Canllawiau

Gwirio gohebiaeth ddilys CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu

Gwiriwch gysylltiadau diweddar gan CThEF i’ch helpu i benderfynu a allai e-bost, galwad ffôn, neges destun neu lythyr amheus fod yn sgam.

Weithiau mae CThEF yn defnyddio mwy nag un ffordd o gysylltu. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi drwy lythyr yn gyntaf cyn dilyn hwn i fyny gydag e-bost, galwad neu neges destun. Mae hyn oherwydd:

  • mae’n gallu darparu lefel ychwanegol o ddiogelwch
  • mae’n gallu helpu i baratoi cwsmeriaid ar gyfer yr ohebiaeth ddilynol
  • rhain yw’r manylion cyswllt sydd gan CThEF ar eich cyfer

Gall pob gohebiaeth gan CThEF a restrir ar y dudalen hon ddefnyddio mwy nag un dull cyfathrebu. Maent yn nhrefn yr wyddor.

Prosesau gwirio wrth y ffin ac effaith gwiriadau ar fusnesau yn y DU

O 27 Chwefror 2024 hyd at a chan gynnwys 3 Mai 2024, mae’n bosibl y byddwch yn cael e-bost, galwad ffôn neu lythyr oddi wrth Ipsos.

Mae CThEF yn gweithio gyda’r asiantaeth ymchwil annibynnol, Ipsos, i gynnal ymchwil i’n helpu ni ddeall sut mae prosesau gwirio wrth y ffin yn effeithio ar fusnesau, gan gynnwys y baich mae gwiriadau gwahanol yn eu rhoi ar brosesau masnach.

Bydd Ipsos yn cysylltu â chi i ofyn a ydych am gymryd rhan yn yr ymchwil. Os ydych yn hapus i gymryd rhan, byddant yn trefnu cyfweliad ar-lein neu dros y ffôn.

Gall y cyfweliad bara hyd at 60 munud.

Ni fydd CThEF yn gallu adnabod sefydliadau neu unigolion ar sail eu hatebion. Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd yr holl ymatebion a gwybodaeth a roddir gennych:

  • yn gyfrinachol
  • yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Newidiadau i’ch cod treth 

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost neu neges destun.

Os ydym o’r farn eich bod wedi cael cod treth anghywir ar ôl dechrau swydd newydd, mae’n bosibl y byddwch yn cael e-bost neu neges destun yn egluro y bydd eich cod treth yn newid.

Ni ofynnir i chi am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol, na gwybodaeth am y busnes.

Mae’n bosibl y byddwn yn eich cyfeirio at:

Ymchwil i gryptoasedion

O 2 Ebrill 2024 hyd at a chan gynnwys 31 Mai 2024, mae’n bosibl y bydd Ipsos UK yn cysylltu â chi drwy e-bost, llythyr neu dros y ffôn.

Mae Ipsos yn cynnal ymchwil ar ran CThEF i’r diwydiant cryptoasedion.

Nod yr ymchwil yw deall:

  • ymddygiad ac agweddau perchnogion unigol cryptoasedion
  • Gweithredu a modelau busnes darparwyr gwasanaeth cryptoasedion

Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr, e-bost neu alwad ffôn gan Ipsos UK yn gofyn i chi gymryd rhan mewn cyfweliad, a gynhelir ar-lein neu dros y ffôn.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd yr holl ymatebion a gwybodaeth a roddir gennych:

  • yn gyfrinachol
  • yn ddienw
  • yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Hysbysiad i ddeiliaid data

Bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr, drwy e-bost neu dros y ffôn.

Os ydych wedi cael naill ai hysbysiad ffurfiol neu hysbysiad ffurfiol o asesiadau drwy lythyr, efallai y bydd Canolfan Caffael a Chyfnewid Data CThEF yn cysylltu â chi neu’ch cynrychiolwyr i drafod hyn â chi.

Efallai y byddwch yn cael galwad ffôn neu e-bost i’ch helpu i ddilyn deddfwriaeth casglu data CThEF.

Goruchwyliaeth troseddau economaidd

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr, e-bost, neges destun neu dros y ffôn.

Diben goruchwyliaeth troseddau economaidd yw gwneud y canlynol:

  • amddiffyn y DU rhag y risg o wyngalchu arian ac ariannu terfysgaeth

  • helpu busnesau i ddeall eu risgiau a’u hymrwymiadau

  • atal diffyg cydymffurfio

  • dod o hyd i fusnesau sydd heb eu cofrestru a mynd i’r afael â nhw

  • cynnal ymyriadau effeithiol ar sail risg a gwybodaeth

Er mwyn gwneud hyn, bydd CThEF yn:

  • cysylltu â busnesau drwy lythyr a thros y ffôn

  • cynnal ymweliadau cydymffurfio

  • anfon hysbysiadau drwy e-bost a thrwy negeseuon testun

  • cynnig addysg ar-lein i sicrhau bod busnesau’n bodloni rheoliadau gwyngalchu arian

Ardoll Cynhyrchu Trydan

O 1 Mehefin 2023 hyd at a chan gynnwys 31 Mawrth 2028, efallai y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost, llythyr, neu dros y ffôn.

