Canllawiau

Gwirio a yw llythyr rydych wedi’i gael gan CThEF yn ddilys

Gwiriwch restr o lythyrau diweddar gan CThEF i’ch helpu i benderfynu a yw llythyr rydych wedi’i gael yn sgam.

Os nad yw’ch llythyr wedi’i restru yma, gwiriwch yr ohebiaeth gan CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu.

Statws sefydlu ar gyfer TAW

O 1 Ionawr 2024 hyd at a chan gynnwys 1 Mai 2024, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr.

Mae’n bosibl y byddwch y cael llythyr gennym os ydym o’r farn eich bod yn berson trethadwy sydd heb ei sefydlu (NETP) ar gyfer TAW.

Os nad ydych wedi’ch sefydlu ar gyfer TAW, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth. Os ydych o’r farn eich bod wedi’ch sefydlu yn y DU, mae angen i chi anfon gwybodaeth atom i brofi hyn. Bydd y llythyr yn amlinellu’r effeithiau o gael eich trin fel NETP.

Mae’n rhaid i chi anfon yr wybodaeth cyn pen 30 diwrnod. Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi beth sydd angen ei anfon atom.

Llythyr CA2490 — Cymhwystra ar gyfer Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref

O 29 Medi 2023, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr.

Bydd CThEF yn anfon llythyr atoch os ydym o’r farn bod Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref (HRP) ar goll gennych.

Rydym am eich helpu i sicrhau eich bod yn cael y swm cywir o Bensiwn y Wladwriaeth, felly rydym yn gofyn i chi wirio a oeddech yn gymwys i gael HRP rhwng 1978 a 2010. Mae’n bosibl eich bod wedi bod yn gymwys os cawsoch Fudd-dal Plant ar gyfer plentyn dan 16 oed.

Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch wirio a ydych yn gymwys i hawlio Diogelwch Cyfrifoldebau Cartref sydd ar goll, a sut i wneud hynny.

Llythyr IDMS99P — Asesiad Syml

Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy’r post i roi gwybod bod gennych daliad sy’n hwyr ar eich bil treth Asesiad Syml.

Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi:

  • sut i dalu
  • os na allwch dalu’n llawn ar hyn o bryd, i ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF ar 0300 200 1900
  • yr hyn a fydd yn digwydd os na fyddwch yn talu, neu os na fyddwch yn ein ffonio cyn pen 28 diwrnod o gael y llythyr hwn

Peidiwch ag anwybyddu’r llythyr.

Llythyr OCA300 — ad-daliad o ddidyniadau Benthyciad Myfyriwr

Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr i roi gwybod i chi fod ad-daliad o ddidyniadau Benthyciad Myfyriwr yn ddyledus.

Byddwn yn cynnwys manylion ynghylch pam mae’r ad-daliad yn ddyledus a’r cyflogwr y gwnaethoch weithio iddo ar y pryd.

Bydd y llythyr hwn yn rhoi gwybod i chi am newidiadau i’r ffordd yr ydym yn anfon ad-daliadau yn sgil coronafeirws (COVID-19).

Byddwn yn gofyn am wybodaeth bersonol er mwyn i ni allu gwneud ad-daliad yn gynt.

Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i gadarnhau bod y cysylltiad hwn yn ddilys.

Llythyr VPCF1 — penderfyniad i ganslo’ch cofrestriad TAW

Fel rhan o drefniadau diogelwch CThEF ynghylch cofrestru ar gyfer TAW, rydym yn gwirio cofrestriadau i brofi bod y bwriad i fasnachu yn ddilys.

Os ydym o’r farn nad ydych yn gymwys i gael eich cofrestru ar gyfer TAW, efallai y byddwch yn cael llythyr gennym i’ch hysbysu o’n bwriad i’ch datgofrestru.

Os byddwch yn anfon gwybodaeth atom i ddangos eich bod yn gymwys i gofrestru cyn pen 30 diwrnod, byddwch yn parhau i fod wedi’ch cofrestru. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gallu rheoli’ch cofnodion TAW gyda CThEF.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa wybodaeth a dogfennau i’w darparu. Os na fydd y rhain yn cael eu hanfon cyn pen 30 diwrnod, bydd CThEF yn datgofrestru’r busnes rhag TAW.

Efallai eich bod yn rhan o gynlluniau arbed treth

Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr i’ch rhybuddio y gallech fod yn rhan o gynllun arbed treth.

