir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.
Gallwch hefyd cwyno i CThEF am sut mae asiantaeth casglu dyledion wedi delio â’ch achos — gan gynnwys os ydych chi’n parhau i fod yn anfodlon â chanlyniad cwyn rydych chi wedi’i gwneud iddyn nhw yn barod.
Cofiwch gynnwys manylion yr asiantaeth casglu dyledion yr ydych yn cwyno amdani wrth ddefnyddio’r ffurflen ar-lein.
Beth yw ein pwerau gorfodi ar gyfer dyledion treth a pha bryd y byddwn yn eu defnyddio
Mae gennym bwerau gorfodi dyledion i’n helpu i gasglu treth sydd heb ei thalu os:
- na allwn gysylltu â chi
- rydych yn gwrthod talu’r hyn sydd arnoch
- caiff eich dyled ei ddychwelyd atom gan asiantaeth casglu dyledion
Dim ond pan fydd popeth arall wedi methu y byddwn yn defnyddio’r rhain, a gallant fod yn wahanol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban.
Byddwn yn dewis pa bwerau sy’n briodol yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae gennym ystod o bwerau gorfodi ac nid yw’r rhain wedi’u rhestru mewn unrhyw drefn benodol.
Mynd â’ch meddiannau i dalu’r ddyled
Byddwn bob amser yn eich rhybuddio ac yn cynnig cyfle i chi dalu’r hyn sydd arnoch cyn cymryd unrhyw eiddo sydd gennych.
Gallwn ddefnyddio rheoliadau cymryd rheolaeth dros nwyddau yng Nghymru a Lloegr, ac atafaelu yng Ngogledd Iwerddon i fynd â’ch asedion a’u gwerthu i dalu dyledion. Yn yr Alban, gallwn ddefnyddio gwarant ddiannod. Mae rhagor o wybodaeth am hyn yn yr adran ‘Defnyddio gwarant ddiannod i adennill y ddyled (yr Alban yn unig)’.
Yng Nghymru a Lloegr, byddwn yn rhoi hysbysiad gorfodi ffurfiol i chi yn gyntaf a fydd yn costio £75 i chi.
Bydd swyddfa CThEF yn gwneud y canlynol:
-
Ymweld â chi rhwng 6am a 9pm os ydych chi’n byw yng Nghymru neu Loegr — neu rhwng gwawr a machlud haul os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon.
-
Gofyn i chi dalu eich dyled — os na fyddwch yn talu, byddwn yn rhestru eich meddiannau a allai gael eu gwerthu i dalu am y ddyled a’r costau i werthu’r eitemau (er enghraifft, ffioedd ar gyfer arwerthwyr neu hysbysebu).
Byddwn naill ai’n mynd â’r meddiannau o’ch safle ar unwaith, neu’n gofyn i chi lofnodi:
- cytundeb ar gyfer nwyddau o dan reolaeth — os ydych yn byw yng Nghymru a Lloegr
- cytundeb meddiant ar droed — os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Bydd y cytundeb yn cynnwys dyddiad cau i chi dalu’r hyn sydd arnoch.
Gallwch barhau i ddefnyddio’r eitemau ond ni allwch eu gwerthu na’u rhoi i neb tra bo’r cytundeb mewn grym.
Os na fyddwch yn dilyn telerau’r cytundeb nac yn talu’r hyn sydd arnoch erbyn y dyddiad cau, gallwn fynd â’r meddiannau a’u gwerthu. Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi rhybudd i chi cyn i ni wneud hyn.
Er mai dim ond un o swyddogion CThEF sy’n gallu rhestru’r meddiannau, gall arwerthwyr preifat a gyflogir gennym ni eu casglu.
Gall pwy bynnag sy’n casglu’r nwyddau ddefnyddio gof cloeon i fynd i mewn i eiddo i symud y nwyddau, os oes angen. Nid oes angen gwarant arnynt gan y llysoedd ac nid oes rhaid iddynt roi unrhyw rybudd i chi yn gyntaf.