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi i’ch helpu i ddeall ymrwymiadau’ch busnes o dan yr Ardoll Cynhyrchu Trydan. Efallai y byddwn hefyd yn gofyn i chi pa mor ddefnyddiol mae ein cyswllt â chi wedi bod er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaeth. Byddwn bob amser yn rhoi’r dewis i chi ateb drwy gyfeiriad e-bost. Mae manylion cyswllt i’w cael ar yr e-bost ac ar y llythyr.

Ymchwil Cymorth i Gynilo

O 1 Mawrth 2024 hyd at a chan gynnwys 16 Awst 2024, mae’n bosibl y bydd Ipsos UK yn cysylltu â chi drwy e-bost, llythyr neu dros y ffôn.

Mae CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil, Ipsos UK, i gynnal gwerthusiad o’r cynllun Cymorth i Gynilo.

Efallai y byddwch yn cael llythyr neu e-bost gan Ipsos UK yn gofyn i chi gwblhau arolwg ar-lein neu dros y ffôn.

Nod yr ymchwil yw:

  • deall eich ymwybyddiaeth a faint rydych yn ei wybod am y cynllun Cymorth i Gynilo
  • deall ymddygiad cynilo

Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch chi hynny, bydd yr holl wybodaeth a roddir:

  • yn gyfrinachol
  • yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Arolwg CThEF ynghylch gwiriadau cydymffurfio

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost neu lythyr ar ôl i wiriad cydymffurfio, gwiriad Isafswm Cyflog Cenedlaethol, neu wiriad gwarantau gael ei gau.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi yn dilyn gwiriad cydymffurfio, gwiriad Isafswm Cyflog Cenedlaethol, neu wiriad gwarantau, er mwyn cwblhau arolwg byr ynghylch eich profiad yn ystod y gwiriad. Bydd yr arolwg yn galluogi CThEF i ddysgu a oes angen i ni wella’r ffordd rydym yn cynnal gwiriadau.

Mae’r arolwg yn wirfoddol ac ni fydd yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r gweithiwr achos a ddeliodd â’ch gwiriad.

Ymchwil i Ymgysylltiad â Rhanddeiliaid CThEF

O 16 Hydref 2023 hyd at a chan gynnwys 28 Mehefin 2024, efallai y bydd Woodnewton yn cysylltu â chi drwy lythyr, dros y ffôn neu drwy e-bost.

Mae CThEF yn gweithio gyda’r asiantaeth ymchwil annibynnol, Woodnewton, i ddeall profiad rhanddeiliaid o ryngweithio â CThEF ac asesu’r cyfathrebu o fewn y grŵp.

Bydd yr ymchwil yn helpu i lywio sut mae CThEF yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn y dyfodol.

Efallai y byddwch yn cael llythyr, e-bost neu alwad ffôn yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad neu arolwg dros y ffôn.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd eich atebion:

  • yn gyfrinachol

  • yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Os dewiswch gymryd rhan, byddwn yn dal i gysylltu â chi, ar wahanol adegau, hyd nes y bydd y prosiect yn dod i ben ar 28 Mehefin 2024.

Effaith y cymorth gofal plant sydd ar gael gan y llywodraeth ar rieni sy’n gweithio

O 26 Chwefror 2024 hyd at a chan gynnwys 9 Awst 2024, efallai y bydd Ipsos yn cysylltu â chi drwy e-bost neu thros y ffôn.

Bydd Ipsos yn gofyn i chi gymryd rhan mewn arolwg byr yn gofyn am eich rhan yn y farchnad lafur fel rhiant sy’n gweithio.

Bydd yr ymchwil yn helpu CThEF i ddeall yr effaith y mae cymorth gofal plant sydd ar gael gan y llywodraeth yn ei gael ar rieni sy’n gweithio.

Gallwch ofyn am ragor o wybodaeth am yr ymchwil drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd yn yr e-bost cyntaf.

Effaith gohebiaeth gan CThEF

O 4 Mawrth hyd at a chan gynnwys 12 Ebrill 2024, efallai y bydd CThEF neu People for Research yn cysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn.

Mae CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol, People for Research, i recriwtio pobl i gymryd rhan mewn grŵp ffocws.

Mae’n bosibl y bydd rhywun yn cysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn i ofyn i chi gymryd rhan mewn grŵp ffocws ym Manceinion neu Stratford.