Byddwch yn cael llythyr:

  • os bydd ein systemau yn dangos y gallech fod wedi ymuno â chynllun arbed treth
  • pan fydd CThEF yn cyhoeddi gwybodaeth am gynllun arbed treth, ac am y bobl sy’n ymwneud â chyflenwi a marchnata’r cynllun

Bydd y llythyr yn rhoi gwybod i chi:

  • sut i wirio a ydych chi’n cymryd rhan mewn cynllun arbed treth
  • am y risgiau o fod yn rhan o gynllun arbed treth
  • am y cymorth sydd ar gael i’ch helpu i adael y cynllun

Rydym am eich gwneud yn ymwybodol o’n pryderon cyn gynted â phosibl, fel na fyddwch yn cronni bil treth mawr.

Peidiwch ag anwybyddu’r llythyr.

Dysgwch ragor ynglŷn ag arbed treth ac am yr ymgyrch Peidiwch â Chael Eich Dal Wrthi (yn agor tudalen Saesneg) gan CThEF.

Hunanasesiad — hawlio ad-daliad

Efallai y cewch lythyr oddi wrth CThEF yn gofyn i chi gysylltu â ni ynghylch eich hawliad am ad-daliad.

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn i chi anfon rhagor o wybodaeth atom er mwyn dilysu’ch hawliad.

Mae’n rhaid i chi ymateb i’r llythyr er mwyn i ni allu gwneud unrhyw ad-daliadau sy’n ddyledus i chi cyn gynted â phosibl.

Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes angen cymorth pellach arnoch, neu os nad ydych yn siŵr a yw’r llythyr yn ddilys.

Busnesau bach — ymddygiadau ac agweddau yn dilyn ymchwiliad gan CThEF

O ddydd Gwener, 19 Ionawr 2024 hyd at a chan gynnwys dydd Gwener, 30 Awst 2024, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr.

Mae CThEF yn gweithio gyda’r asiantaeth ymchwil annibynnol NatCen i gynnal ymchwil er mwyn deall ymddygiadau ac agweddau busnesau bach sydd wedi cael ymchwiliad gan CThEF ei gau rhwng 2018 a 2023.

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr i ofyn os hoffech optio allan o’r ymchwil.

Os na fyddwch yn optio allan, mae’n bosibl y bydd NatCen yn cysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn i’ch gwahodd i gymryd rhan yn yr ymchwil.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol, ac os gwnewch hynny, bydd eich atebion:

  • yn gyfrinachol
  • yn ddienw
  • yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, bydd manylion cyswllt ar gyfer CThEF a NatCen yn y llythyr cychwynnol a gewch.

Llythyrau eraill y dylech eu gwirio

Gallwch hefyd wirio’r llythyrau a restrir ar y dudalen gohebiaeth gan CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu.

Cyhoeddwyd ar 30 July 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 March 2024 + show all updates
  1. Information about letter IDMS99P — Simple Assessment has been updated. Information about Individuals and the mid-sized businesses they are associated with has been removed.

  2. Information about letter IDMS99P — Simple Assessment has been added.

  3. Information about research into small business’ behaviours and attitudes following an HMRC enquiry has been added.

  4. Information about individuals and the mid-sized businesses they are associated with has been added.

  5. Information about possible involvement in tax avoidance schemes has been added.

  6. Added translation

  7. Information about establishment status for VAT has been updated.

  8. Information about establishment status for VAT and letter CA2490 — Home Responsibilities Protection eligibility has been added. Information about child benefit take-up research and Stamp Duty Land Tax has been removed.

  9. Information about individuals and the mid-sized businesses they are associated with has been added.

  10. Information about Stamp Duty Land Tax — understanding customers experiences has been added.

  11. Information on overdue deferred VAT has been removed.

  12. Information about mid-sized business services has been added.

  13. Added translation

  14. Research into Child Benefit take-up, and businesses' views of HMRC customer service, have been added.

  15. Information added on user research with businesses likely to fall within the Organisation for Economic Co-operation and Development (OECD) pillar 2 rules.

  16. Information about paying overdue deferred VAT to avoid a penalty has been added.

  17. Information about National Insurance category letter M — feedback about our Generic Notification Service has been added.

  18. Information about Self Assessment repayment claims has been added.

  19. Information about letter VPCF1 — decision to cancel your VAT registration has been added.

  20. Information on experiences of pension scheme administrators has been added.

  21. Information on the Cost of Living Payment has been added.

  22. Information about letter OCA 300 — repayment of Student Loan deductions has been added.

  23. Information about overpayments of SEISS (Self-Employment Income Support Scheme) grants, research into the Coronavirus Job Retention Scheme and Income Tax refunds if you claimed the first, second or third SEISS grants have been added.

  24. Added information on research about the digitisation of Child Benefit.

  25. Research with businesses on VAT submissions section has been added.

  26. Information on Research into the impact of cash collection has been added.

  27. Added 'Independent research ― understanding business customers’ use of their online tax account' section.

  28. Added details of a letter being sent about regional information on Corporation Tax reliefs research.

  29. Added details of a letter being sent out about research with mid-size businesses

  30. Added translation