Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i unig fasnachwyr a landlordiaid: cam wrth gam
Os ydych yn cael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo, dysgwch sut i gofrestru ar gyfer a defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ffordd newydd i unig fasnachwyr a landlordiaid adrodd am eu hincwm a’u treuliau i CThEF.
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, mae’n rhaid i unig fasnachwyr a landlordiaid ei ddefnyddio os yw cyfanswm eu hincwm blynyddol o hunangyflogaeth ac eiddo dros £50,000.
Bydd angen i chi, neu’ch asiant os oes gennych un, ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn:
- creu, cadw, a chywiro cofnodion digidol o’ch hunangyflogaeth ynghyd ag incwm a threuliau eiddo
- anfon eich diweddariadau chwarterol at CThEF
- cyflwyno’ch Ffurflen Dreth a thalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol
Pwy sydd angen cofrestru
Bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol. Rydych:
-
yn unigolyn sydd wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
-
yn cael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo, neu’r ddau
-
ag incwm cymwys o fwy na £50,000 — darllenwch ragor ynghylch beth yw incwm cymwys a beth sy’n cael ei gynnwys
Dilynwch ein 5 cam i’ch helpu i ddeall beth sydd angen i chi ei wneud cyn, yn ystod ac ar ôl i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
1. Cyfrifo’ch incwm cymhwysol
Dysgwch am beth sydd wedi’i gynnwys yn eich incwm cymhwysol at ddibenion y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Bydd hyn yn eich helpu i wirio a oes angen i chi gofrestru a defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm erbyn 6 Ebrill 2026.
2. Dysgwch a oes angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun
Gwiriwch a oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod am eich incwm o hunangyflogaeth ac eiddo. Gallwch ddefnyddio ein hofferyn ar-lein i ddysgu pryd mae angen i chi ddechrau.
3. Cael meddalwedd gydnaws
Nid yw CThEF yn darparu meddalwedd ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Dysgwch am yr opsiynau sydd ar gael o ran meddalwedd ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a sut i ddewis y feddalwedd gywir at eich.
4. Cofrestrwch ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Dysgwch pa dasgau y mae angen i chi eu cwblhau cyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein i gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
5. Defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Dysgwch am beth sydd angen i chi ei wneud ar ôl cofrestru a’r gwahanol dasgau y mae angen i chi eu gwneud yn ystod y flwyddyn dreth.
Mae’r rhain yn cynnwys creu a storio cofnodion digidol, anfon diweddariadau chwarterol, cyflwyno’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu, a beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid.
Updates to this page
-
Mae’r cyflwyniad wedi’i ddiweddaru i ganolbwyntio ar y rhai y mae’n rhaid iddynt ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol o fis Ebrill 2026 ymlaen. Mae’r cam meddalwedd wedi’i ddiweddaru i gadarnhau nad yw CThEF yn darparu meddalwedd ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
-
Mae’r wybodaeth am bwy fydd angen cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol wedi’i diweddaru.
-
First published.