Bydd y grwpiau ffocws yn trafod:

  • barn pobl am CThEF, a beth sy’n dylanwadu ar y farn honno
  • sut y mae cwsmeriaid yn teimlo am ohebiaeth gan CThEF

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Os dewiswch i gymryd rhan, bydd yr holl ymatebion a manylion a roddir gennych:

  • yn gyfrinachol
  • yn cael eu cadw’n ddiogel yn unol â chyfraith diogelu data
  • yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Effaith Troi Treth yn Ddigidol ar gwsmeriaid Hunanasesiad Treth Incwm

O 20 Mawrth 2024 hyd at a chan gynnwys 10 Mai 2024, mae’n bosibl y bydd Verian yn cysylltu â chi drwy lythyr neu dros y ffôn.

Mae CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol, Verian, i edrych ar effaith Troi Treth yn Ddigidol (MTD) ar gwsmeriaid Hunanasesiad Treth Incwm (ITSA).

Mae’n bosibl y bydd rhywun yn cysylltu â chi drwy e-bost, llythyr neu alwad ffôn yn gofyn i chi gymryd rhan mewn arolwg neu gyfweliad dros y ffôn.

Bydd yr ymchwil hon yn helpu CThEF:

  • i ddeall yr effaith ar gwsmeriaid Hunanasesiad Incwm Treth yn y dyfodol yn sgil cyflwyno Troi Treth yn Ddigidol
  • wella ein dulliau cyfathrebu

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Os byddwch yn gwneud hyn, bydd eich ymatebion ac unrhyw wybodaeth a rowch:

  • yn gyfrinachol
  • yn ddienw
  • yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Mewngofnodi i’ch cyfrif treth CThEF

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy neges destun neu alwad llais awtomataidd.

Mae dilysu aml-ffactor yn nodwedd ddiogelwch ychwanegol sy’n disodli dilysu 2-gam. Mae’n helpu i rwystro rhywun arall rhag cael mynediad at eich cyfrif digidol, hyd yn oed os yw’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair yn ei feddiant.

Bydd CThEF yn anfon cod mynediad drwy neges destun neu alwad llais i’r rhif ffôn symudol neu linell dir a ddewiswyd gennych i gychwyn y camau dilysu aml-ffactor. Bydd angen y cod hwn arnoch i gwblhau’r broses o gael mynediad.

Ni fydd y negeseuon testun na’r galwadau llais hyn byth yn gofyn i chi roi gwybodaeth bersonol nac ariannol.

Os ydych wedi cychwyn camau dilysu aml-ffactor, byddwch ond yn gallu cael mynediad at y cyfrif drwy ddefnyddio’r canlynol:

  • eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth

  • y ddyfais symudol neu linell dir yr ydych wedi’i chofrestru

Isafswm Cyflog Cenedlaethol a chyflogaeth

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr, e-bost neu dros y ffôn.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chyflogeion i drafod manylion eu cyflogaeth bresennol neu flaenorol.

Os byddwn yn eich ffonio, byddwn yn:

  • rhoi gwybod i chi fod ein hymholiad yn ymwneud â’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol

  • gofyn cwestiynau sylfaenol i chi am eich gwaith presennol neu am eich profiadau mewn swyddi blaenorol

  • cwblhau rhai cwestiynau diogelwch safonol

Ni fyddwn, ar unrhyw adeg, yn gofyn am wybodaeth ariannol personol, megis manylion banc, heb ysgrifennu atoch yn gyntaf.

Gallwch ofyn i ni beidio â rhoi gwybod i’ch cyflogwr presennol neu flaenorol am yr alwad.

Bydd CThEF hefyd yn cysylltu â chyflogwyr mewn perthynas ag ymholiadau ynghylch yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol.

Er mwyn gwirio bod yr ohebiaeth hon yn ddilys, dylech wneud y canlynol:

  • bod â chopi o’r llythyr neu e-bost rydych wedi’i gael oddi wrth yr adran Isafswm Cyflog Cenedlaethol wrth law

  • rhoi manylion i ni am y person o’r adran Isafswm Cyflog Cenedlaethol a wnaeth roi galwad i chi

  • ffonio 0300 200 1900 (dysgwch am gostau galwadau)

Os ydych wedi cael llythyr, e-bost, neges destun neu alwad ffôn gan swyddfa arall yn CThEF, gallwch ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF i wirio bod yr ohebiaeth hon yn ddilys.

Gwallau cyffredin o ran yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost neu lythyr.

Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chyflogwyr neu drydydd partïon i rannu gwybodaeth am wallau cyffredin gyda’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Cenedlaethol. Bydd yr e-bost yn darparu cysylltiadau i ragor o wybodaeth a chymorth.

Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chyflogeion drwy lythyr i ddarparu gwybodaeth am wallau cyffredin i gadw llygad amdanynt yn eu cyflog.