Os yw’r meddiannau’n gwerthu am fwy na’r ddyled, telir y gwahaniaeth i chi ar ôl didynnu’r costau a’r ffioedd. Os ydynt yn gwerthu am lai na’r ddyled, bydd yn rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth, a byddwn yn parhau i gymryd camau gorfodi hyd nes y caiff y ddyled ei setlo.
Mae ffioedd yn berthnasol ac fe’u telir wrth werthu eich meddiannau.
Ffioedd yng Nghymru a Lloegr
Codir ffi o £235 os bydd CThEF yn cymryd rheolaeth dros eich meddiannau, ynghyd â 7.5% o gyfran y brif ddyled dros £1,500.
Ar gyfer meddiannau rydym yn mynd â nhw i ffwrdd a’u gwerthu mewn ocsiwn, codir ffi o £110, ynghyd â 7.5% o gyfran y brif ddyled dros £1,500.
Ffioedd yng Ngogledd Iwerddon
Os oes arnoch:
- lai na £100, codir ffi o £12.50
- fwy na £100, codir ffi o rhwng 0.25% a 12.5%, yn dibynnu ar swm y ddyled
Ar gyfer meddiannau rydym yn mynd â nhw i ffwrdd a’u gwerthu mewn ocsiwn, codir ffi o rhwng â 7.5% a 15%, yn dibynnu ar yr ocsiwn.
Meddiannau na fyddwn yn mynd â nhw
Ni fyddwn byth yn mynd â’ch meddiannau sy’n hanfodol ar gyfer eich diogelwch a’ch lles.
Mae canllawiau penodol ar yr hyn y gallwn ei wneud ac rydym yn eu dilyn bob amser. Mae’r canllawiau yn:
- Rheoliadau Cymryd Rheolaeth o Nwyddau 2013 (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer Cymru a Lloegr
- Canllaw Rheoli Dyledion a Bancio (yn agor tudalen Saesneg) ar gyfer Gogledd Iwerddon
Defnyddio Gwarant Ddiannod i adennill y ddyled (yr Alban yn unig)
Yn yr Alban, rydym wedi ein hawdurdodi o dan Adran 128 o Ddeddf Cyllid 2008 i wneud cais i Lys Siryf i gael gwarant ddiannod yng nghyswllt dyled dyledwr.
Math o orchymyn llys a roddir ar gyfer dyledion yw gwarant ddiannod.
Pan roddir gwarant ddiannod, byddwn yn cyfarwyddo swyddog a benodir gan y llys (a elwir yn swyddog siryf) i ofyn am daliad os oes arnoch chi dreth. Yna, bydd gennych 14 diwrnod i wneud un o’r canlynol:
- talu eich dyled sydd heb ei thalu
- cytuno ar gynllun talu i dalu’r dreth sydd arnoch mewn rhandaliadau
Os nad ydych wedi talu’r ddyled ar ôl y 14 diwrnod, efallai y byddwn yn cyfarwyddo swyddog y siryf i gymryd y camau gweithredu diwydrwydd sydd fwyaf priodol yn ein barn ni er mwyn osgoi symud ymlaen i ansolfedd.
Y camau gweithredu diwydrwydd y gallwn eu defnyddio yw:
- adennill y ddyled o gyfrif banc (arestiad banc)
- adennill y ddyled drwy eich enillion (arestiad enillion)
- atafaelu a gwerthu eich meddiannau (atafaeliad)
- adennill arian o dil mewn siop (atafaeliad arian)
Adennill y ddyled yn uniongyrchol o’ch cyfrif banc
Gall credydwyr fel CThEF (neu’r rheini sy’n gweithredu ar ran credydwr) adennill dyledion yn uniongyrchol o’ch cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu. Gelwir hyn yn ‘adennill dyledion yn uniongyrchol’.
Os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon, gall CThEF wneud hyn:
- pan fydd arnoch £1,000 neu fwy o ddyled
- pan fydd gennych ddigon o arian yn eu cyfrifon banc i dalu’r ddyled a’ch costau byw rhesymol
Yn yr Alban, gellir defnyddio gwarant ddiannod.
