Canllawiau

Cysylltu â Swyddfa’r Dyfarnwr ar-lein

Defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon i wneud cwyn yn erbyn CThEM, Asiantaeth y Swyddfa Brisio neu Swyddfa’r Dyfarnwr, neu i ofyn am adolygiad o benderfyniad ynghylch y Cynllun Iawndal Windrush.

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein hon i gysylltu â Swyddfa’r Dyfarnwr er mwyn:

  • cwyno am Gyllid a Thollau EM (CThEM) neu am Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA)
  • gofyn am adolygiad o benderfyniad gan y Swyddfa Gartref ar hawl o dan y Cynllun Iawndal Windrush, neu gwyno am y ffordd yr ymdriniwyd â’ch cais
  • cwyno am wasanaeth neu benderfyniad Swyddfa’r Dyfarnwr

Cyn i chi ddechrau

Gwiriwch a allwch gysylltu â Swyddfa’r Dyfarnwr er mwyn:

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen i chi fewngofnodi i lenwi’r ffurflen ar-lein, gan ddefnyddio’r naill neu’r llall o’r canlynol:

  • eich cyfeiriad e-bost
  • eich cyfrif Porth y Llywodraeth os oes gennych un eisoes

Bydd angen i chi wneud y canlynol hefyd:

  • rhoi’ch manylion cyswllt, gan gynnwys eich rhif ffôn, eich cyfeiriad post a’ch cyfeiriad e-bost
  • esbonio pam rydych yn cysylltu â Swyddfa’r Dyfarnwr
  • awgrymu beth hoffech ei weld yn digwydd nesaf

Os ydych yn cynrychioli rhywun arall

Bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol hefyd:

  • rhoi cyfeiriad post a chyfeiriad e-bost y person rydych yn gweithredu ar ei ran
  • uwchlwytho sgan neu lun o ffurflen Awdurdod i weithredu sydd wedi’i llenwi, ac sydd wedi’i llofnodi gan y person rydych yn ei gynrychioli

Llenwch y ffurflen ar-lein

Dechrau nawr

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Byddwn yn adolygu’ch cais ac yn anfon e-bost atoch sy’n cynnwys cysylltiad at ein hateb.

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein

Os na allwch ddefnyddio’r ffurflen ar-lein, gallwch anfon eich cais drwy’r post.

Cyhoeddwyd ar 8 January 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 January 2022 + show all updates
  1. A new version of the online form is now available.

  2. Added Welsh translation

  3. Removed notification that our online form is unavailable.

  4. Including a notice that our online contact service is temporarily unavailable.

  5. First published.