Canllawiau

Sut i dalu dyled i CThEM gyda Threfniant Amser i Dalu

Cael help i wneud trefniant Amser i Dalu os ydych chi’n unigolyn neu’n fusnes sydd mewn dyled i CThEM.

Gall dyled fod yn ddyledus i CThEM am amryw o resymau, ac mae’r ffordd orau o dalu yn wahanol i bob unigolyn ac i bob busnes.

Fel adran, mae CThEF yn gyfrifol am sicrhau bod unigolion a busnesau sy’n gallu talu yn gwneud hynny mewn pryd, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwnnw o ddifrif. Rydym yn darparu cymorth ychwanegol, pwrpasol i’r sawl sy’n wynebu caledi ariannol neu sydd ag anawsterau personol.

Os ydych yn ei chael hi’n anodd gwneud taliad treth, dylech ofyn i ni am opsiynau talu misol fforddiadwy, a elwir yn Drefniant Amser i Dalu. Byddwn bob amser yn ceisio gweithio gyda chi i drafod amser i dalu’r hyn sydd arnoch ar sail eich incwm a’ch gwariant.

Mae’r Amser i Dalu yn seiliedig ar amgylchiadau ariannol penodol pwy bynnag sydd mewn dyled, felly nid oes Trefniant Amser i Dalu ‘safonol’. Rydym yn edrych ar yr hyn y gallwch fforddio ei dalu ac yna’n ei ddefnyddio i gyfrifo faint o amser fydd arnoch ei angen i dalu.

Gall trefniant Amser i Dalu gwmpasu’r holl symiau sydd heb eu talu, gan gynnwys cosbau a llog. Gwiriwch gyfraddau llog CThEF ar gyfer taliadau hwyr a chynnar (yn Saesneg).

Mae wedi’i gynllunio i fod yn hyblyg ac nid yw’n gontract sefydlog, ffurfiol. Gellir ei newid dros amser, felly gellir ei gwtogi os bydd eich enillion yn codi neu os byddwch yn derbyn arian annisgwyl (er enghraifft, etifeddiaeth). Gellir ei ymestyn hefyd os bydd eich costau hanfodol yn cynyddu, neu os bydd eich incwm yn gostwng.

Mae dros 90% o’n trefniadau Amser i Dalu yn cael eu cwblhau’n llwyddiannus.

Sut rydym yn cyfrifo ad-daliadau dyled

Unigolion

Byddwn yn penderfynu ar eich gallu i dalu gan ddefnyddio ffurflen ‘asesiad incwm a gwariant’. Mae hon yn ystyried eich incwm, eich gwariant ac unrhyw asedion sydd ar gael i chi, ac mae’n ein helpu i gyfrifo’ch incwm gwario. Gallwch gael hyd i ragor o wybodaeth am hyn yn yr adran ‘sut rydym yn cyfrifo’r hyn y gallwch fforddio ei dalu’.

Fel arfer, mae CThEM yn disgwyl i chi dalu dim mwy na 50% o’ch incwm gwario. Gall hyn fod yn uwch os oes gennych incwm gwario uchel iawn. Does dim terfyn uchaf ar faint o amser y gall rhywun ei gael i dalu.

Busnesau

Mae cyllid busnes yn aml yn gymhleth, felly byddwn yn gofyn i chi rhoi gwybod i ni beth rydych chi’n meddwl y gall y busnes fforddio ei dalu.

Ar ôl i ni edrych ar eich cynnig, byddwn yn gofyn cwestiynau i chi amdano i wneud yn siŵr ei fod yn fforddiadwy ac y gellir talu’r ddyled cyn gynted â phosibl.

Bydd hyd y trefniant yn dibynnu ar:

  • faint sy’n ddyledus gan eich busnes
  • amgylchiadau ariannol y busnes

Bydd y trefniant yn cael ei adolygu’n rheolaidd a gellir ei addasu dros amser.

Sut i gysylltu â CThEM i drafod Trefniant Amser i Dalu

Os na allwch dalu’ch bil treth a bod angen help arnoch, dylech gysylltu â CThEF cyn gynted â phosibl.

Ar gyfer biliau Hunanasesiad, efallai y gallwch sefydlu cynllun talu ar-lein (yn Saesneg). Bydd hyn yn eich galluogi i dalu’ch bil treth Hunanasesiad fesul rhandaliad heb gysylltu â CThEF.