Bydd y llythyr yn esbonio sut i wneud cwyn am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol ac yn cynnwys cysylltiadau i ragor o wybodaeth a chymorth.

Er mwyn gwirio bod yr ohebiaeth hon yn ddilys, dylech wneud y canlynol:

  • bod â chopi o’r llythyr neu e-bost rydych wedi’i gael am yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol wrth law

  • ffonio 0300 200 1900 (dysgwch am gostau galwadau)

Ymchwil i ddull cydymffurfio daearyddol yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol

O 13 Tachwedd 2023 hyd at a chan gynnwys 30 Awst 2024, mae’n bosibl y bydd CThEF a BMG Research yn cysylltu â chi drwy e-bost, llythyr neu dros y ffôn.

Mae CThEF yn gweithio gyda’r asiantaeth ymchwil annibynnol, BMG Research, i gynnal ymchwil i Ddull Cydymffurfio Daearyddol (GCA) yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol (NMW).

Nod yr ymchwil yw:

  • deall pa mor effeithiol yw’r dull hwn
  • profi agweddau a dealltwriaeth o’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol

Efallai y bydd BMG Research yn cysylltu â chi i’ch gwahodd i lenwi arolwg.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd eich atebion:

  • yn gyfrinachol
  • yn ddienw
  • yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Bydd BMG neu CThEF yn gallu dweud wrthych sut i gael rhagor o wybodaeth pan fyddant yn cysylltu â chi.

Busnesau tramor sy’n gwerthu gwasanaethau digidol i ddefnyddwyr yn y DU

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost a llythyr.

Os oes gennych fusnes tramor a’ch bod yn gwerthu gwasanaethau digidol i ddefnyddwyr yn y DU, efallai y byddwn yn cysylltu â chi ynghylch eich rhwymedigaethau TAW yn y DU drwy e-bost a drwy lythyr.

Bydd y llythyr a’r e-bost yn esbonio pam rydym yn cysylltu â chi, ac yn gofyn i chi gysylltu â ni. Ni fyddwn yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol, na gwybodaeth am y busnes.

Busnesau tramor sy’n gwerthu nwyddau ar farchnadoedd ar-lein i ddefnyddwyr yn y DU

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost a llythyr.

Os ydych wedi’ch lleoli dramor ac yn masnachu ar farchnadoedd ar-lein, efallai y byddwn yn cysylltu â chi i gyhoeddi asesiadau TAW.

Byddwn yn anfon:

  • hysbysiad ffurfiol o asesiadau drwy lythyr

  • e-bost i roi gwybod i chi fod y llythyr hwn wedi cael ei anfon

Bydd yr e-bost yn:

  • peidio â gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol nac ariannol, na gwybodaeth am y busnes

  • gofyn i chi dalu eich asesiad drwy fynd i www.gov.uk a chwilio am ‘pay your VAT bill’

  • cynnwys cysylltiad i’r dudalen we hon, er mwyn i chi allu gweld bod CThEF yn defnyddio e-bost at y diben hwn

Datganiadau diogelwch ar ymchwil mewnforion yr UE

O 22 Ionawr 2024 hyd at a chan gynnwys 22 Ebrill 2024, efallai y bydd Ipsos UK yn cysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn.

Mae CThEF yn gweithio gyda’r asiantaeth ymchwil annibynnol, Ipsos UK, i gael gwybod a yw cwmnïau’n deall, ac yn barod ar gyfer, y broses newydd o ran datganiadau diogelwch ar fewnforion yr UE.

Efallai bydd gofyn i chi gymryd rhan mewn cyfweliad a allai bara hyd at 60 munud.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol, a bydd yr holl wybodaeth a roddir:

  • yn gyfrinachol
  • yn ddienw
  • yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Ni fydd modd i CThEF adnabod y rheiny sy’n cymryd rhan, na’u hatebion unigol.

Gwaith profi gan ddefnyddwyr y Ffenestr Masnach Sengl

O 15 Rhagfyr 2023 hyd at a chan gynnwys 31 Rhagfyr 2024, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn.

Bydd CThEF yn cysylltu â rhai busnesau i’w gwahodd i brofi nodweddion y Ffenestr Masnach Sengl.

Dyma wasanaeth sy’n galluogi defnyddwyr i fodloni eu hymrwymiadau wrth y ffin drwy gyflwyno gwybodaeth unwaith ac mewn un lle.

Mae cymryd rhan fel defnyddiwr yn y gwaith profi yn wirfoddol.

Hysbysiadau statudol yn gofyn am wybodaeth

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy lythyr, e-bost neu dros y ffôn.

Mae Canolfan Caffael a Chyfnewid Data CThEF yn anfon hysbysiadau statudol yn rheolaidd at y rheiny sy’n cadw mathau penodol o wybodaeth, yn gofyn iddynt roi manylion perthnasol i CThEF. Mae gan y rheiny sy’n cadw’r wybodaeth ymrwymiad cyfreithiol i ddarparu’r data y gofynnir amdanynt.

