Ffurflen

Awdurdodi ymgynghorydd i ddelio â’ch Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel

Defnyddiwch y gwasanaeth ffurflen ar-lein neu ffurflen bost CH995 i ganiatáu i ymgynghorydd treth neu gyfrifydd weithredu ar eich rhan mewn perthynas â materion sy’n gysylltiedig â’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.

Dogfennau

Awdurdodi ymgynghorydd treth ar-lein (mewngofnodi drwy ddefnyddio Porth y Llywodraeth)

Awdurdodi ymgynghorydd treth ar gyfer materion Tâl Incwm Uchel Budd-dal Plant (CH995)

Awdurdodi ymgynghorydd treth ar gyfer materion Tâl Incwm Uchel Budd-dal Plant: Fersiwn PDF (CH995)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Gallwch awdurdodi ymgynghorydd treth (er enghraifft, cyfrifydd) i weithredu ar eich rhan i ddelio ag unrhyw faterion sy’n gysylltiedig â’ch Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.

Er mwyn awdurdodi ymgynghorydd treth drwy ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Ar ôl iddo gael ei awdurdodi, bydd yn gallu cysylltu â’r Swyddfa Budd-dal Plant:

  • ynghylch unrhyw daliadau Budd-dal Plant rydych wedi’u cael
  • os byddwch yn penderfynu stopio neu ailddechrau’ch taliadau Budd-dal Plant
  • i drafod materion mewn perthynas â’ch Budd-dal Plant ar eich rhan

Mae’n rhaid i’r person a hawliodd Fudd-dal Plant lenwi’r ffurflen.
Rhaid i chi roi gwybod i’r Swyddfa Budd-dal Plant ar unwaith os ydych am gael gwared â’ch ymgynghorydd treth enwebedig, neu ei newid, a chanslo’r awdurdodiad hwn.

Pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth ffurflen ar-lein

Rhoddir cyfeirnod i chi pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen ar-lein. Gallwch ddefnyddio’r cyfeirnod hwn i ddilyn hynt y ffurflen.

Os byddwch yn defnyddio’r ffurflen argraffu ac anfon

Yn lle gwneud cais ar-lein, gallwch lenwi’r ffurflen ar y sgrin, ei hargraffu a’i hanfon atom.

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen yn ei chyfanrwydd cyn i chi allu’i hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i llenwi’n rhannol, felly gwnewch yn siŵr bod gennych yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch cyn i chi ddechrau ei llenwi.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol (mae hwn i’w weld ar eich slip cyflog, P60 neu Ffurflen Dreth)
  • enw cyntaf, cyfenw a dyddiad geni’ch plentyn
  • enw neu enw busnes, a chyfeiriad eich ymgynghorydd treth

Anfonwch eich ffurflen i:

Swyddfa Budd-dal Plant
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
Tŷ Thedford
Stryd Fawr
Porthmadog
LL49 9BF

Os anfonwch y ffurflen drwy’r post, ni allwch ddilyn ei hynt ar-lein.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, na llenwi’r ffurflen ar y sgrin, gallwch ei hargraffu, ei llenwi â llaw a’i hanfon i’r cyfeiriad uchod.

Cyn i chi ddechrau

Os ydych yn defnyddio hen borwr (er enghraifft Internet Explorer 8) bydd angen i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth am borwyr. Os ydych yn defnyddio dyfais symudol (er enghraifft ffôn clyfar, iPad neu lechen arall) gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu argraffu o’ch dyfais cyn dechrau.

Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig

Hawlio Budd-dal Plant a delio ag ef ar ran rhywun arall
Arweiniad ar sut i ddelio â’r Swyddfa Budd-dal Plant ar ran rhywun arall.

Cyhoeddwyd ar 9 April 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 March 2021 + show all updates
  1. The 'If you use the print and post form' section has been updated so that you no longer need your Child Benefit number to complete the print and post form when applying to authorise an adviser to deal with your High Income Child Benefit Charge.

  2. A Welsh translation has been added.

  3. Guidance has been updated to show you can no longer use form 64/8 to authorise a tax adviser.

  4. A new tax adviser print and post form is available to use

  5. A new online form is available to use.

  6. Welsh translation added.

  7. First published.