Gallwch drefnu cynllun talu er mwyn rhannu cost eich bil Hunanasesiad diweddaraf ar-lein heb orfod cysylltu â ni os yw’r canlynol yn berthnasol:

  • mae arnoch £30,000 neu lai
  • nid oes gennych unrhyw gynlluniau talu na dyledion eraill gyda CThEM
  • rydych wedi cyflwyno’r Ffurflenni TAW sydd eu hangen hyd yn hyn
  • mae’n llai na 60 diwrnod ar ôl y dyddiad cau ar gyfer talu

Beth i’w ddisgwyl yn ystod galwad

Pan fyddwch yn ein ffonio, byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi, felly gwnewch yn siŵr bod yr wybodaeth ganlynol gennych pan fyddwch yn ffonio.

Unigolion

Mae’n bosibl y byddwn yn eich holi ynghylch:

  • y cyfeirnod sy’n berthnasol i’r bil yr ydych am ei drafod
  • manylion faint o dreth na allwch ei thalu, gan gynnwys yr holl ddyledion sy’n ddyledus i C ThEM
  • pam nad ydych yn gallu talu, a beth yw’ch amgylchiadau ariannol ar hyn o bryd — amlinellir hyn yn yr adran ‘sut rydym yn cyfrifo’r hyn y gallwch fforddio ei dalu’
  • beth rydych chi wedi’i wneud i geisio talu eich bil yn brydlon ac yn llawn
  • eich sefyllfa ariannol bresennol (gan gynnwys incwm a gwariant, cynilion, buddsoddiadau ac asedau eraill)
  • sut rydych chi’n disgwyl i’ch sefyllfa ariannol newid yn y dyfodol
  • cwestiynau i weld ai Trefniant Amser i Dalu fyddai’r ateb gorau
  • manylion eich cyfrif banc, er mwyn i chi allu sefydlu Debyd Uniongyrchol ar gyfer eich trefniant

Busnesau

Mae’n bosibl y byddwn yn eich holi ynghylch:

  • y cyfeirnod sy’n berthnasol i’r bil yr ydych am ei drafod
  • unrhyw ddyledion eraill sydd gan y busnes i CThEM
  • unrhyw ad-daliadau treth sy’n ddyledus i’r busnes
  • gwybodaeth am sefyllfa ariannol y busnes – gan gynnwys sut rydych chi’n disgwyl i sefyllfa ariannol y busnes newid yn y dyfodol
  • pa ymdrechion a wnaed i godi’r arian yn erbyn dyled y busnes
  • beth sydd wedi’i wneud i geisio talu’r bil
  • beth mae’r busnes wedi’i wneud neu wrthi’n ei wneud i gael ei faterion treth yn ôl ar y trywydd iawn ac i fforddio ad-daliadau
  • manylion cyfrif banc y busnes, fel y gellir sefydlu Debyd Uniongyrchol (bydd angen yr awdurdod ar yr un sy’n galw i sefydlu Debyd Uniongyrchol ar y cyfrif hwnnw)

Sut y gwnaethom gyfrifo’r hyn y mae angen i chi ei dalu

Unigolion

Byddwn yn defnyddio ffurflen ‘asesiad incwm a gwariant’ i gofnodi manylion faint o arian rydych chi’n ei gael a’i wario. Byddwn yn gofyn i chi am y canlynol:

  • eich manylion personol (gan gynnwys eich statws priodasol ac os oes gennych unrhyw ddibynyddion)
  • eich manylion cyflogaeth (gan gynnwys eich rhif cofrestru TAW os ydych wedi cofrestru ar gyfer TAW a rhif cyfeirnod TWE eich cyflogwr os ydych yn gyflogai)
  • a ydych yn berchen ar eich cartref neu’n ei rentu, a chost eich morgais neu eich rhent
  • manylion incwm misol cyfartalog eich cartref (gan gynnwys unrhyw incwm rhent ac unrhyw fudd-daliadau yr ydych yn eu cael)
  • manylion unrhyw asedau sydd gennych (megis gwerth eich holl eiddo, a ydych yn berchen ar unrhyw gerbydau modur a faint wnaethoch chi dalu amdanynt a phryd)
  • gwybodaeth am unrhyw gynilon a buddsoddiadau sydd gennych (gan gynnwys tystysgrifau cynilo, Bondiau Premiwm, Cyfrifon Cynilo Unigol a stociau a chyfranddaliadau)
  • faint rydych yn ei wario bob mis ar filiau’r cartref (gan gynnwys biliau nwy, trydan a dŵr a’r Dreth Gyngor) ac ar gymudo, petrol, bwyd, dillad ac unrhyw becynnau teledu a allai fod gennych
  • manylion unrhyw ddyledion arall sydd gennych (gan gynnwys benthyciadau, hurbwrcas a chardiau credyd)
  • gwybodaeth am unrhyw gredydwyr y gallai fod arnoch chi arian iddynt (gan gynnwys dyled sy’n ddyledus iddynt a’r taliadau yr ydych yn eu gwneud)
  • sut rydych yn bwriadu talu’ch dyled treth

