Brîff Gwybodaeth: Adennill Dyledion yn Uniongyrchol
Diweddarwyd 22 Medi 2025
Mae’r mwyafrif helaeth o drethdalwyr yn talu eu trethi yn llawn ac mewn pryd, ond mae lleiafrif yn dewis peidio â thalu, er bod ganddynt y modd i wneud hynny.
Mae’r brîff hwn yn esbonio sut mae CThEF yn adennill dyledion treth drwy ei gwneud hi’n ofynnol i fanciau a chymdeithasau adeiladu ein talu’n uniongyrchol o gyfrifon y lleiafrif hwnnw. Mae’n manylu ar sut mae hyn yn gweithio’n ymarferol, ynghyd â’r dulliau diogelu cadarn rydym yn eu defnyddio. Mae’r dulliau diogelu hyn wedi’u hamlinellu’n fanwl yn adran 4.
1. Pam fod adennill dyled yn bwysig?
Mae angen i unigolion a busnesau dalu’r dreth sydd arnynt, neu fel arall mae’n annheg â’r mwyafrif gonest. Mae’r arian yr ydym yn ei gasglu yn hanfodol i ariannu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae’r mwyafrif helaeth o bobl yn talu eu trethi’n llawn ac mewn pryd. Y llynedd, casglodd CThEF £858.9 biliwn mewn treth. Talwyd tua 90% mewn pryd ond daeth y gweddill yn ddyled.
Mae angen i rai pobl gael anogaeth neu nodyn atgoffa ychwanegol i dalu’r hyn sydd arnynt, ac mae nifer sylweddol o bobl yn talu ar ôl cysylltu â nhw.
Caiff pwerau Adennill Dyledion yn Uniongyrchol (DRD) eu defnyddio pan fo unigolyn neu fusnes yn gallu fforddio i dalu’r hyn sydd arnynt ond ei fod yn dewis peidio â gwneud hynny. Mae’r pwerau hyn yn effeithiol wrth gymell pobl i dalu, a dim ond 19 o weithiau y cawsant eu defnyddio yn ystod 2 flynedd, cyn oedi yn ystod pandemig COVID-19.
2. Beth sy’n digwydd nawr?
Gwnaeth y llywodraeth gyhoeddi, yn Natganiad y Gwanwyn 2025 y byddai CThEF yn ailddechrau’r defnydd o DRD ar gyfer unigolion a busnesau sy’n dewis peidio â thalu’r dreth sydd arnynt. Gwnaeth CThEF oedi’r defnydd o DRD yn ystod pandemig COVID-19 ac mae bellach wedi’i ailddechrau mewn cyfnod ‘profi a dysgu’.
3. Sut mae’n gweithio
Mae’r polisi hwn yn caniatáu i CThEF adennill yr arian sy’n ddyledus drwy ei gwneud hi’n ofynnol i fanciau a chymdeithasau adeiladu ein talu’n uniongyrchol o gyfrif y dyledwr, a/neu drwy arian a ddelir mewn Cyfrifon Cynilo Unigol (ISAs). Gall cael ei ddefnyddio pan fydd gan y dyledwr £1,000 neu fwy’n ddyledus, yn destun y dulliau diogelu sydd wedi’u hamlinellu yn adran 4.
4. Y dulliau diogelu
Mae dulliau diogelu llym yn eu lle i sicrhau nad yw’r dyledwyr yn dioddef caledi gormodol ar ôl i’r arian gael ei dynnu o’u cyfrifon a bod diogelwch digonol ar gael i gwsmeriaid sy’n agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys:
- dim ond cymryd camau yn erbyn y rhai sydd â dyled wedi ei sefydlu ac sydd wedi mynd heibio’r amserlen ar gyfer apeliadau, ac sydd wedi anwybyddu ein hymdrechion i gysylltu dro ar ôl tro – mae gan unrhyw un sy’n dadlau’r swm sy’n ddyledus yr hawl awtomatig i apelio
- gwarantu y bydd pob dyledwr yn cael ymweliad wyneb-yn-wyneb gan asiantau CThEF cyn ystyried adennill eu dyledion drwy DRD a bydd y cyfarfod hwn yn rhoi cyfle ychwanegol i ni allu gwneud y canlynol:
- pennu yn union pwy yw’r trethdalwr a chadarnhau mai ei ddyled ef sydd dan sylw
- esbonio i’r dyledwyr yr hyn sy’n ddyledus ganddo, pam mae’n cael ei erlid am daliad, a thrafod talu’r ddyled
- trafod opsiynau ar gyfer setlo’r ddyled, gan gynnwys cynnig cynllun talu Amser i Dalu i’r dyledwr, pan fo hynny’n briodol