Gellir anfon yr hysbysiadau sy’n gofyn am wybodaeth drwy’r post neu drwy e-bost.

Bydd hysbysiadau a anfonir drwy e-bost yn cynnwys cysylltiad i’r dudalen we hon, er mwyn i chi allu gweld bod CThEF yn defnyddio e-bost at y diben hwn.

Ymchwil ynghylch hysbysiadau cod treth

O 3 Ebrill 2024 hyd at a chan gynnwys 3 Mai 2024, mae’n bosibl y bydd ‘People for Research’ yn cysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn.

Mae CThEF yn gweithio gyda’r asiantaeth ymchwil annibynnol, People for Research, i gasglu adborth ynghylch gohebiaeth sy’n rhoi gwybod i gwsmeriaid beth yw eu cod treth.

Mae’n bosibl y byddwch yn cael e-bost neu alwad yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad awr o hyd dros y ffôn.

Bydd yr ymchwil yn helpu i wella profiad cwsmeriaid yn ymwneud â hysbysiadau cod treth.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol. Os dewiswch gymryd rhan, bydd yr holl ymatebion a manylion a roddir gennych:

  • yn gyfrinachol
  • yn cael eu cadw’n ddiogel yn unol â chyfraith diogelu data
  • yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Gwasanaeth Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid dros dro ar gyfer busnesau o faint canolig

O 1 Mawrth 2024 hyd at a chan gynnwys 30 Ebrill 2024, mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn.

Bydd Tîm Mewnwelediad Cwsmeriaid CThEF yn gwahodd busnesau o faint canolig a’u hasiantau i roi adborth am y gwasanaeth Rheolwr Cydymffurfiad Cwsmeriaid dros dro.

Gofynnir i chi am adborth ynghylch pam y gwnaethoch dderbyn neu wrthod y cynnig o gael cyswllt penodedig yn CThEF.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd eich atebion:

  • yn gyfrinachol
  • yn ddienw
  • yn cael eu defnyddio i wella’r cynnig yn unig

Ni fyddwn yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol, na manylion treth.

Os ydych am ddarparu adborth, ond nad yw’r amseru’n gyfleus, gellir aildrefnu hyn.

Ymchwil i drin treth mewn ffordd ansicr

O 4 Mawrth 2024 hyd at a chan gynnwys 15 Gorffennaf 2024, efallai y bydd NatCen yn cysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn.

Mae CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol, NatCen, er mwyn cynnal gwaith ymchwil i safbwyntiau busnesau ar drin treth mewn ffordd ansicr.

Efallai bydd NatCen yn anfon e-bost atoch gan roi’r cyfle i chi optio allan o’r ymchwil. Os na fyddwch yn optio allan, mae’n bosibl y bydd NatCen yn cysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn i’ch gwahodd i gymryd rhan yn yr ymchwil.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, fydd eich atebion:

  • yn gyfrinachol
  • yn ddienw
  • yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch, bydd manylion cyswllt ar gyfer NatCen a CThEF ar yr e-bost.

Dod i ddeall defnydd ISA Gydol Oes

O 11 Mawrth 2024 hyd at a chan gynnwys 31 Awst 2024, mae’n bosibl y byddwch yn cael e-bost, galwad ffôn neu lythyr oddi wrth IFF Research.

Mae CThEF yn gweithio gydag asiantaeth ymchwil annibynnol, IFF Research, i gynnal ymchwil sy’n archwilio defnydd ISAs Gydol Oes (LISAs).

Bydd yr ymchwil hon yn cynnwys cyfweld â phobl sydd:

  • wedi agor LISA erioed

  • wedi tynnu’n ôl o’u LISA

Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd eich atebion ac unrhyw wybodaeth a roddir gennych:

  • yn gyfrinachol

  • yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Ni fydd modd i CThEF adnabod yr unigolion sy’n cymryd rhan, na’u hatebion unigol.

Ymchwil ynghylch Diwygio Cosbau TAW

O 22 Ionawr 2024 hyd at a chan gynnwys 1 Mai 2024, mae’n bosibl y bydd Verian yn cysylltu â chi drwy e-bost, llythyr neu dros y ffôn.

Mae CThEF yn gweithio gyda’r asiantaeth ymchwil annibynnol, Verian, i gynnal ymchwil i ddeall barn busnesau sydd wedi’u cofrestru ar gyfer TAW o ran y newidiadau i’r gyfundrefn gosbau TAW.

Mae’n bosibl y bydd Verian yn cysylltu â chi drwy e-bost neu lythyr rhwng 22 Ionawr 2024 a 25 Mawrth 2024 i’ch gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad.

