Skip to main content
Adroddiad corfforaethol

Adennill Dyledion yn Uniongyrchol – Gwybodaeth allweddol i gwsmeriaid

Mae’r brîff hwn yn esbonio sut mae CThEF yn adennill dyledion treth drwy ei gwneud hi’n ofynnol i fanciau a chymdeithasau adeiladu ein talu’n uniongyrchol o gyfrifon banc y cwsmer pan fo’r cwsmer yn gwrthod talu, yn destun dulliau diogelwch llym.

Dogfennau

Manylion

Mae’r dreth yr ydym yn ei chasglu gan unigolion a busnesau yn hanfodol i ariannu gwasanaethau cyhoeddus. 

Mae’r mwyafrif helaeth o bobl yn talu eu trethi’n llawn ac mewn pryd. Y llynedd, casglodd CThEF £858.9 biliwn o drethi, ac roedd tua 90% wedi’u talu mewn pryd, ond daeth y gweddill yn ddyled.  

Mae Adennill Dyledion yn Uniongyrchol (DRD) yn caniatáu i CThEF adennill dyledion treth gan bobl a busnesau, a hynny o’u cyfrifon banc a’u cyfrifon cymdeithas adeiladu. Caiff ei ddefnyddio pan fydd unigolyn neu fusnes yn gallu fforddio i dalu’r hyn sydd arnynt ond ei fod yn dewis peidio â gwneud hynny.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Awst 2015
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Mehefin 2026 Show all updates
  1. Minor changes to landing page and issue briefing text.

  2. Updates to 'Your rights and responsibilities' page

  3. Published new section: 'Your rights and responsibilities'.

  4. Updated due to HMRC re-starting the use of Direct Recovery of Debt (DRD) powers, including update to how vulnerable customers can access support.

  5. Added translation

Argraffu'r dudalen hon