Treth Incwm, Hunanasesiad a mwy
Cysylltwch â CThEF am help gyda Threth Incwm, Hunanasesiad, credydau treth, Yswiriant Gwladol, TWE a mwy.
Ar-lein
Ffurflen Ymholiadau Cyffredinol
Gwneud cais am Ddull Amgen o Ddatrys Anghydfod (ADR) i setlo anghydfod treth
Ffurflen Drosglwyddo ar gyfer Angen Cefnogaeth Ychwanegol (ACY)
Gallwch hefyd gael gwybodaeth drwy’r canlynol:
- ap swyddogol CThEF
- eich Cyfrif Treth Personol neu Gyfrif Treth Busnes gan ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF
E-bost
E-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk:
- os oes gennych ymholiadau ynghylch treth
- i ofyn am ffurflen yn Gymraeg
Nodwch eich enw a’ch rhif ffôn. Os ydych yn gwneud cais am ffurflen yn Gymraeg, ychwanegwch enw a rhif y ffurflen (os yw’r wybodaeth honno ar gael).
Os yw CThEF yn ateb eich ymholiad drwy e-bost, nid yw’r wybodaeth yn ddiogel. Os oes angen iddynt gysylltu â chi ynglŷn ag unrhyw beth cyfrinachol, byddant yn gwneud hynny drwy lythyr neu dros y ffôn.
Ffôn
Ffoniwch CThEF am help gyda threth.
Mae gan ymholiadau tollau, ecséis a TAW rif gwahanol i’w llinell gymorth.
Ffôn: 0300 200 1900
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener, 8.30am i 5pm. Ar gau ar wyliau banc.
Darganfyddwch am gostau galwadau
Post
Anfonwch eich holl ohebiaeth Gymraeg sydd at sylw CThEF i’r cyfeiriad hwn:
Does dim rhaid i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post pan fyddwch yn ysgrifennu i’r cyfeiriad hwn.
Dylai negeswyr ddefnyddio cyfeiriad gwahanol (yn agor tudalen Saesneg).
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
United Kingdom