Os byddwch yn cytuno cymryd rhan, bydd Verian yn cysylltu â chi dros y ffôn rhwng 12 Chwefror 2024 a 1 Mai 2024 i drefnu ac i gynnal y cyfweliad.

Mae’n bosibl y bydd busnesau sydd erioed wedi cael cosb TAW yn cael eu gwahodd i gymryd rhan hefyd.

Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac, os gwnewch hynny, bydd eich atebion:

  • yn gyfrinachol
  • yn cael eu defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, bydd manylion cyswllt ar gyfer Verian a CThEF yn y llythyr neu’r e-bost.

Anweithgarwch o ran y gofrestr TAW

Mae’n bosibl y bydd CThEF yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy e-bost.

Mae’n bosibl y byddwn yn cysylltu â chi os ydym o’r farn nad oes angen i chi feddu ar rif cofrestru TAW mwyach, oherwydd anweithgarwch diweddar ar eich cyfrif TAW. Efallai y byddwch yn cael galwad ffôn neu e-bost, a bydd yr e-bost yn cyfeirio at anweithgarwch o ran y gofrestr TAW.

Bydd y galwadau ffôn neu’r e-byst yn gofyn i chi gadarnhau a oes angen i chi fod wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW o hyd, ac yn gofyn i chi roi rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am ble yr ydych yn masnachu.

Ni fydd y galwadau na’r e-byst yn gofyn am wybodaeth bersonol nac ariannol.

Ymweliadau ac archwiliadau TAW

Bydd CThEF yn cysylltu â chi dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy lythyr.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i drefnu ymweliadau ac archwiliadau TAW (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd e-bost yn dweud wrthych ein bod wedi ceisio cysylltu â chi gan ofyn i chi ein ffonio’n ôl.

Bydd yr alwad ffôn yn:

  • gofyn i chi drefnu ymweliad

  • cadarnhau’r wybodaeth yr hoffem ei gweld

Bydd llythyr yn:

  • gofyn i chi ein ffonio i drefnu ymweliad

  • cadarnhau’r wybodaeth yr hoffem ei gweld

Byddwn bob amser yn ceisio cysylltu â chi dros y ffôn yn gyntaf, os nad ydym yn cael gafael arnoch, byddwn yn anfon llythyr neu e-bost atoch.

Bydd gennym eich enw ac enw’ch busnes yn barod pan fyddwn yn cysylltu â chi. Ni fyddwn yn gofyn am unrhyw wybodaeth bersonol, megis eich manylion banc.

Os nad ydych yn siŵr os yw’r alwad, yr e-bost neu’r llythyr gan CThEF, gallwch gysylltu â’r llinell gymorth Gymraeg ar gyfer Ymholiadau TAW.

Ymchwil i arweiniad fideo

O 2 Ebrill 2024 hyd at a chan gynnwys 17 Mai 2024, mae’n bosibl y bydd ‘People for Research’ yn cysylltu â chi drwy e-bost neu dros y ffôn.

Mae’n bosibl y bydd asiantaeth ymchwil annibynnol, People for Research, yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn cyfweliad â CThEF yn archwilio sut rydych chi’n rhyngweithio â chynnwys arweiniad fideo.

Bydd cymryd rhan yn yr ymchwil hwn yn helpu i wella eich profiad wrth ymgysylltu â CThEF yn ddigidol, a bydd yr holl wybodaeth a roddir:

  • yn gyfrinachol
  • yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig
Cyhoeddwyd ar 30 July 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 April 2024 + show all updates
  1. Information about tax code notice research has been added.

  2. Information about research into the cryptoasset industry and how people interact with video guidance has been added.

  3. Information about research for the impact of Making Tax Digital (MTD) on Income Tax Self Assessment (ITSA) customers and information about understanding the use of the Lifetime ISA has been added.

  4. Information about research to understand the impact of HMRC communications has been added. Information about GB-EU traders research and Making Tax Digital for Income Tax pilot have been removed as contact for these have ended.

  5. Information about Help to Save research, temporary Customer Compliance Manager service for mid-size businesses, and uncertain tax treatment research has been added.

  6. Information about the impact of government childcare support on working parents and the impact of border check processes on businesses research has been added.

  7. Information about Single Trade Window user testing, Enterprise Investment Schemes and Self Assessment customer communications research has been added.

  8. Information about VAT Penalty Reform research has been added.

  9. Information about business tax account research has been added. Information about safety and security declarations on EU imports research has been added. Information about The Large Business Survey 2023 has been removed as contact for this has ended.

  10. Information about GB-EU traders research and company structure and financial decision making research has been added.