Mae rheolau llym i wneud yn siŵr:
- nad ydych yn cael anhawster difrifol gan fod arian yn cael ei dynnu yn uniongyrchol o’ch cyfrifon
- bod digon o drefniadau gwarchod ar waith i chi os ydych yn agored i niwed
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Brîff Gwybodaeth Adennill Dyledion yn Uniongyrchol.
Adennill y ddyled drwy’ch cod treth
Os na allwch dalu’r dreth sydd arnoch yn llawn ac mewn pryd, mae’n bosibl y byddwn yn addasu’ch cod treth i gasglu unrhyw ddyledion treth sydd heb eu talu. Os byddwn yn gwneud hyn, gallwn ddechrau casglu drwy’ch cod treth yn y flwyddyn dreth gyfredol. Bydd y symiau a gasglwn yn cael eu rhannu’n gyfartal ar draws y misoedd sydd ar gael mewn unrhyw flwyddyn dreth. Gallwn drethu hyd at 50% o’ch incwm gros drwy’r broses hon.
Adfer y ddyled drwy achosion yn y llys sirol, eiddo a phensiynau
Gallwn ddefnyddio prosesau’r Llys Sirol os oes gennych asedion i dalu’r ddyled a’ch bod yn gwrthod ei thalu.
Yn yr Alban, gellir defnyddio gwarant ddiannod.
Byddwn yn adolygu eich amgylchiadau personol cyn penderfynu pa rai o’r opsiynau canlynol i’w defnyddio:
- gorchmynion arwystlo
- gorchmynion atafaelu enillion
- gorchmynion dyled trydydd parti
- taliadau pensiwn
Gorchmynion arwystlo
Gorchymyn gan y llys yw gorchymyn arwystlo. Mae’n atal dyledwr rhag gwerthu asedau penodol heb dalu’n gyntaf yr hyn a orchmynnwyd gan y llys i’w dalu allan o unrhyw enillion.
Yr ased mwyaf cyffredin sy’n destun gorchmynion arwystlo yn y DU yw tir neu eiddo ond gellir rhoi gorchmynion arwystlo ar asedion eraill, megis rhai cynhyrchion ariannol gan gynnwys:
- gwarantau
- stociau a chyfranddaliadau
- ymddiriedolaethau
- cynlluniau ecwiti personol
- Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs)
Mae gorchmynion arwystlo’n rhoi pŵer i gredydwyr fel CThEF adennill dyledion o werthu eiddo:
- pan fyddwch yn gwerthu eiddo rydych yn berchen arno
- drwy achos llys a elwir yn ‘orchymyn gwerthu’, er mwyn eich gorfodi i werthu’r eiddo
Yng Ngogledd Iwerddon, gallwn gael gorchymyn arwystlo dros dir neu eiddo drwy broses llys sifil gan y Swyddfa Dyfarniad Gorfodi. Nid yw gorchmynion arwystlo eiddo yn berthnasol yn yr Alban.
Gwnawn bopeth o fewn ein gallu i osgoi eich gorfodi i werthu eich prif eiddo. Efallai y byddwn ond yn gorfodi gwerthu eich eiddo os yw’r canlynol yn berthnasol i chi:
- pan fo gan y cwsmer fwy nag un eiddo
- pan fo wedi bod yn ymwneud â gweithgarwch troseddol
Ni fyddwn yn eich gorfodi i werthu eich prif gartref i ariannu tâl ar fenthyciad neu fil treth tâl cuddiedig.
Os byddwn yn ceisio adennill dyled drwy orchmynion arwystlo eiddo a gorchmynion i’w gwerthu, bydd y llys yn penderfynu a ddylid caniatáu’r gorchymyn ai peidio.
Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi ystyried rhyddhau ecwiti o’ch eiddo er mwyn gwneud un o’r canlynol:
- dalu eich dyled yn gyflym a lleihau llog
- byrhau trefniant amser i dalu
Os oes gennych lawer o ecwiti mewn un eiddo neu sawl eiddo, efallai y byddwn yn gofyn i chi ryddhau ecwiti i glirio’ch dyled neu leihau faint o amser y mae angen i chi ei dalu. Os na wnewch hyn, mae’n bosib y byddwn ni’n bwrw ymlaen ag ansolfedd.