- adnabod dyledwyr sydd mewn sefyllfa fregus a chynnig cymorth gan dîm arbenigol i’w helpu i setlo’u dyledion
- dim ond dyledwyr sydd wedi cael yr ymweliad wyneb-yn-wyneb, sydd heb eu pennu fel un mewn sefyllfa fregus, sydd â swm digonol o arian yn y banc ac sydd dal wedi gwrthod setlo’u dyledion a fydd yn cael eu hystyried ar gyfer adennill dyled drwy DRD
- dim ond yn ystyried defnyddio DRD ar y sawl sydd â dyled dreth neu ddyled credydau treth o fwy na £1,000
- gadael o leiaf £5,000 yng nghyfrifon y dyledwyr bob tro, fel nad ydym yn atal arian sydd ei angen ar gyfer talu cyflogau, morgeisi neu dreuliau hanfodol ar gyfer y busnes neu’r cartref
Mae proses clir yn ei lle i ddyledwyr wrthwynebu neu apelio. Mae hyn yn cynnwys:
- cynnig cyfnod amser o 30-diwrnod (ar ôl i’r broses adennill dyled gael ei chychwyn) i ddyledwyr gyflwyno gwrthwynebiad i CThEF – caiff arian ei ddal yn y cyfrif, ond ni throsglwyddir unrhyw arian i ni hyd nes bod y cyfnod hwn wedi mynd heibio a chaiff penderfyniadau eu gwneud ar wrthwynebiadau cyn pen 30 diwrnod
- gall dyledwyr apelio yn erbyn penderfyniad CThEF i Lys Sirol ar seiliau penodol, gan gynnwys caledi a hawliau trydydd parti
Mae CThEF wedi ymrwymo i lywodraethu clir a thryloywder. Bydd Comisiynwyr CThEF yn goruchwylio ddefnydd o’r pŵer, a bydd ystadegau’n cael eu cyhoeddi ar nifer y troeon y caiff y pŵer ei ddefnyddio, a’r apeliadau sy’n cael eu codi.
5. Helpu’r rhai hynny sy’n wynebu anawsterau gwirioneddol
Mae rhai pobl yn profi anawsterau ariannol gwirioneddol wrth dalu eu treth. Mae hyn yn digwydd yn aml pan fydd eu bywyd yn cael ei effeithio gan ddigwyddiad personol mawr, neu pan fydd eu busnes yn datblygu problem. Fel mater o drefn, mae CThEF yn defnyddio dull cydymdeimladol gyda’r rhai sydd angen cymorth ychwanegol.
Pan fydd pobl yn sylweddoli na fyddant yn gallu talu ar amser, neu os oes angen cymorth ychwanegol arnynt gyda’u trethi, dylent gysylltu cyn gynted â phosibl.
Mae gan CThEF hanes cryf yn y maes hwn, gyda:
- Cynlluniau talu Amser i Dalu effeithiol tu hwnt, sy’n dangos bod 9 allan o bob 10 trefniant yn dod i ben yn llwyddiannus. Mae hyn yn ehangu ar-lein hefyd law yn llaw â chynnig rhagor o gymorth wedi’i deilwra i gwsmeriaid drwy wneud gwell ddefnydd o ddata.
- Mae’r tîm cymorth ychwanegol yn rhoi cymorth ychwanegol i gwsmeriaid drwy gynnal apwyntiadau dros ffôn neu drwy fideo lle mae eu cyflwr iechyd neu amgylchiadau personol yn ei gwneud yn anodd iddynt gysylltu â CThEF. Gall cwsmeriaid ofyn i gynghorydd am gymorth ychwanegol pan fyddant yn ffonio CThEF neu’n defnyddio sgwrs dros y we gyda’r tîm cymorth ychwanegol.
Er mwyn sicrhau bod cwsmeriaid sy’n agored i niwed yn cael eu cefnogi’n llawn pan fydd DRD yn cael ei ddefnyddio:
- bydd dyledwr sy’n bodloni’r meini prawf llym ar gyfer DRD ond sy’n cael ei ystyried yn agored i niwed, neu sydd angen cymorth ychwanegol, yn cael ei dynnu allan o DRD a bydd cymorth yn cael ei gynnig drwy’r tîm cymorth ychwanegol.
- Gwnaeth CThEF gydweithio gyda sefydliadau gwirfoddol a chyrff proffesiynol i wella’u cyfathrebiadau gyda dyledwyr sy’n cael eu heffeithio gan DRD, er mwyn sicrhau eu bod yn rhoi cyngor defnyddiol ar sut i gael cymorth pellach