Canllawiau

Rôl y Dyfarnwr

Arweiniad i egluro rôl y Dyfarnwr a Swyddfa’r Dyfarnwr wrth ymchwilio i gwynion ynghylch Cyllid a Thollau EM (CThEM) ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA).

Rôl y Dyfarnwr yw gwneud y canlynol:

  • Darparu adolygiad annibynnol o gŵynion gan gwsmeriaid nad yw’r adran (Cyllid a Thollau EM / Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA)) wedi gallu eu datrys.
  • Datrys cwynion trwy ddarparu gwasanaeth hygyrch a hyblyg.
  • Cefnogi ac annog datrys cwynion yn effeithiol.
  • Defnyddio dealltwriaeth ac arbenigedd i gefnogi CThEM / VOA i ddysgu o gŵynion ac i wella gwasanaeth i gwsmeriaid.

Yr hyn y gallwn edrych arno

Mae ein Cytundeb Lefel Gwasanaeth gyda’r adran yn diffinio’r mathau o gŵynion y gallwn edrych arnynt. Mae’n amlinellu’r hyn y byddwn yn ymchwilio iddo. Gallwn ymchwilio i’r cwynion canlynol am yr adran:

  • P’un a weithredwyd polisi ac arweiniad yn deg ac yn gyson.
  • Gwallau gweinyddol gan gynnwys oedi afresymol, camgymeriadau a chyngor gwael neu gamarweiniol.
  • Sut y gweithredwyd disgresiwn.
  • Ymddygiad staff

Mae rhai mathau o gŵynion na allwn edrych arnynt. Mae rhagor o wybodaeth am y rhain i’w chael ar ein tudalen arweiniad ar sut i gwyno i Swyddfa’r Dyfarnwr.

Yr hyn yr ydym yn ei wneud

  • Eich cynghori ynghylch pa rannau o’ch cwyn y gallwn ymchwilio iddynt.
  • Ymchwilio i’ch cwyn, gan ofyn am wybodaeth gan yr adran lle bo angen er mwyn deall beth ddigwyddodd.
  • Gwneud penderfyniadau teg, cytbwys a diduedd yn seiliedig ar dystiolaeth.
  • Os byddwn yn ategu’ch cwyn mae’n golygu bod yr adran wedi gwneud pethau’n anghywir a byddwn yn gwneud argymhelliad iddi.
  • Byddwn yn darparu ymateb ysgrifenedig terfynol.
  • Adborth i’r adran ar unrhyw wersi a ddysgwyd a all helpu i wella gwasanaeth i gwsmeriaid

Sut i gwyno

Os ydych yn anfodlon â’r gwasanaeth a gawsoch gan yr adran, gallwch wneud cwyn a gofyn iddynt adolygu’ch achos.

Adolygiad Cyntaf

Cysylltwch â CThEM / VOA er mwyn iddynt ystyried eich cwyn. Os yw’ch cwyn yn dal heb ei datrys, gallwch ofyn i’r adran am ail adolygiad.

Ail Adolygiad

Cysylltwch â CThEM / VOA er mwyn iddynt adolygu eich cwyn.

Adolygiad Annibynnol Swyddfa’r Dyfarnwr

Mae’n rhaid i chi fod wedi cwblhau’r ddau adolygiad er mwyn i ni edrych ar eich cwyn. Os ydych yn anghytuno â sut mae’r adran wedi delio â’ch cwyn, gallwch ofyn i ni am adolygiad annibynnol ffurfiol, cyn pen 6 mis o ail adolygiad yr adran.

PHSO Adolygiad Terfynol

Os yw’ch cwyn yn dal heb ei datrys, gallwch ofyn i AS gyflwyno’ch cwyn i’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (PHSO)

Beth nesaf

Os ydych o’r farn y gallwn edrych ar eich cwyn, gallwch gysylltu â ni drwy’r dulliau canlynol:

Neu ysgrifennwch atom yn:

Swyddfa’r Dyfarnwr /Adjudicator’s Office
PO Box 11222
Nottingham
NG2 9AD

Rhestr wirio ar gyfer cwynion

  • Nodwch eich cwyn yn glir ynghyd â’r hyn yr hoffech ei weld yn digwydd
  • Cyflwynwch unrhyw dystiolaeth i ategu’ch cwyn (os oes angen unrhyw ddogfennau yn ôl arnoch, bydd angen i chi ofyn amdanynt cyn pen 50 diwrnod gwaith, sef hyd ein polisi cadw)
  • Eich rhif ffôn a’r dull cysylltu yr hoffech i ni ei ddefnyddio
Cyhoeddwyd ar 10 September 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 September 2023 + show all updates
  1. Added translation

  2. Our address has been updated.

  3. Added translation