Canllawiau

Sut i gwyno am wasanaeth neu benderfyniad Swyddfa’r Dyfarnwr

Pryd a sut i gwyno wrth Swyddfa’r Dyfarnwr am ei gwasanaeth neu ei phenderfyniad.

Fel rhan o’n hymchwiliad, bydd Swyddfa’r Dyfarnwr yn adolygu’r hyn rydych wedi’i anfon atom ac yn gwneud unrhyw ymholiadau angenrheidiol.

Byddwn wedyn yn:

  • gwneud ein penderfyniad
  • gwneud argymhellion os byddwn yn penderfynu bod angen i Gyllid a Thollau EM (CThEM), Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu’r Swyddfa Gartref unioni pethau
  • ysgrifennu atoch chi (neu’ch cynrychiolydd) a CThEM, Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu’r Swyddfa Gartref gydag eglurhad o’n penderfyniad

Sut i ofyn am adolygiad annibynnol ar benderfyniad Swyddfa’r Dyfarnwr

Os ydych yn anfodlon ar ein penderfyniad, gallwch ofyn i Aelod Seneddol (AS) anfon eich cais am adolygiad neu’ch cwyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd

Mae’n rhaid i chi roi’r wybodaeth ganlynol i’r AS:

  • manylion llawn sy’n egluro pam yr ydych yn anfodlon a’r hyn yr hoffech iddo ddigwydd
  • unrhyw dystiolaeth i ategu’ch safbwynt (os oes angen unrhyw ddogfennau yn ôl arnoch, bydd angen i chi ofyn amdanynt cyn pen 50 diwrnod gwaith, sef hyd ein polisi cadw dogfennau)
  • eich rhif ffôn a’ch dull cysylltu dewisol

Gwneud cwyn ynghylch gwasanaeth Swyddfa’r Dyfarnwr

Wrth ddelio â’ch cwyn, byddwn yn:

  • eich trin mewn modd cwrtais a phroffesiynol
  • diogelu’r wybodaeth a rowch i ni
  • defnyddio iaith glir ac yn osgoi jargon, lle bo hynny’n bosibl, wrth gyfathrebu â chi
  • rhoi eglurhad o sut rydym wedi trin eich cwyn

Os ydych yn anfodlon ar ein gwasanaeth yn hytrach na’n penderfyniad, rhowch wybod i’r aelod o staff sy’n delio â’ch cwyn.

Os na chaiff y mater ei ddatrys i’ch boddhad, cysylltwch â ni.

Os ydych yn dal i fod yn anfodlon ar ein gwasanaeth, ysgrifrennwch at ein Pennaeth Swyddfa i gael ail adolygiad.

Ateb Pennaeth Swyddfa’r Dyfarnwr yw ein pendefyniad terfynol ar eich cwyn ynghylch ein gwasanaeth. Os ydych yn dal i fod yn anfodlon ar ôl yr adolygiad hwn, gallwch ofyn i AS gyflwyno’ch cwyn i’r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.

Sut mae Swyddfa’r Dyfarnwr yn helpu CThEM, Asiantaeth y Swyddfa Brisio a’r Swyddfa Gartref i ddysgu o gŵynion

Rydym yn sefydliad sy’n dysgu ac rydym yn croesawu adborth. Byddwn bob amser yn ystyried adborth, a lle caiff gwersi ehangach eu codi, byddwn yn bachu ar y cyfle hwn i wella gwasanaeth i gwsmeriaid.

Cyhoeddwyd ar 9 December 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 13 May 2021 + show all updates
  1. Added Welsh translation

  2. We updated the page to include our Windrush Compensation Scheme independent review role.

  3. First published.