Awdurdodi asiant i ymdrin â’ch materion treth
Gwiriwch be all asiant sy’n cael ei dalu yn gallu gwneud ar eich rhan. Mae sut yr ydych yn awdurdodi’r asiant yn dibynnu ar y dreth, ac efallai bydd yn rhaid i chi ddefnyddio ffurflen bapur 64-8 neu wasanaeth ar-lein.
Mae’r canllaw yn delio ag awdurdodi asiant sy’n cael ei dalu, megis cyfrifydd proffesiynol neu ymgynghorydd treth. Mae ffordd wahanol i benodi ffrind neu berthynas (yn agor tudalen Saesneg) delio â CThEF ar eich rhan.
Sut i awdurdodi asiant
Bydd eich asiant yn rhoi gwybod i chi sut y mae o eisiau i chi ei awdurdodi.
Yn dibynnu ar ba wasanaethau treth rydych chi a’ch asiant yn eu defnyddio, mae yna wahanol ffyrdd i roi awdurdod i’ch asiant, gan gynnwys:
-
ysgwyd llaw’n ddigidol — mae’ch asiant yn anfon e-bost atoch gyda chysylltiad
-
awdurdodi asiant ar-lein — mae’ch asiant yn cyflwyno cais i CThEF, byddwn wedyn yn anfon llythyr atoch gyda chod awdurdodi ac rydych yn rhoi’r cod i’ch asiant
-
drwy’ch cyfrif treth busnes ar gyfer treth penodol — ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y dreth a’i hychwanegu i’ch cyfrif treth busnes
-
ffurflenni papur — ffurflen neu lythyr o awdurdod ‘64-8 Awdurdodi’ch asiant’
Gwiriwch yr holl ffyrdd y gellir awdurdodi asiant ar gyfer y gwasanaethau treth sydd eu hangen arnoch.
Byddwch yn dal i fod yn gyfrifol yn ôl y gyfraith am eich treth eich hunan.
Os yw’ch asiant yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth, mae’n rhaid i chi wirio’r wybodaeth a rhoi gwybod iddo ei fod yn gywir cyn iddo’i chyflwyno hi i ni.
Os ydych yn asiant
Gofynnir i chi roi’ch cod asiant 6 digid ar gyfer Hunanasesiad, TWE neu Dreth Gorfforaeth.
Os nad oes un gennych, cewch gyfeirnod neu god asiant (yn agor tudalen Saesneg) pan ydych yn cofrestru ac yn cael eich awdurdodi fel asiant treth i ddelio â CThEF.
Yr hyn all asiant awdurdodedig ei wneud ar eich rhan
Cynllun y Diwydiant Adeiladu
Pan fydd wedi’i awdurdodi, gall eich asiant gael mynediad at eich Ffurflenni Treth, incwm is-gontractwyr a didyniadau.
Dysgwch ragor am Gynllun y Diwydiant Adeiladu (yn agor tudalen Saesneg).
Treth Gorfforaeth
Pan gaiff ei awdurdodi, bydd eich asiant yn:
-
cael mynediad at wybodaeth am eich cwmni a’ch gwybodaeth ariannol
-
gallu diweddaru manylion cyfathrebu a chyswllt y cwmni
Dysgwch ragor am dalu Treth Gorfforaeth (yn agor tudalen Saesneg).
Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Unwaith y bydd eich asiant wedi’i awdurdodi, bydd yn gallu gwneud y canlynol:
- eich cofrestru chi ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
- creu, cadw, a chywiro cofnodion digidol o’ch incwm o hunangyflogaeth ac eiddo a’ch treuliau
- anfon eich diweddariadau chwarterol at CThEF
- cyflwyno’ch Ffurflen Dreth a thalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol
Dysgwch ragor am y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
TWE — Cyflogwyr
Pan fydd wedi’i awdurdodi, bydd gan eich asiant fynediad at wybodaeth bersonol ac ariannol eich cyflogeion.
Dysgwch ragor am TWE y Cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg).