Os ydych wedi trafod yr hyn y gallwch ei fforddio gyda chynghorydd dyled annibynnol (megis y Ganolfan Cyngor ar Bopeth) byddwn yn derbyn eu ffigurau incwm a gwariant os dangosir hwy ar eu Datganiad Ariannol Safonol. Dylech anfon y datganiad wedi’i gwblhau i’r cyfeiriad CThEM a ddangosir ar y llythyr diweddaraf a anfonwyd atoch ynghylch eich dyled. Gwnewch yn siŵr bod y datganiad yn cynnwys:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich Cyfeirnod Trethdalwr Unigryw ar gyfer Hunanasesiad (os oes gennych un)

Ar sail yr wybodaeth a roddwch, byddwn yn cyfrifo eich incwm gwario misol. Dyma eich incwm dros ben misol ar ôl didynnu eich gwariant misol.

Fel arfer, byddem yn disgwyl i 50% o’ch incwm gwario gael ei dalu i’ch Trefniant Amser i Dalu. Rydym yn disgwyl i chi dalu 50% yn hytrach na 100% oherwydd ein bod eisiau:

  • i’ch trefniant fod yn gynaliadwy
  • i chi allu rheoli unrhyw newidiadau annisgwyl mewn gwariant

Efallai y byddwch am dalu mwy na 50% i leihau faint o log y byddwch yn ei dalu.

Os oes gennych incwm gwario uchel ond bod angen mwy o amser arnoch i dalu o hyd, byddwn yn gweithio gyda chi i gytuno ar lefel taliad sy’n cydbwyso clirio’r ddyled yn gyflym gyda’ch costau misol rhesymol. Gallai hyn olygu eich bod yn talu mwy na 50% o’ch incwm gwario.

Os bydd eich gwybodaeth am incwm a gwariant yn dangos nad oes gennych ddigon o incwm gwario, byddwn yn gohirio ein gweithgarwch casglu nes bydd eich amgylchiadau’n newid.

Bydd hyd y trefniant yn dibynnu ar faint sydd arnoch. Does dim terfyn uchaf i hyd trefniant.

Bydd eich amser i dalu yn seiliedig ar yr wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni. Byddwn yn sicrhau bod eich taliad misol yn adlewyrchu’r hyn y gallwch fforddio ei dalu fel ei fod yn gynaliadwy dros gyfnod y cytundeb. I’n helpu ni i’ch cefnogi chi i wneud hyn:

  • byddwch yn agored ac yn onest yn ystod y drafodaeth ar y cynllun talu
  • byddwch yn barod i egluro eitemau gwariant anarferol neu fawr
  • rhowch i ni’r wybodaeth yr ydym wedi gofyn amdani

Fel arfer, byddwn yn derbyn yr hyn rydych chi’n ei ddweud wrthym heb ofyn am ragor o fanylion, ond efallai y bydd angen rhagor o fanylion neu dystiolaeth arnom os yw eich dyled yn fawr neu’n gymhleth.

Busnesau

Byddwn yn adolygu’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi i ni yn eich galwad ffôn.

Efallai y byddwn yn gofyn cwestiynau am eich cynnig, i wneud yn siŵr ei fod:

  • yn fforddiadwy
  • yn talu’r ddyled cyn gynted ag y bo modd

Bydd hyd y trefniant yn dibynnu ar faint sy’n ddyledus gan eich busnes a’i amgylchiadau ariannol. Bydd yn cael ei adolygu’n rheolaidd a gellir ei addasu dros amser.

Gellir:

  • cwtogi’r trefniant os bydd sefyllfa ariannol y busnes yn gwella
  • ymestyn y trefniant os bydd sefyllfa ariannol y busnes yn gwaethygu ond mae’n parhau i fod mewn sefyllfa i wella

Sut y caiff asedau eu trin pan gytunwn ar Drefniant Amser i Dalu

Unigolion

Os oes modd i chi dalu eich dyledion i CThEM drwy ddefnyddio asedau (er enghraifft, cynilion, cyfranddaliadau, neu ail gartref) byddwn yn trafod hyn gyda chi.

