Canllawiau

Sut i gael eich awdurdodi i weithredu fel asiant treth ar ran eich cleientiaid

Dysgwch am y gwahanol ffyrdd y gall eich cleient eich awdurdodi, gan gynnwys ysgwyd llaw’n ddigidol, gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein, ffurflenni papur a thrwy gyfrif treth busnes eich cleient.

Unwaith eich bod chi wedi cofrestru fel asiant treth (yn agor tudalen Saesneg), mae’n rhaid i’ch cleient eich awdurdodi fel y gallwch wneud trafodion ar ei ran.

Ni ddylech ddefnyddio manylion mewngofnodi eich cleient ar gyfer gwasanaethau CThEF, na chael mynediad at ei gyfrif treth ar-lein.

Os yw’ch cleient wedi’i gau allan o’r byd digidol, rhowch iddo’r cysylltiad at y cais am awdurdodiad a rhif i gysylltu â CThEF (yn agor tudalen Saesneg). Bydd rhywun yn cyfeirio eich cleient i’r Tîm Cymorth Ychwanegol, a fydd yn mynd â’ch cleient drwy’r broses dros y ffôn.

Dysgwch am y gwahanol ffyrdd y gall eich cleient eich awdurdodi

Yn dibynnu ar ba wasanaethau treth y byddwch yn eu defnyddio, mae yna wahanol ffyrdd i’ch cleient eich awdurdodi, gan gynnwys:

  • ysgwyd llaw’n ddigidol

  • ar-lein

  • gofyn i’ch cleient eich awdurdodi drwy ei gyfrif treth busnes

  • ffurflenni papur

Dilynwch y camau hyn i helpu’ch cleient eich awdurdodi.

  1. Defnyddiwch y tabl i ddarganfod y gwahanol ffyrdd y gall eich cleient eich awdurdodi ar gyfer y gwasanaeth treth sydd ei angen arnoch.

  2. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar ôl y tabl ar sut i gael eich awdurdodi.

Os ydych yn defnyddio’r gwasanaeth Trethi Stamp, nid oes angen i’ch cleient eich awdurdodi i gyflwyno Ffurflen Dreth gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).

  Gwasanaeth treth     Sut i wneud cais ar-lein Sut i wneud cais yn ysgrifenedig
Treth Flynyddol ar Anheddau wedi’u Hamgáu (ATED) gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol ar gyfer ATED gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen ATED1
Treth Enillion Cyfalaf ar eiddo yn y DU gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol amherthnasol
Elusennau gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen ar-lein ChV1 gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur ChV1
Cynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS) gwneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein neu drwy gyfrif treth busnes eich cleient amherthnasol
Treth Gorfforaeth gwneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur 64-8
Gwarantau Ar Sail Cyflogaeth (ERS) gwneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein amherthnasol
Treth Hapchwarae gwneud cais drwy gyfrif treth busnes eich cleient amherthnasol
Budd-dal Plant Incwm Uchel gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen ar-lein CH995 gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur CH995
Dangosydd Cofnodion Incwm gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol amherthnasol
TWE Unigolyn neu Yswiriant Gwladol amherthnasol  gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur 64-8
Toll Peiriannau Hapchwarae gwneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein neu drwy gyfrif treth busnes eich cleient amherthnasol
Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm gwneud cais gan ddefnyddio ysgwyd llaw’n ddigidol, neu gallwch symud eich awdurdodiadau ar gyfer Hunanasesiad o’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF i’ch cyfrif gwasanaethau asiant amherthnasol
Hysbysiad o Gerbydau’n Cyrraedd (NOVA) gwneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein neu drwy gyfrif treth busnes eich cleient amherthnasol
Gwasanaeth Cofrestru Treth Ar-lein gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol amherthnasol
TWE gwneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein neu drwy gyfrif treth busnes eich cleient gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur 64-8
Treth Deunydd Pacio Plastig gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol amherthnasol
Colofn 2 gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol amherthnasol 
Hunanasesiad gwneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur 64-8
Credydau Treth a Budd-dal Plant gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen ar-lein TC689 gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur TC689
Awdurdodiad dros dro at ddiben gwiriad cydymffurfio gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen ar-lein Comp1 amherthnasol
Gwasanaeth Cofrestru Ymddiriedolaethau gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol amherthnasol
TAW gwneud cais drwy ysgwyd llaw’n ddigidol amherthnasol
TAW (Hanesyddol) gwneud cais drwy gyfrif treth busnes eich cleient gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur 64-8
Gwasanaeth Un Cam ar gyfer TAW (GUC) gwneud cais gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein neu drwy gyfrif treth busnes eich cleient amherthnasol

Cael eich awdurdodi drwy ysgwyd llaw’n ddigidol

Dysgwch sut gall eich cleient eich awdurdodi drwy ysgwyd llaw’n ddigidol (yn agor tudalen Saesneg).

Cael eich awdurdodi gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein

Dysgwch sut gall eich cleient eich awdurdodi gan ddefnyddio’r gwasanaeth Awdurdodi Asiant ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).

Cael eich awdurdodi drwy gyfrif treth busnes eich cleient

Gallwch ofyn i’ch cleient eich awdurdodi drwy ei gyfrif treth busnes ei hun. Bydd angen eich Dynodydd Porth y Llywodraeth ar gyfer yr asiant arno i wneud hynny. Gallwch ddod o hyd i hwn drwy ddilyn y camau canlynol.

  1. Mewngofnodwch i’ch gwasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer cyfrif asiant.

  2. Dewiswch ‘Awdurdodi cleient’.

  3. Dewch o hyd i’ch dynodydd yn y sgrin nesaf o dan y teitl, ‘Dynodydd asiant’.

Cael eich awdurdodi gan ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, ffurflenni ar-lein neu ffurflenni papur

Os oes angen i’ch cleient eich awdurdodi gan ddefnyddio gwasanaethau ar-lein, ffurflenni ar-lein neu ffurflenni papur, gallwch ddefnyddio’r canlynol i wneud hyn:

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 Rhagfyr 2025 show all updates
  1. The Making Tax Digital for Income Tax entry in the ‘Find out the different ways to get client authorisation’ section has been updated.

  2. Information has been added about giving an authorisation link to a digitally excluded client, and how to get limited authorisation from a client.

  3. Added translation

  4. Information about getting authorisation when using the Multinational Top-up Tax (MTT) or Domestic Top-up Tax (DTT) service has been added.

  5. Information on what to do if your client is digitally excluded and how to get authorised has been updated. The entries for 'Making Tax Digital for VAT' and 'VAT' have been updated to 'VAT (previously Making Tax Digital VAT)' and 'VAT (Legacy)'.

  6. The table has been updated to confirm the ways a tax agent can apply for authorisation to transact on behalf of a client for VAT.

  7. Information on form FB12 has been removed because you now only need to use form 64-8 to authorise an agent.

  8. First published.

Argraffu'r dudalen hon