TWE — Unigolion
Drwy gyflwyno’r ffurflen ‘64-8 Awdurdodi eich asiant’ at ddibenion TWE Unigolyn, bydd eich asiant yn gallu cael mynediad at y canlynol:
-
pwy rydych wedi gweithio yn y gorffennol
-
gwybodaeth am fuddiannau trethadwy, megis yswiriant meddygol a char cwmni
-
pensiynau
-
dyddiadau dechrau a dod i ben eich rhan yn y broses TWE
Hunanasesiad
Unwaith y bydd eich asiant wedi’i awdurdodi, bydd yn gallu gwneud y canlynol:
-
cyflwyno Ffurflenni Treth ar eich rhan
-
gwneud hawliadau am ryddhad treth yn eich Ffurflenni Treth
-
trafod eich Ffurflenni Treth cyfredol a blaenorol â ni
-
bwrw golwg dros a newid eich manylion, megis ffynonellau incwm
-
rhoi manylion banc i ni, pan fo ad-daliad yn ddyledus
-
bwrw golwg dros a chyflwyno’ch diweddariadau (incwm a threuliau)
-
cwblhau’ch sefyllfa dreth gyffredinol
-
bwrw golwg dros eich cyfrifiadau a’r symiau dyledus a’r symiau sydd wedi’u talu
-
canslo’ch cofrestriad Hunanasesiad
Bydd eich asiant hefyd â mynediad at eich manylion Hunanasesiad, megis eich:
-
enw
-
cyfeiriad y cwmni
-
rhif Yswiriant Gwladol
-
Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr
Cyn i chi awdurdodi asiant, mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad yn gyntaf. Os oes gennych gyfrif Hunanasesiad eisoes gallwch ddefnyddio’r ffurflen ‘64-8 Awdurdodi’ch asiant’ i awdurdodi asiant.
Credydau treth
Pan gaiff ei awdurdodi, bydd eich asiant yn cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol ac ariannol sy’n ymwneud â’ch hawliad am gredyd treth. Gall weithredu ar eich rhan ond ni all gael taliadau. Bydd gohebiaeth yn dal i gael ei hanfon atoch.
Ar gyfer hawliadau ar y cyd am gredydau treth, mae angen i’r ddau hawliwr lofnodi’r ffurflen hon er mwyn awdurdodi’ch asiant.
Ymddiriedolaethau
Darllenwch reoli manylion eich ymddiriedolaeth i ddysgu sut i:
-
cofrestrwch ymddiriedolaeth a’i chynnal ar-lein
-
awdurdodi’ch asiant i gael mynediad at yr ymddiriedolaeth
Drwy awdurdodi’ch asiant yn y gwasanaeth ar-lein byddant yn gallu cael mynediad at yr wybodaeth bersonol ac ariannol ar gyfer eich ymddiriedolaeth.
Ni fydd yr awdurdod ‘64-8 Awdurdodi’ch asiant’ yn rhoi i’ch asiant fynediad at y gwasanaeth ar-lein.
TAW
Pan gaiff ei awdurdodi, gall eich asiant (yn ysgrifenedig neu dros y ffôn yn unig):
-
trafod eich TAW â ni
-
llofnodi dogfennau papur ar eich rhan
-
bwrw golwg dros eich manylion TAW, eu newid a’u cyflwyno
-
bwrw golwg dros eich taliadau a’ch rhwymedigaethau TAW
-
canslo’ch cofrestriad TAW
-
apelio yn erbyn cosb am gyflwyno’n hwyr neu am dalu’n hwyr
Gall eich asiant hefyd cael mynediad at y canlynol:
-
manylion eich cofrestriad TAW, megis enw’ch busnes a’ch manylion cyswllt
-
y Ffurflenni TAW a gyflwynwyd gennych
-
cyfrifiadau Ffurflenni TAW
-
y symiau sydd arnoch neu a dalwyd gennych
Os na allwch awdurdodi asiant drwy wasanaeth ar-lein neu’ch cyfrif treth busnes
Oni bai eich bod yn gallu awdurdodi asiant ar gyfer treth benodol drwy ddefnyddio gwasanaeth ar-lein neu’r cyfrif treth busnes, defnyddiwch ffurflen ‘64-8 Awdurdodi’ch asiant’.