Gorchmynion atafaelu enillion
Os ydych mewn dyled ac mewn gwaith TWE, gall y llys sirol roi ‘gorchymyn atafaelu enillion’ i ni, neu ‘arestiad enillion’ yn yr Alban.
Bydd y rhain yn caniatáu i ddidyniadau rheolaidd gael eu tynnu o’ch cyflog i dalu eich dyled. Bydd mesurau diogelu’n cael eu rhoi ar waith i wneud yn siŵr bod gennych ddigon o arian i dalu am eich costau hanfodol.
Gorchmynion dyled trydydd parti
Os ydych mewn dyled a bod arian yn ddyledus i chi gan rywun arall, gallwn wneud cais am orchymyn dyled trydydd parti. Bydd y gorchymyn yn caniatáu i ni gymryd taliad uniongyrchol gan bwy bynnag sydd yn eich dyled er mwyn talu’r hyn sydd arnoch.
Dim ond yng Nghymru a Lloegr y mae gorchmynion dyled trydydd parti yn berthnasol.
Mae camau tebyg ar gael o dan atafaelu yng Ngogledd Iwerddon, a gwarant ddiannod yn yr Alban (a elwir yn arestiad).
Taliadau pensiwn
Rydym yn ystyried taliadau pensiwn fel incwm, gan gynnwys unrhyw gyfandaliadau y gallech eu cael pan fyddwch yn ymddeol. Byddwn yn ystyried taliadau pensiwn yn ein hasesiad o’ch gallu i dalu’r dreth sydd arnoch.
Ni fyddwn yn gofyn i chi ddefnyddio arian o unrhyw un o’ch potiau pensiwn i dalu eich dyled i ni.
Ansolfedd
Dim ond fel cam gweithredu terfynol y byddwn yn gwneud cais i’r llysoedd i wneud unigolyn neu gwmni yn ansolfent, a hynny ar ôl i ni ystyried pob dull arall o adennill dyled.
Fel arfer, mae ansolfedd yn berthnasol dim ond pan fodlonir un neu fwy o’r canlynol:
- rydym yn meddwl na fydd eich sefyllfa dyled yn cael ei hadfer ac na fyddwch yn gallu talu dyledion yn y dyfodol
- rydych wedi mynd allan o’ch ffordd i osgoi talu er eich bod yn gallu gwneud hynny
- rydym yn amau nad ydych yn onest am yr asedion sydd gennych, ac rydym yn meddwl y gallech dalu’n gynt
Pan fyddwn yn cychwyn achos ansolfedd yn erbyn unigolion, partneriaethau neu gwmnïau, rydym yr un fath ag unrhyw gredydwr arall ac rydym wedi ein rhwymo’n llwyr gan ofynion cyfraith ansolfedd.
Prosesau ansolfedd
Mae’r prosesau ansolfedd yr ydyn yn ymwneud â nhw yn cynnwys y canlynol – ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- trefniadau gwirfoddol
- moratoria i gwmnïau gan ddefnyddio’r Ddeddf Llywodraethiant ac Ansolfedd Corfforaethol
- cynlluniau ailstrwythuro dyledion
- gorchmynion methdaliad a dirwyn i ben
Trefniadau gwirfoddol
Ar gyfer cwmnïau, bydd angen ymarferydd ansolfedd trwyddedig ar Drefniant Gwirfoddol Cwmni i gyflwyno cynnig i gredydwyr. Bydd cyfarwyddwyr y cwmni yn adolygu hanes y cwmni yn y gorffennol a’i ragolygon masnachu yn y dyfodol gyda’r ymarferydd ansolfedd. Os yw pob parti’n fodlon bod ffordd ymarferol ymlaen i’r cwmni, gall ei gredydwyr ystyried cynnig sy’n esbonio sut yr ymdrinnir â’i ddyledion.
