Gwirio a yw cod QR ar lythyr rydych wedi’i gael gan CThEF yn ddilys
Gwiriwch restr o lythyrau diweddar gan CThEF i’ch helpu i benderfynu a yw llythyr rydych wedi’i gael yn sgam.
Os nad yw’ch llythyr wedi’i restru ar y dudalen hon:
- gwirio a yw llythyr rydych wedi’i gael gan CThEF yn ddilys
- gwirio gohebiaeth CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu
Taflen Budd-dal Plant — hawlio ar-lein
Mae CThEF yn rhoi taflenni i rieni newydd mewn ysbytai i’w hannog i hawlio Budd-dal Plant ar-lein ar ôl cofrestru genedigaeth eu plentyn.
Mae’r cod QR ar y daflen hon yn mynd â chi at ein harweiniad ar sut i wneud hawliad am Fudd-dal Plant.
Taflen ac amlen ap CThEF
Gallwch weld y canlynol ar rai llythyrau a gewch:
- taflen ynghylch ap CThEF
- cod QR ar yr amlen
Mae’r cod QR ar yr amlen a’r daflen yn mynd â chi at ein harweiniad ynghylch ap CThEF, sy’n cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- yr hyn mae’r ap yn ei wneud
- sut i gael mynediad at yr ap
Llythyr CTG LPP — talu trethi, cosbau neu setliadau ymholiadau
Efallai y byddwch yn cael llythyr os yw cosb am dalu’n hwyr wedi’i chodi arnoch.
Mae’r cod QR ar y llythyr hwn yn mynd â chi at ein harweiniad ar dalu trethi, cosbau neu setliadau ymholiadau.
Llythyr CH(A)410 — hysbysiad o derfyniad
Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr os nad oes gennych hawl i Fudd-dal Plant bellach.
Bydd cod QR ar y llythyr yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar ofyn i ni ailystyried penderfyniad ynghylch Budd-dal Plant neu Lwfans Gwarcheidwad.
Llythyr CH(A)1700 — hysbysiad o ddyfarnu
Os ydych wedi gwneud cais neu wedi cael Budd-dal Plant, mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr sy’n ymwneud â’ch hawl.
Bydd cod QR ar y llythyr yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar ddyddiadau talu Budd-dal Plant.
Llythyr CH(A)1708 — Hysbysiad optio mewn neu optio allan ar gyfer y Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr os ydych wedi optio mewn neu optio allan o gael taliadau Budd-dal Plant.
Bydd cod QR ar y llythyr yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar Dâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel.
Llythyr CHB297B — addysg amser llawn nad yw’n addysg uwch
Os ydych yn hawlio Budd-dal Plant, byddwch yn cael llythyr cyn y bydd eich plentyn yn troi’n 16 oed. Bydd y llythyr hwn:
- yn gofyn i chi gadarnhau a yw’ch plentyn yn parhau â’i addysg neu hyfforddiant
- yn cynnwys cod QR sy’n eich cyfeirio chi at ein harweiniad er mwyn ymestyn eich hawliad ar-lein, os oes angen i chi wneud hynny
Llythyr CTY50 — elusennau
Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr gyda chanlyniad eich cais i weithredu fel swyddog ar gyfer sefydliad elusennol.
Mae’r cod QR ar y llythyr yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar bwy sy’n gallu rheoli cyllid eich elusen.
Llythyr EA2 — Lwfans Cyflogaeth
Os ydych wedi gwneud cais neu wedi cael Lwfans Cyflogaeth, mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr sy’n ymwneud â’ch hawl.
Mae’r cod QR ar y llythyr yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar Lwfans Cyflogaeth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y canlynol:
- cael gwybod a ydych yn gymwys
- sut i hawlio
Llythyr MGD7 — Toll Peiriannau Hapchwarae
Mae’n bosibl y byddwch yn cael hysbysiad o asesiad pan fydd ein cofnodion yn dangos bod Datganiad Toll Peiriannau Hapchwarae yn ddyledus.
Bydd cod QR ar y llythyr yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar Doll Peiriannau Hapchwarae.
Llythyr OCA43
Efallai y byddwch yn cael llythyr oddi os yw treth incwm sydd heb ei thalu wedi’i chodi arnoch.
Mae’r cod QR ar y llythyr yn mynd â chi at ein harweiniad ar dalu’ch bil treth Hunanasesiad.
Llythyr OCAD31 — Yr hyn i’w wneud ar ôl i rywun farw
Efallai y byddwch yn cael llythyr os ydych wedi cael profedigaeth.
Bydd y cod QR ar y llythyr yn mynd â chi at ein harweiniad ar yr hyn i’w wneud ar ôl i rywun farw.
Llythyr P2 — hysbysiad cod treth
Efallai y byddwch yn cael llythyr os bydd eich cod treth yn newid.
Mae’r cod QR ar y llythyr yn mynd â chi at ein harweiniad ar godau treth. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y canlynol:
- pam y mae’ch cod treth wedi newid
- sut i ddiweddaru’ch cod treth
Llythyr P1000 — Yr hyn i’w wneud ar ôl i rywun farw
Efallai y byddwch yn cael llythyr os ydych wedi cael profedigaeth.
Mae’r cod QR ar y llythyr yn mynd â chi at ein harweiniad ar yr hyn i’w wneud ar ôl i rywun farw.
Letter PPT13 — Treth Deunydd Pacio Plastig: hysbysiad o dâl asesiad canolog
Efallai y byddwch yn cael hysbysiad o dâl yn sgil asesiad canolog pan fydd ein cofnodion yn dangos bod Ffurflen Treth Deunydd Pacio Plastig heb ei chyflwyno.
Mae’r cod QR ar y llythyr yn mynd â chi at ein harweiniad ar y Dreth Deunydd Pacio Plastig.
Llythyr RP07007/CA2762 — gohirio Yswiriant Gwladol
Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr os ydych wedi gwneud cais i ohirio Yswiriant Gwladol.
Mae’r cod QR ar y llythyr yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar ohirio Yswiriant Gwladol.
Llythyr RTI200 — taliadau TWE
Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr os ydych yn gwneud taliadau TWE.
Bydd cod QR ar y llythyr yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar dalu TWE y Cyflogwr.
Llythyr RTI201 — credyd ar gyfrif TWE
Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr ynglŷn â chredyd ar eich cyfrif TWE.
Mae’r cod QR ar y llythyr hwn yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar TWE: gwybodaeth fanwl.
Llythyr SA250 — llythyr croeso i Hunanasesiad
Byddwch yn cael llythyr croeso pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer Hunanasesiad gan ddefnyddio’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR).
Mae’r cod QR ar y llythyr yn mynd â chi at ein gwybodaeth gyswllt ar gyfer Hunanasesiad. Bydd y dudalen hon yn rhoi gwybod i chi sut allwch gysylltu â CThEF ynglŷn â Hunanasesiad.
Llythyr SA300 — Datganiad Hunanasesiad
Efallai y byddwch yn cael crynodeb o’ch balans taliadau Hunanasesiad.
Mae’r cod QR ar y llythyr yn mynd â chi at ein harweiniad ar ddeall eich datganiad Hunanasesiad.
Llythyr SA316 — Hysbysiad i Gyflwyno Hunanasesiad
Efallai y byddwch yn cael Hysbysiad i gyflwyno pan fydd ein cofnodion yn dangos bod angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad atom.
Mae’r cod QR ar y llythyr yn mynd â chi at ein harweiniad ar sut i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar-lein.
Llythyr SDLT13
Efallai y byddwch yn cael llythyr pan fydd ein cofnodion yn dangos bod Ffurflen Treth Dir y Tollau Stamp heb ei chyflwyno.
Mae’r cod QR ar y llythyr yn mynd â chi at ein harweiniad ar Dreth Dir y Tollau Stamp.
Llythyr VAT85 — cymeradwyaeth i ddefnyddio’r Cynllun Cyfradd Unffurf
Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr os ydych wedi gwneud cais i gofrestru ar gyfer Cynllun Cyfradd Unffurf TAW.
Bydd cod QR ar y llythyr yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar y Cynllun Cyfradd Unffurf TAW.
Llythyr TAW 164, 165, ac 166 — Estyniad i hysbysiad TAW o asesiad treth ac atebolrwydd i ordal
Mae’r bosibl y byddwch yn cael hysbysiad o asesiad TAW ynghyd â chyfrifiad o asesiad TAW.
Bydd cod QR ar y llythyr yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar anfon Ffurflenni TAW.
Llythyr VAT620 — Tynnu oddi ar y Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol
Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr os ydych yn talu TAW.
Bydd cod QR ar y llythyr yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar y Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW.
Llythyr VAT658 — Hysbysiad TAW o asesiad o log pellach
Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr os ydych yn talu TAW.
Mae’r cod QR ar y llythyr yn mynd â chi at ein harweiniad ar dalu eich bil TAW.
Llythyr VRT6, VRT8, VRT9, VRT11 a VRT22 — cofrestriad TAW wedi’i gymeradwyo
Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr os ydych wedi gwneud cais i gofrestru ar gyfer TAW.
Bydd cod QR ar y llythyr hwn yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar TAW.
Llythyr VRT18 — cofrestru ar gyfer TAW
Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr os ydych wedi gwneud cais i gofrestru ar gyfer TAW.
Bydd cod QR ar y llythyr yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar apelio i’r tribiwnlys treth.
Llythyr VRT19 — cofrestru ar gyfer TAW (angen llofnod awdurdodedig)
Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr os ydych wedi gwneud cais i gofrestru ar gyfer TAW.
Mae’r Cod QR ar y llythyr yn mynd â chi at ein harweiniad ar sut i gofrestru ar gyfer TAW.
Llythyr VRT20 — cofrestru ar gyfer TAW (dyddiad yn y dyfodol)
Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr os ydych wedi gwneud cais i gofrestru ar gyfer TAW.
Bydd cod QR ar y llythyr yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar anghytuno â phenderfyniad treth neu gosb.
Llythyr VRT21 — cofrestru ar gyfer TAW (Tystiolaeth Annigonol)
Mae’n bosibl y byddwch yn cael llythyr os ydych wedi gwneud cais i gofrestru ar gyfer TAW.
Bydd cod QR ar y llythyr yn eich cyfeirio chi at ein harweiniad ar anghytuno â phenderfyniad treth neu gosb.
Eich llythyr hysbysu am rif Yswiriant Gwladol
Efallai y byddwch yn cael llythyr ynglŷn â’ch rhif Yswiriant Gwladol.
Mae’r cod QR ar y llythyr yn mynd â chi at ein harweiniad ar lawrlwytho ap CThEF.
Llythyrau eraill y dylech eu gwirio
Gallwch hefyd wneud y canlynol:
- gwirio [a yw llythyr rydych wedi’i gael gan CThEF yn ddilys]https://www.gov.uk/guidance/check-if-a-letter-youve-received-from-hmrc-is-genuine.cy].
- gwirio cyswllt CThEF sy’n defnyddio mwy nag un dull cyfathrebu