  11. Information about Bulk Import Reduced Data Set (BIRDS) research has been added to the page.

  12. Information about identity verification and account set-up research has been added.

  13. Information about HMRC potentially contacting you about changes to your tax code has been added.

  14. Information about Employee Ownership Trusts has been added. Information about Help to Save research, Landlord research, Mid-sized Business Customer Survey, Offshore penalties regime — research into effectiveness, Small businesses' interactions with HMRC, Vaping market research, VAT deregistration research and Venture Capital Reliefs — Understanding the customer journey have all been removed as contact for these have ended.

  15. Information about National Minimum Wage geographical compliance approach research has been added.

  16. Added translation

  17. Information about VAT visits and inspections has been added.

  18. Information about simplified mileage rates in the UK have been removed as contact for these have ended, updated translation

  19. Information about HMRC stakeholder engagement research has been added.

  20. Information on Venture Capital Reliefs had been updated to extend end date of contact

  21. added translation

  22. Information about GVMS (Goods Vehicle Movement Service) research has been added.

  23. Information about Understanding the customer journey of companies who seek investors by using Venture Capital Reliefs schemes has been added. Information about Electricity Generator Levy and measuring the impact of Making Tax Digital for VAT customers has been added. Information about Corporation Tax research, Employment status in the UK, VAT payable order repayments have been removed as contact for these have ended.

  24. Information about a customs intermediaries monitoring survey and a new company structure and financial decision-making research survey has been added.

  25. Information about research on Help to Save and research on HMRC communications with customers who complete paper Self Assessments has been added.

  26. Information about Mid-sized Business Customer Survey research has been added.

  27. Research about businesses use of simplified mileage rates, customer experience of HMRC, and how customers authorise agents to interact with the HMRC added.

  28. Added translation

  29. Research regarding childcare providers engagement with Tax-Free Childcare, effectiveness of the offshore penalty regime, and the Large Business Survey 2023 added to the page. Impact of Making Tax Digital research removed as the contact dates for this ended on 21 July 2023.

  30. Information on the company names, and the dates they may contact you to take part in research on the experiences of businesses new to customs has been updated.

  31. Information about Lifetime ISAs research has been added. Information about employer pension salary sacrifice schemes, Income Tax Self Assessment research on future timely payment and research and development tax relief has been removed as contact for these has ended.

  32. Information about a Great Britain EU traders survey and Corporation Tax research has been added, and details about the schools outreach programme analysis, digital channels research and asset managers self-assessment feedback have been removed.

  33. Information about research and development tax relief has been added.

  34. Information has been added about Company structure and financial decision-making research, Impact of Making Tax Digital, Asset managers self-assessment feedback, and Landlord research.

  35. Information about VAT payable order repayments has been added.

  36. Information about research on the experiences of businesses new to customs has been added.

  37. We have removed 'Impact of Making Tax Digital research'.

  38. Research on VAT deregistration, the vaping market, small businesses' interactions with HMRC, and Self Assessment and paper communications, has been added. We have removed out-of-date information on: digital by default, electronic sales suppression, impact of Making Tax Digital for newly registered VAT customers, Income Tax for small businesses, VAT Flat Rate Scheme.

  39. Information has been added about Digital channels and Employer pension salary sacrifice schemes.

  40. Information about contact regarding Electronic Sales Suppression has been added.

  41. Added translation

  42. We have added two updates on research about employment status and Income Tax for small businesses.

  43. Added translation

  44. We have added information about a HMRC compliance check survey.

  45. We have added information about contact from HMRC on the Let Property Campaign. We have also updated the section Income Tax Self Assessment research on future timely payments. IFF Research will contact you by letter and then phone call from 20 February 2023 up to and including 28 June 2023. We have added information on Digital by default. HMRC may contact you about this between 20 February 2023 and 28 April 2023.

  46. Information about research on customs authorisations of UK businesses, temporary customer compliance manager support, the temporary customer compliance manager support survey, and VAT registration experience has been removed as contact for these has ended.

  47. Information about research into the impact of Making Tax Digital for newly registered VAT customers been added.

  48. Information about research on stakeholder engagement has been added.

  49. Information about the VAT on the Energy Bills Support Scheme has been added. Information about the Customs intermediaries monitoring survey has been removed as the contact dates for this ended on 23 January 2023.

  50. Information about research on making a payment to HMRC, Tax-Free Childcare and parent’s working patterns and data holder notices have been added. Information about the Large Business Customer Survey 2022 has been removed as the contact dates for this ended on 6 January 2023.

  51. Research into agents of wealthy customers has been extended from 30 December 2022 to 31 March 2023. In addition agents may now be contacted by email or letter then phone or video call.

  52. Information about research on Customs authorisations of UK Businesses, Customs declarations, Debt management payment plan questionnaire, Making Tax Digital for VAT, VAT Flat Rate Scheme and VAT registration experience has been added.

  53. Added translation

  54. Information about offshore advice for taxpayers and their advisors has been added. We have also added information on employer National Insurance contributions relief for veterans.