Ar gyfer unigolion yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gall ymarferydd ansolfedd gynnig Trefniant Gwirfoddol Unigol (yn agor tudalen Saesneg) ar ran dyledwr unigol. I lunio cynllun talu addas, bydd angen iddynt gyflwyno gwybodaeth am y canlynol:
- eu sefyllfa o ran cyfanswm eu dyledion
- manylion eu hincwm a’u gwariant
Yn yr Alban, gall dyledwr ddewis llofnodi gweithred ymddiriedolaeth, felly gwneir taliadau rheolaidd i ymarferydd ansolfedd i’w dosbarthu i gredydwyr.
Pan fyddwn yn gredydwr, rydym yn cael ein gwahodd i bleidleisio o blaid, yn erbyn neu’n ymatal ar gynigion trefniant.
Cyn gwneud penderfyniad, byddwn yn ystyried talu’r ddyled a hefyd yn asesu’ch gallu tebygol i dalu trethi yn y dyfodol. Fel rhan o hyn, byddwn yn cadarnhau gyda phwy bynnag sy’n cynnig y trefniant bod camau wedi’u cymryd i gywiro beth bynnag a aeth o’i le. Bydd hyn yn sicrhau na fydd cefnogi’r trefniant gwirfoddol yn peryglu treth yn y dyfodol.
Pan fyddwn yn ystyried unrhyw gynnig ar gyfer trefniant, rydym bob amser yn ceisio eich cefnogi os oes gennych unrhyw anawsterau ariannol dros dro. Rydym yn edrych yn gadarnhaol ar gynigion lle:
- caiff eich amgylchiadau eu hegluro’n llawn ac yn onest
- mae’r cynnig sy’n cael ei wneud yn gyraeddadwy a dyma’r canlyniad gorau ar gyfer refeniw treth hanfodol y wlad
Ar gyfer pob math o drefniant gwirfoddol, ni all unrhyw gredydwr bwyso am dalu dyled sydd wedi’i chynnwys yn y trefniant hyd nes y cytunir arno. Os bydd y trefniant yn methu, bydd credydwyr yn adennill yr hawl i fynd ar drywydd y ddyled sydd heb ei thalu.
Rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Trefniadau Gwirfoddol CThEF (yn agor tudalen Saesneg) sy’n helpu ac yn cefnogi busnesau sydd ag anawsterau ariannol dros dro.
Moratoria i gwmnïau gan ddefnyddio’r Ddeddf Llywodraethiant ac Ansolfedd Corfforaethol
Pan fydd cwmni sydd wedi’i gofrestru yn y DU mewn trafferthion ariannol ac wedi gwneud cais am foratoriwm (awdurdodiad cyfreithiol i ddyledwyr ohirio taliadau), bydd yn cael amser i ailstrwythuro ei gyllid.
Byddwn ni (ynghyd â chredydwyr eraill) yn rhoi’r gorau i adennill dyledion am 20 diwrnod gwaith. Gellir ymestyn y cyfnod hwn i 40 diwrnod busnes, neu gall llys ei ymestyn am hyd at uchafswm o flwyddyn.
Byddwn yn rhoi manylion dyledion y cwmni i ymarferydd ansolfedd sydd wedi cael ei benodi i oruchwylio’r moratoriwm. Byddwn yn gallu pleidleisio ar unrhyw gynllun ailstrwythuro os yw’r cwmni’n cynnig hyn i’w gredydwyr.
Byddwn yn adolygu’r moratoriwm i wneud yn siŵr bod y cwmni:
- yn bodloni amodau’r moratoriwm
- yn parhau i allu adfer er mwyn talu ei ddyledion
Cynlluniau ailstrwythuro dyledion o dan y Ddeddf Cwmnïau
O dan rannau 26 neu 26A o Ddeddf Cwmnïau 2006, gall cwmnïau geisio cymeradwyaeth llys, cyfranddaliwr a chredydwyr ar gyfer cynllun ailstrwythuro dyled — a elwir hefyd yn gynllun trefniant neu gynllun ailstrwythuro rhan 26A.
Bydd CThEF ond yn cynnig cymorth i gwmnïau i ailstrwythuro lle credwn fod gennych siawns realistig o lwyddo. Os nad ydym yn credu bod gennych siawns realistig o lwyddo, byddwn yn gweithio gyda chi i geisio dod o hyd i ffyrdd eraill o ad-dalu’ch dyled i CThEF. Gallai hyn gynnwys mynd drwy broses ansolfedd ffurfiol.
