Asiantau ac ymgynghorwyr treth: awdurdod dros dro i alluogi CThEM ddelio gyda'ch ymgynghorwr treth (COMP1)
Defnyddiwch ffurflen COMP1 os ydych am i Gyllid a Thollau EM (CThEM) ddelio'n uniongyrchol gyda'ch ymgynghorwr mewn perthynas â gwiriad cydymffurfio.
Dogfennau
Manylion
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn defnyddio hen borwr, e.e. Internet Explorer 8, bydd yn rhaid i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth ynghylch porwyr.
Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn gyfan gwbl cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i chwblhau’n rhannol, felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth ynghyd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Mae’r ffurflen hon yn rhoi eich caniatâd ysgrifenedig i CThEM gyfnewid a datgelu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r gwiriad cydymffurfio gyda’r ymgynghorwr a enwir. Bydd ond yn cyfeirio at gyfnod y gwiriad cydymffurfio rydych yn ei nodi ar y ffurflen hon a bydd yn cwmpasu’r holl faterion a weinyddir gan CThEM sy’n cael eu gwirio.
Awdurdod dros dro yw hwn ac ni fydd yn dileu nac yn newid unrhyw awdurdod parhaol rydych eisoes wedi’i roi i CThEM.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 8 April 2015 + show all updates
-
Welsh version of form COMP1 added to the page.
-
First published.