Canllawiau

Newid manylion elusen

Newid manylion arwyddocaol am elusen gydnabyddedig gan ddefnyddio ffurflen ChV1.

Os yw’ch sefydliad yn cael ei gydnabod fel elusen gan CThEF, gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i roi gwybod i ni am newidiadau sylweddol i fanylion yr elusen.

Gallai newidiadau sylweddol gynnwys newidiadau i’r canlynol:

  • manylion cyswllt
  • swyddogion awdurdodedig
  • enwebeion, fel asiantau treth
  • manylion cyfrif banc

Gallwch wneud un o’r canlynol:

  • defnyddio’r gwasanaeth ar-lein
  • llenwi’r ffurflen ar-lein, ei hargraffu a’i hanfon drwy’r post i CThEF

Os ydych yn enwi person sydd heb rif Yswiriant Gwladol, bydd yn rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen bost.

Esboniwch yr amgylchiadau yn adran 55, o dan ‘unrhyw newidiadau eraill’.

Newid manylion ar-lein

Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio’r Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth a ddefnyddiwyd gennych wrth gofrestru’ch elusen gyda CThEF.

Dechrau nawr

Newid manylion drwy’r post

ChV1: Newid manylion drwy’r post

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch different.format@hmrc.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  1. Lawrlwytho’r ffurflen ChV1 a’i chadw ar eich cyfrifiadur.
  2. Agor y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader sy’n rhad ac am ddim.
  3. Llenwi’r ffurflen ar y sgrin. Defnyddiwch yr arweiniad ynghylch sut i lenwi ffurflen ChV1 i’ch helpu chi.
  4. Argraffu’r ffurflen a’i hanfon drwy’r post i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os byddwch yn ceisio’i hagor yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Os ydych yn asiant treth

Bydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein Elusennau i Asiantau.

Gofynnwch i’ch cleient lenwi’r ffurflen hon ac i nodi’ch manylion chi fel enwebai.

Byddwn yn anfon cyfeirnod asiant a chyfeirnod cwsmer atoch drwy’r post. Gallwch ddefnyddio’r cyfeirnodau hyn i ymrestru’r gwasanaeth ar-lein Elusennau i Asiantau ar eich cyfrif Porth y Llywodraeth.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Ebrill 2025

Argraffu'r dudalen hon