Canllawiau

Sut i gwyno wrth Swyddfa’r Dyfarnwr am CThEM neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Pryd a sut i gwyno wrth Swyddfa’r Dyfarnwr am Gyllid a Thollau EM (CThEM) neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).

Mae’n rhaid i chi gwyno wrth Gyllid a Thollau EM (CThEM) neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn y lle cyntaf, cyn i Swyddfa’r Dyfarnwr allu ymchwilio i’ch cwyn.

Gallwch ofyn i CThEM neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio am gael:

  • adolygiad cyntaf i ystyried eich cwyn
  • ail adolygiad os nad ydych yn cytuno â’r canlyniad

Ymchwiliad Swyddfa’r Dyfarnwr

Gall Swyddfa’r Dyfarnwr ymchwilio i’ch cwyn ynghylch CThEM neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio os yw’r canlynol yn wir:

  • chi yw’r person y mae’r gŵyn yn effeithio arno, neu rydych yn gynrychiolydd awdurdodedig
  • rydych wedi gofyn am adolygiad cyntaf ac ail adolygiad gan CThEM neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio
  • mae’ch cwyn yn un y gallwn ymchwilio iddi

Fel arfer, mae Swyddfa’r Dyfarnwr yn gallu derbyn eich cwyn hyd at 6 mis ar ôl i chi gael yr ail adolygiad gan CThEM neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Yr hyn y gall Swyddfa’r Dyfarnwr ymchwilio iddo

Mae Cytundeb Lefel Gwasanaeth Swyddfa’r Dyfarnwr gyda CThEM ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn esbonio’r mathau o gŵynion y gallwn ymchwilio iddynt. Gall Swyddfa’r Dyfarnwr ymchwilio i’r cwynion canlynol:

  • p’un a weithredwyd polisi ac arweiniad yn deg ac yn gyson
  • gwallau gweinyddol gan gynnwys oedi afresymol, camgymeriadau a chyngor gwael neu gamarweiniol
  • sut y gweithredwyd disgresiwn
  • ymddygiad staff a arweiniodd at wasanaeth gwael i gwsmeriaid

Yr hyn na all Swyddfa’r Dyfarnwr ymchwilio iddo

Ni all Swyddfa’r Dyfarnwr ymchwilio i’r canlynol:

  • materion yn ymwneud â pholisi’r llywodraeth neu’r adran
  • cwynion pan fo hawl benodol i wneud penderfyniad gan unrhyw lys, tribiwnlys neu gorff arall ag awdurdodaeth benodol ar y mater
  • penderfyniadau prisio Swyddogion Statudol yn Asiantaeth y Swyddfa Brisio
  • cwynion ynghylch p’un a yw CThEM neu Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi cydymffurfio â Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 2018
  • cwynion ynghylch ymchwiliad neu ymholiad sydd ohoni
  • y penderfyniad ffurfiol a wnaed fel rhan o broses y Dull Amgen o Ddatrys Anghydfod
  • cwynion ynghylch camymddygiad y gallai Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu neu Gomisiwn Cwynion yr Heddlu ar gyfer yr Alban eu hystyried
  • cwynion ynghylch contract masnachol neu gontract cyflogaeth rhyngoch chi a CThEM
  • cwynion y mae’r Ombwdsmon Seneddol wrthi’n ymchwilio neu wedi ymchwilio iddynt

Sut i gwyno

I gwyno, defnyddiwch ein ffurflen ar-lein.

Os yw’ch cwyn ar ôl y cyfnod o 6 mis, rhowch wybod i ni pam ac efallai y byddwn yn ei derbyn o dan amgylchiadau eithriadol.

Mae’r arweiniad ynghylch Rôl y Dyfarnwr yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut rydym yn ymchwilio i gŵynion.

Os bydd angen unrhyw help neu addasiad rhesymol arnoch wrth ddelio â ni, rhowch wybod i ni.

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, gallwch anfon eich cais drwy’r post.

Cwyno am wasanaeth neu benderfyniad Swyddfa’r Dyfarnwr

Mae gwybodaeth am sut i gwyno am wasanaeth neu benderfyniad y Dyfarnwr ar gael.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 26 Gorffennaf 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 Ionawr 2025 show all updates
  1. Added translation

  2. Service Level Agreement hyperlink updated.

  3. Added Welsh translation

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon