Mewngofnodi i’ch cyfrif Cymorth i Gynilo
Mewngofnodwch i’ch cyfrif Cymorth i Gynilo er mwyn:
- gwirio’ch balans presennol
 - bwrw golwg dros eich cynilion a’ch bonws
 - cael gwybod pryd y cewch eich bonws nesaf
 - darllen eich negeseuon
 - cael gwybod sut i drefnu archeb sefydlog
 - trosglwyddo arian i’ch cyfrif banc
 
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes problemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Cyn i chi ddechrau
Gallwch hefyd fewngofnodi i’ch cyfrif Cymorth i Gynilo drwy app CThEF.
Bydd yn rhaid i chi fewngofnodi i gael mynediad at eich cyfrif Cymorth i Gynilo. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch greu rhai pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.