  55. Information about supply chains research has been added.

  56. Information about research into agents of wealthy customers and businesses recently in debt with HMRC has been added.

  57. Information about Income Tax Self Assessment research on future timely payment and information about the temporary Customer Compliance Manager support survey has been added. Information about Corporation Tax research and research on HMRC's digital services has been removed as the contact dates for these ended on 18 November 2022.

  58. User research on employers' experiences of the Coronavirus Job Retention Scheme has been extended from 17 November 2022 to 18 November 2022.

  59. Information on Child Benefit digital service research has been added.

  60. Research on employer benefits in kind has been extended from 30 November 2022 to 9 December 2022.

  61. Research on HMRC’s digital services has been extended from 31 October 2022 to 18 November 2022.

  62. User research on employers' experiences of the Coronavirus Job Retention Scheme has been extended from 10 November 2022 to 17 November 2022.

  63. IFF Research on employer benefits in kind has been extended to 30 November 2022.

  64. Information on the Automatic Exchange of Information has been added. The customs intermediaries monitoring survey research will continue until 23 January 2023.

  65. Research on employers' experiences of the Coronavirus Job Retention Scheme will continue until 10 November 2022.

  66. Information on navigating between business taxes and personal taxes online research has been added.

  67. Updated because the research on employer's experiences of the coronavirus job retention scheme has been extended to 7 October 2022.

  68. Information about research on HMRC's digital services has been added.

  69. Information on Corporation Tax research has been added.

  70. Information on VAT return research has been added.

  71. Information on the Large Business Customer Survey 2022 and temporary Customer Compliance Manager support has been added.

  72. Added translation

  73. Information on the customer experience of HMRC has been added.

  74. Information on the Mid-sized business customer survey has been added.

  75. Information for businesses who use CHIEF for import declarations has been added.

  76. Information on Making Tax Digital for Income Tax pilot and employer benefits in kind has been added.

  77. Information on economic crime supervision and experiences of HMRC VAT registration has been added.

  78. Information on HMRC and HM Treasury’s 10 year Tax Administration Strategy has been added.

  79. Information on customs intermediaries' experience and Making Tax Digital for VAT registered customers has been added.

  80. Information on the customs intermediaries monitoring survey has been added.

  81. Information about research on Capital Allowances has been added.

  82. Research into understanding tax administration for businesses has been extended from 27 May 2022 to 8 July 2022 and information about research for the Cycle to Work Scheme has been added.

  83. Added section on 'Overseas businesses that sell goods on online marketplaces to UK consumers'.

  84. Added information on the government analysis schools outreach programme and employers' experiences of the Coronavirus Job Retention Scheme.

  85. The information for the 'Research to explore market shifts and behaviours relating to Stamp Duty' section has been re-added as it has been extended.

  86. Added information on 'Research to improve VAT services for small and micro businesses'.

  87. The section about tax relief evaluations has been updated with new contact information from 1 July 2021 to 30 November 2022.

  88. Added information on 'Research into understanding tax administration for businesses'.

  89. Added section 'Annual Tax on Enveloped Dwellings (ATED) reminder to agents and companies'.

  90. Added information on research on the Profit Diversion Compliance Facility and the Diverted Profits Investigation Approach, and the end date of the traders survey has been changed from 10 March 2022 to 25 March 2022.

  91. Added information on repayments research.

  92. Added information on research into self-assessment and VAT repayment systems.

  93. Added information on research to explore market shifts and behaviours relating to Stamp Duty.

  94. Information on research on agent experiences of HMRC's digital services has been added.

  95. Added section 'Research letters about the disability element of Tax Credits'.

  96. Added 'Research to improve HMRC communications for individuals and businesses' section.

  97. Added sections 'Research into the impact of full controls on customs intermediaries' and 'Traders survey'.

  98. Added sections Effects of the super-deduction, Single Trade Window research and Trust survey.

  99. Information on 'Payment of Class 2 National Insurance Contributions through Self Assessment' has been added.

  100. Information on further research on the HMRC Coronavirus Job Retention Scheme added.

  101. Information about the EU Settlement Scheme has been added.

  102. Information added about reform research for off-payroll working rules from 24 September 2021 to 10 December 2021.

  103. Information has been added about HMRC contacting CHIEF users who declare goods into Northern Ireland from outside the UK and EU.

  104. Added 'Large Business Customer Experience Survey 2021' section.

  105. Information about Tax relief evaluations from 1 July 2021 to 31 June 2022 and Traders survey research from 27 August to 12 October 2021 added.

  106. Information about customer research on Corporation Tax reliefs from August 2021 to 30 September 2021 has been added.

  107. We have added information about customer research by HMRC from 12 August to 15 September by 2021.

  108. We have added research on detached workers and social security.

  109. Updated to show HMRC is using a new number to send text messages to customers.

  110. Added translation