Wrth lenwi’ch ffurflen:
-
gwnewch yn siŵr eich bod chi’n defnyddio’r ffurflen ‘64-8 Awdurdodi’ch asiant’
-
gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth wedi’i theipio neu ei hysgrifennu’n glir ar y ffurflen
-
rhowch y codau asiant cywir ar gyfer y cyfundrefnau treth perthnasol, er enghraifft ‘PAYE XX1111’
-
peidiwch â chynnwys llythyr eglurhaol oni bai ei fod yn cynnwys gwybodaeth hanfodol sy’n angenrheidiol i brosesu’r ffurflen — mae’n rhaid cynnwys yr wybodaeth hon mewn llythyr
-
peidiwch ag ysgrifennu unrhyw beth ar y ffurflen y tu allan i’r blychau
-
peidiwch â darparu unrhyw wybodaeth ychwanegol yn y meysydd ffurflen heblaw am yr wybodaeth y gofynnwyd amdani — er enghraifft, yn y maes ‘Cod asiant (SA)’ dim ond cynnwys y cod asiant cywir ar gyfer Hunanasesiad, sy’n cynnwys 6 nod 1111XX
-
peidiwch â chroesi trwy unrhyw flychau sydd heb eu defnyddio
Lawrlwytho’r ffurflen
Mae angen i chi wneud y canlynol:
-
Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.
-
Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader sy’n rhad ac am ddim.
-
Llenwch y ffurflen ar y sgrin yna ei hargraffu, neu argraffwch y ffurflen a’i llenwi.
-
Llofnodwch y ffurflen.
-
Anfonwch y ffurflen drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.
Rhoi awdurdodiad cyfyngedig i asiantau
Os ydych am awdurdodi asiant i ddelio â maes penodol o’ch treth, ond heb weithredu fel asiant treth llawn ar ein cofnodion, gelwir hyn yn awdurdodiad cyfyngedig.
Gall asiant sydd ag awdurdodiad cyfyngedig:
-
siarad â CThEF ac ateb unrhyw gwestiynau ar eich rhan
-
eich helpu i lenwi ffurflenni
Ni fydd gan yr asiant fynediad at eich treth ar-lein.
I roi awdurdodiad cyfyngedig i asiant i helpu i ddelio â’ch treth, ysgrifennwch at CThEF.
Swyddfa Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Chyflogwyr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Mae’n rhaid i’r llythyr o awdurdod cynnwys y canlynol:
-
eich enw a’ch cyfeiriad
-
eich cyfeirnod er enghraifft, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR)
-
enw a chyfeiriad yr asiant yr hoffech ei awdurdodi
-
eich llofnod
Os na allwch lofnodi’r llythyr o awdurdod, bydd angen i chi gysylltu â CThEF (yn agor tudalen Saesneg) neu gael rhywun arall i wneud hynny ar eich rhan.
Nid ydym bellach yn derbyn y ffurflen ‘64-8 Awdurdodi’ch asiant’ i ofyn am awdurdodiad cyfyngedig i weithredu ar ran unigolyn neu fusnes.
Newid neu ddileu awdurdodiad
Newid neu ddileu awdurdodiad eich asiant treth (yn agor tudalen Saesneg) os nad ydych bellach am iddo reoli’ch materion.
Updates to this page
-
The ‘What an authorised agent can do on your behalf’ section has been updated with an entry for ‘Making Tax Digital for Income Tax’.
-
A new section has been added about how to give limited authorisation to an agent.
-
Reference to form TC689 to authorise someone to act on your behalf for Tax Credits has been removed from the 64-8 form.
-
Information about completing form 64-8 to authorise your agent has been updated.
-
First published.