Cwyno am CThEF

Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) cyn gynted â phosibl os oes gennych gŵyn am ei wasanaeth. Er enghraifft, oherwydd roedd oedi afresymol.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Dylech barhau i dalu treth tra bo’ch cwyn yn cael sylw. Os byddwch yn rhoi’r gorau i’ch taliadau neu’n oedi cyn talu, efallai y byddwn yn codi llog neu gosbau arnoch.

Pryd i apelio yn lle cyflwyno cwyn

Os ydych o’r farn bod eich cosb Hunanasesiad yn anghywir, dylech gyflwyno apêl ar gyfer cosb am dalu neu gyflwyno’n hwyr yn lle. Mae apeliadau yn caniatáu i CThEF adolygu’r penderfyniad a oedd wedi’i wneud pan wnaethom godi’r gosb.

Ar gyfer penderfyniad ar dreth wahanol, gallwch ofyn am apêl neu adolygiad. Mae hyn yn cynnwys:

  • biliau neu gosbau
  • penderfyniad ar ryddhad treth

Os byddwch yn cyflwyno cwyn pan ddylech fod wedi gofyn am apêl neu adolygiad, bydd hyn yn achosi oedi wrth i CThEF ymateb.

Dim ond os ydych yn anfodlon â’r gwasanaeth a gawsoch y gallwch gyflwyno cwyn, er enghraifft:

  • roedd oedi wrth brosesu
  • roeddem wedi ymddwyn neu gyfathrebu’n wael
  • roedd camgymeriadau wedi codi wrth ddelio â’ch cais

Cyn i chi gyflwyno cwyn

Os nad oes angen i chi gyflwyno cwyn, mae ffyrdd eraill o gysylltu â CThEF (yn agor tudalen Saesneg). Gallwch hefyd wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.

Os ydych yn asiant, defnyddiwch y Llawlyfr i asiantau treth (yn agor tudalen Saesneg) i ddod o hyd i wybodaeth am wasanaeth Rheolwyr Cyfrifon Asiantau CThEF a’r llinellau cymorth penodedig.

Ni all CThEF ymchwilio i gŵyn pan fo Swyddfa’r Dyfarnwr neu’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd wrthi’n ymchwilio i gŵyn.

Os ydych yn cyflwyno cwyn am TWE neu Hunanasesiad

Os ydych yn unigolyn, efallai y bydd modd i chi ddefnyddio’r gwasanaeth sgwrsio dros y we (yn agor tudalen Saesneg) i ddatrys eich problem cyn i chi gyflwyno cwyn ffurfiol.

Sut i gyflwyno cwyn

Cyflwyno cwyn ar-lein

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch greu rhai pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.

Cewch wybod a oes angen i chi brofi pwy ydych pan fyddwch yn mewngofnodi. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.

Gallwch chi wneud y canlynol:

Cyflwyno cwyn dros y ffôn neu drwy’r post

Gallwch hefyd gyflwyno cwyn dros y ffôn neu drwy’r post (yn agor tudalen Saesneg). Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), neu’ch rhif TAW
  • eich enw llawn, cyfeiriad, rhif ffôn a’ch cyfeiriad e-bost
  • manylion am beth ddigwyddodd a pha bryd
  • sut hoffech i ni ddelio â’ch cwyn

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch gyda’ch cwyn

Rhowch wybod i CThEF pan fyddwch yn cyflwyno cwyn a oes angen cymorth ychwanegol arnoch gyda’ch cwyn oherwydd cyflwr iechyd neu’ch amgylchiadau personol.

Os oes angen i rywun gyflwyno cwyn ar eich rhan

Gallwch ofyn i rywun arall gyflwyno cwyn ar eich rhan. Bydd angen i chi roi awdurdod i’r person hwnnw gael delio â CThEF ar eich rhan cyn y gall gyflwyno cwyn ar eich rhan.

Beth fydd yn digwydd pan fyddwch yn cyflwyno cwyn i CThEF

Bydd CThEF yn adolygu’ch cwyn. Bydd yn ymchwilio i beth ddigwyddodd a beth ddylai fod wedi digwydd. Enw arall ar hyn yw adolygiad ‘haen gyntaf’.

Ni fydd CThEF yn eich trin yn wahanol i unrhyw un arall oherwydd eich bod wedi cyflwyno cwyn. Bydd CThEF yn delio â’ch cwyn mewn ffordd deg a chyfrinachol ac yn ymchwilio i’r materion yn drwyadl.

Bydd CThEF yn ystyried ad-dalu unrhyw gostau rhesymol sydd wedi codi yn sgil camgymeriadau neu oedi y mae CThEF wedi’i achosi. Gall costau gynnwys y canlynol:

  • costau postio
  • costau ffonio
  • ffioedd proffesiynol

Cadwch afael ar eich derbynebau os ydych am gael ad-daliad.

Os byddwch yn anghytuno â chanlyniad yr adolygiad haen gyntaf

Gallwch ofyn i’ch cwyn gael ei hadolygu am yr eildro. Enw arall ar hyn yw adolygiad ‘ail haen’.

Gallwch wneud hyn naill ai ar-lein neu drwy’r post gan ddefnyddio’r cyfeiriad a roddodd CThEF i chi yn ystod yr adolygiad haen gyntaf.

Bydd person gwahanol yn adolygu’ch cwyn, yn edrych ar sut gwnaeth CThEF ddelio â’ch cwyn yn ystod yr adolygiad haen gyntaf, ac yn rhoi gwybod i chi beth yw’r canlyniad.

Mae’r penderfyniad sy’n deillio o’r adolygiad ail haen yn derfynol. Ni fyddwch yn gallu gofyn i CThEF am adolygiad arall.

Os byddwch yn anghytuno â chanlyniad yr adolygiad ail haen

Gallwch ofyn i Swyddfa’r Dyfarnwr adolygu’ch cwyn. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi sut i wneud hyn.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael yn rhad ac am ddim, ac mae’n annibynnol ar CThEF.

Dim ond os yw CThEF wedi cynnal adolygiad haen gyntaf ac adolygiad ail haen y gallwch ofyn i Swyddfa’r Dyfarnwr edrych ar eich cwyn.

Os byddwch yn anghytuno â Swyddfa’r Dyfarnwr

Gallwch ofyn i’ch Aelod Seneddol gyfeirio’ch cwyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.