Os oes gennych asedau yr ydych chi a CThEM yn cytuno y gellir eu defnyddio (gan gynnwys ecwiti mewn eiddo), yna rydym yn disgwyl i chi wneud hynny i leihau’r ddyled gymaint â phosibl cyn i ni gytuno ar drefniant.

Ni fyddwn yn gofyn i chi werthu cartref eich teulu. Efallai y byddwn yn ystyried cymryd arwystl ar eich cartref i sicrhau bod y ddyled yn cael ei thalu i CThEM os:

  • nad yw’n bosibl cytuno ar Drefniant Amser i Dalu gyda chi
  • na allwch dalu mewn unrhyw ffordd arall

Ni fyddwn yn disgwyl i chi gael mynediad at gronfeydd pensiwn yn gynnar i dalu eich dyled. Os ydych yn derbyn pensiwn, bydd hyn yn cael ei ystyried fel rhan o’ch sefyllfa incwm a gwariant.

Busnesau

Os gall eich busnes dalu ei rwymedigaethau i CThEM drwy ryddhau asedau, byddwn yn trafod hyn gyda chi. Gall asedion gynnwys:

  • stoc
  • cerbydau neu gyfranddaliadau
  • cyfarwyddwyr yn rhoi arian personol yn y busnes
  • benthyciadau i fusnesau
  • ymestyn llinellau credyd

Os byddwn yn cytuno â chi bod asedau y gall eich busnes eu rhyddhau (gan gynnwys ecwiti mewn eiddo busnes) yna byddem yn disgwyl iddynt gael eu defnyddio i leihau’r ddyled gymaint ag y bo modd cyn cytuno ar Drefniant Amser i Dalu.

Dyledion y gellir eu cynnwys mewn Trefniant Amser i Dalu

Gellir cynnwys unrhyw dreth, toll, cosbau neu daliadau ychwanegol na allwch fforddio eu talu.

Llog a godir ar Drefniadau Amser i Dalu

Mae llog yn cronni o’r dyddiad dyledus hyd at ddiwedd y Trefniant Amser i Dalu.

Bydd y llog sy’n daladwy yn cael ei gynnwys yn y ddyled gyffredinol sy’n dod o dan y trefniant.

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y llog sy’n daladwy ar ddyledion a thaliadau treth ar y dudalen sy’n ymdrin â chyfraddau llog CThEF ar gyfer taliadau hwyr a chynnar (yn Saesneg).

Ar ôl cytuno ar Drefniant Amser i Dalu

Os yw rhandaliadau yn cael eu talu ar amser

Ni fydd angen cymryd camau pellach, a bydd ceisiadau Amser i Dalu yn y dyfodol yn cael eu hystyried.

Os yw’ch amgylchiadau yn newid

Dylech gysylltu â ni os bydd eich sefyllfa:

  • yn gwella ac y gallwch dalu’r bil yn gynt, er mwyn cynyddu eich taliad misol
  • yn gwaethygu, i weld sut y gallwn leihau eich taliadau misol

Os byddwch yn canslo eich Debyd Uniongyrchol neu os bydd taliad yn methu

Os byddwch ynn canslo’ch taliadau misol neu os bydd eich taliadau’n methu, byddwn yn cysylltu â chi. Byddwn yn gofyn pam na chafodd y taliad misol ei dalu. Efallai y byddwn yn gallu adfer y trefniant talu neu ei aildrafod os yw hynny’n briodol.

Os na allwn gysylltu â chi, neu os na allwn aildrafod faint y dylech ei dalu, efallai y byddwn yn penderfynu defnyddio ein pwerau gorfodi dyledion treth to collect what you owe. Dim ond pan fydd popeth arall wedi methu y byddwn yn defnyddio’r pwerau hyn.

Os oes gennych ddyled newydd arall i CThEM

Rydym yn disgwyl i ddyled newydd gael ei thalu’n llawn ac mewn pryd. Dylech gysylltu â ni cyn gynted â phosibl os na allwch dalu’ch bil treth yn llawn.

Os ydych eisoes yn gwneud taliadau misol drwy Drefniant Amser i Dalu, yna gellir diwygio hwn i gynnwys y ddyled newydd hon. Cyn i ni allu gwneud hyn, bydd angen i ni siarad â chi am eich:

  • incwm
  • gwariant
  • sefyllfa asedau
Cyhoeddwyd ar 20 January 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 4 November 2021 + show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. The guidance has been updated to cover businesses as well as individuals.

  3. How to contact HMRC to discuss a time to pay arrangement has been updated to add when you can set up a payment plan online.

  4. First published.