Skip to main content
Canllawiau

Cysylltu â Swyddfa’r Dyfarnwr

Cael gwybod sut i gysylltu â Swyddfa’r Dyfarnwr.

Cysylltu â Swyddfa’r Dyfarnwr

Mae Swyddfa’r Dyfarnwr yn ymchwilio i gŵynion am Gyllid a Thollau EM (CThEM) ac am y Swyddfa Brisio.

Mae’n rhaid i chi gwyno wrth Gyllid a Thollau EM (CThEM) neu’r Swyddfa Brisio (VO) yn y lle cyntaf, cyn i Swyddfa’r Dyfarnwr allu ymchwilio i’ch cwyn.

Gallwch ofyn i CThEM neu’r Swyddfa Brisio am gael:

  • adolygiad cyntaf i ystyried eich cwyn
  • ail adolygiad os nad ydych yn cytuno â’r canlyniad

Rydym yn adolygu penderfyniadau’r Swyddfa Gartref ynghylch hawl i iawndal a wnaed o dan y Cynllun Iawndal Windrush. Yn ychwanegol, rydym yn ymchwilio i gŵynion ynghylch sut y gwnaeth y Swyddfa Gartref ddelio â hawliad am iawndal a wnaed o dan y Cynllun Iawndal Windrush.

Pan fyddwch yn cysylltu â ni, rhowch unrhyw gyfeirnod a roddwyd i chi gan y sefydliad perthnasol.

I gwyno neu i ofyn am adolygiad, gallwch:

Swyddfa’r Dyfarnwr / The Adjudicator’s Office
PO Box 11222
Nottingham
NG2 9AD

Os oes angen unrhyw help neu addasiad rhesymol arnoch wrth ddelio â ni, rhowch wybod i ni.

Ffôn

Ffôn: 0300 057 1111
Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm
Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc.

Gwybodaeth am gost galwadau.

Argraffu'r dudalen hon