Darllenwch ragor o wybodaeth am ddefnyddio cynlluniau rheoli dyledion i ailstrwythuro cyllid eich cwmni (yn agor tudalen Saesneg).
Gorchmynion methdaliad a dirwyn i ben
Gellir caniatáu gorchymyn methdaliad neu ddirwyn i ben:
- pan fo credydwr wedi gwneud cais i’r llys am ansolfedd
- pan fo unigolyn wedi gwneud cais am ei fethdaliad ei hun
Mewn rhai achosion, gellir penodi ymarferydd ansolfedd trwyddedig. Ar gyfer dyledwr unigol, yr enw ar yr ymarferydd ansolfedd a benodir yw’r ymddiriedolwr. Os yw’r dyledwr yn gwmni, gelwir yr ymarferydd ansolfedd yn ddatodwr.
Dyletswydd statudol yr ymddiriedolwr neu’r datodwr yw gwireddu asedion dyledwr a’u dosbarthu i’r credydwyr.
Nid ydym yn rheoli nac yn cyfarwyddo camau gweithredu’r ymarferydd ansolfedd.
Cytundebau adennill rhyngwladol
Mae gennym gytundebau adennill gyda mwy nag 87 o wahanol wledydd. Mae’r rhain yn caniatáu i ni ofyn i’r awdurdod treth mewn gwlad arall gasglu dyled y DU ar ein rhan gan rywun sy’n byw neu wedi ei sefydlu yn eu gwlad, neu sydd ag asedion yno.
Mae pedwar math gwahanol o gytundebau adennill rhyngwladol sy’n cwmpasu treth, ond maent i gyd yn gweithio mewn ffordd debyg. Y rhain yw:
- Cyfarwyddeb y Cyngor 2010/24/EU
- y Protocol ar Gydweithredu Gweinyddol a Brwydro yn Erbyn Twyll ym Maes Treth ar Werth ac ar Gymorth ar y Cyd ar gyfer Adennill Hawliadau sy’n ymwneud â Threthi a Thollau
- Confensiwn Amlochrog OECD ar Gymorth Gweinyddol ar y Cyd mewn Materion Treth
- erthygl adennill o fewn Cytundeb Trethiant Dwbl
Cael help a chymorth ychwanegol
Rydym yn gwybod efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch ac yn deall y gall fod gennych ddyledion i gredydwyr eraill yn ogystal â CThEF.
Dylech gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os na allwch dalu’r dreth sydd arnoch neu os ydych yn anghytuno â swm y ddyled.
Gallwch gael cyngor annibynnol ynghylch dyledion am ddim ar wefan MoneyHelper — os ydych chi’n cael trafferth talu CThEF a chredydwyr eraill.
Gallwch enwebu asiant treth proffesiynol, ffrind neu aelod o’r teulu i ddelio â’ch materion treth CThEF ar eich rhan os oes angen.
Updates to this page
-
Welsh translation added.
-
We have added guidance on what to do if you wish to make a complaint to HMRC about a debt collection agency.
-
Information regarding passing on information to the debt collection agency has been added to the The 'Debt collection agency phone calls' section.
-
Information about debt restructuring plans or schemes has been added to the 'Insolvency' section.
-
'Recovering the debt through your tax code' section has been added. It explains that we may adjust your tax code to collect any outstanding tax debts.
-
The list of debt collection agencies used by HMRC has been updated with one removal and one amendment.
-
International recovery agreements and contact details for customers who live permanently abroad have been added.
-
The list of debt collection agencies that HMRC may use to settle a debt has been updated.
-
An agency has been added to the list of debt collection agencies that HMRC may use to settle a debt.
-
Information on how to settle your debt directly during a home visit has been added.
-
Guidance has been added about when HMRC may use debt collection agencies and debt enforcement powers.
-
The insolvency section has been updated to clarify when insolvency usually applies.
-
A Welsh translation has been added.
-
First published.