Canllawiau

Cwyno am staff Cyllid a Thollau EM sydd wedi camymddwyn yn ddifrifol

Sut i gwyno am staff CThEM sydd wedi camymddwyn yn ddifrifol a sut y caiff eich cwyn ei thrin.

Mae CThEM yn ystyried bod camymddygiad difrifol gan ei staff yn ymddygiad troseddol neu’n agos i fod yn droseddol, ac mae’n cymryd cwynion o’r fath o ddifrif.

Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu sy’n goruchwylio sut mae CThEM yn trin y cwynion hyn.

Mae camymddygiad difrifol yn cynnwys:

  • ymosodiad sy’n arwain at farwolaeth neu anaf difrifol
  • llwgrwobrwyo
  • twyll
  • datgelu gwybodaeth cwsmeriaid heb awdurdod

Sut i gwyno

Bydd angen i chi roi cymaint o wybodaeth a phosibl i CThEM, gan gynnwys:

  • eich enw llawn a’ch cyfeiriad
  • eich cyfeirnod (er enghraifft, rhif Yswiriant Gwladol, cyfeirnod treth, rhif TAW neu gyfeirnod y cyflogwr)
  • yr hyn a aeth o’i le
  • pryd y digwyddodd hyn
  • pwy y gwnaethoch ddelio ag ef
  • pa effaith y cafodd gweithredoedd CThEM arnoch
  • sut yr hoffech i CThEM ddatrys y mater

Anfon eich cwyn

Nodwch ‘Y rheolwr’ ar flaen yr amlen.

Dewch o hyd i fanylion cyswllt CThEM ar gyfer yr adran berthnasol.

Mae yna gyfeiriad gwahanol ar gyfer dosbarthiadau cludwyr i CThEM.

Sut y caiff eich cwyn ei thrin

Bydd CThEM yn trefnu bod eich cwyn yn cael ei hadolygu gan rywun na fu eisoes yn ymwneud â’r mater hwn. Byddant yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnynt.

Pan fydd CThEM wedi adolygu’ch cwyn byddant yn ysgrifennu atoch gyda’u hateb ac amserlen ar gyfer ei datrys.

Cymryd eich cwyn ymhellach

Mae yna hawl i apelio mewn rhai achosion sydd wedi cael eu cyfeirio i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Cyhoeddwyd ar 1 December 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 February 2020 + show all updates
  1. The way you send your complaint to HMRC has changed.

  2. Added the contact address for complaints about serious misconduct.

  3. First published.