Dysgwch a oes angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd y dylech wneud hynny
Gwiriwch a oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod am eich incwm o hunangyflogaeth ac eiddo, a dysgwch ragor am esemptiadau rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Pwy sydd angen defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Bydd angen i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:
- rydych yn unig fasnachwr neu’n landlord sydd wedi’i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad
- rydych yn cael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo, neu’r ddau
- mae’ch incwm cymhwysol yn fwy na £20,000 — darllenwch ragor am beth yw incwm cymhwysol a beth sydd wedi’i gynnwys
Mae pryd y mae angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn dibynnu ar eich incwm cymhwysol o fewn blwyddyn dreth. Os yw’ch incwm cymhwysol dros y terfynau canlynol:
- £50,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, bydd angen i chi ei ddefnyddio o 6 Ebrill 2026 ymlaen
- £30,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, bydd angen i chi ei ddefnyddio o 6 Ebrill 2027 ymlaen
- £20,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027, mae’r Llywodraeth wedi nodi cynlluniau i’w gyflwyno deddfwriaeth i ostwng y trothwy incwm cymhwysol (yn agor tudalen Saesneg)
Bydd angen i bartneriaethau ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y dyfodol hefyd. Byddwn ni’n nodi’r amserlen ar gyfer hyn yn nes ymlaen.
Nid oes angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm tan ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad gyntaf, ond gallwch ddewis cofrestru’n gynnar.
Pwy sy’n esempt rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Mae yna wahanol resymau pam y gallech gael esemptiad rhag y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Er enghraifft, gallech gael esemptiad os ydych wedi’ch cau allan o’r byd digidol.
Os ydych chi’n esempt, ni fydd angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ond bydd yn rhaid i chi barhau i roi gwybod am eich incwm a’ch enillion mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad.
Gallwch ddysgu a allwch gael esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Gwirio a oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Bydd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn dod yn orfodol fesul cam, gan ddechrau o 6 Ebrill 2026 ymlaen.
Defnyddiwch ein hofferyn i wirio a oes angen i chi defnyddio’r gwasanaeth a phryd y dylech ddechrau gwneud hynny. Gallwch hefyd ddefnyddio’r offeryn hwn ar ran rhywun arall.
Ni ddylech ddefnyddio’r offeryn hwn os ydych o’r farn eich bod yn gymwys ar gyfer esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os gwnaethoch ddefnyddio’r dudalen atodol SA109 ar gyfer eich Ffurflen Dreth 2024 i 2025 a’ch bod yn disgwyl gwneud yr un peth eto ar gyfer eich Ffurflen Dreth nesaf, ni fydd angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm cyn mis Ebrill 2027.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen i chi ystyried y canlynol ar gyfer y blynyddoedd treth sy’n dod i ben ar 5 Ebrill 2025 a 5 Ebrill 2026:
- a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad, a pha ffynonellau incwm sydd angen i chi eu datgan
- faint o incwm o hunangyflogaeth ac incwm o eiddo byddwch yn ei gael yn ystod y flwyddyn dreth
Yr hyn i’w wneud os oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth
Os oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, dylech baratoi a chofrestru ar gyfer y gwasanaeth cyn bod angen i chi ei ddefnyddio. Er enghraifft, bydd angen i chi ddewis ac awdurdodi eich meddalwedd dewisol neu benderfynu sut y bydd eich asiant yn gweithredu i chi, os oes gennych un.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn sydd angen i chi ei wneud i baratoi a chofrestru os yw’r canlynol yn wir:
Beth fydd yn digwydd cyn dechrau’r flwyddyn dreth
Bydd CThEF yn adolygu’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ac yn gwirio eich incwm cymhwysol pob blwyddyn dreth.
Os yw’ch incwm yn uwch na’r trothwy perthnasol, bydd CThEF yn ysgrifennu atoch chi, gan gadarnhau bod angen i chi ddechrau defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm erbyn dechrau’r flwyddyn dreth sydd i ddod.
Er enghraifft, os byddwn ni’n adolygu’ch Ffurflen Dreth ac yn canfod bod eich incwm cymhwysol ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 dros £50,000, byddwn ni’n ysgrifennu atoch chi ac yn cadarnhau bod angen i chi ddechrau defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm erbyn 6 Ebrill 2026.
Os na chewch chi lythyr, mae’n dal i fod yn gyfrifoldeb arnoch chi i wirio a oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth a phryd mae angen i chi wneud hynny. Mae hefyd yn dal i fod yn gyfrifoldeb arnoch chi wneud yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru ac yn barod i ddefnyddio’r gwasanaeth pan fydd angen.
Os credwch chi fod angen i chi gofrestru oherwydd bod eich incwm cymhwysol dros swm penodol, ond nid ydych chi wedi cael llythyr eto, dylech chi wneud y canlynol:
- defnyddio’r offeryn yn yr arweiniad hwn i wirio a oes angen i chi gofrestru a phryd i wneud hynny
- gofyn i’ch ymgynghorydd treth, os oes un gennych
- gwirio hyn â ffrind neu aelod o’r teulu, os ydyn nhw’n eich helpu chi gyda’ch treth
Os ydych yn anghytuno â CThEF bod angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth
Dylech gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad ydych o’r farn bod angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Updates to this page
-
The list of exemptions has been removed and a link has been added to another page with updated information about exemptions.
-
The guidance now includes further details on permanent and temporary exemptions for Making Tax Digital for Income Tax. It explains which exemptions are automatic and which you need to apply for.
-
Information about who is exempt from Making Tax Digital for Income Tax has been added.
-
The guidance has been updated to confirm if you have qualifying income over £20,000 you will need to use Making Tax Digital for Income Tax, and that the government is introducing legislation to confirm when you will need to start using the service from. The information about who does not need to use the service has been moved up the page. Information about what to do before you start using the service has been updated to link to our step by step guidance and to tell you what should happen before the start of the tax year.
-
Guidance has been updated to confirm the tool will not ask about foreign income and that you can use the tool on behalf of someone else. Guidance about if you need to use the service from 6 April 2027 has been updated to confirm what will happen ahead of 6 April 2027.
-
The Autumn Budget 2024 announced that Making Tax Digital for Income Tax will be extended to sole traders and landlords with qualifying income over £20,000 by the end of this Parliament.
-
Information about when you need to use Making Tax Digital for Income Tax has been added. A link to an interactive guidance tool to check if you need to use Making Tax Digital for Income Tax has been added. Guidance about what is included in your qualifying income has been removed from this page.
-
Information added to confirm how HMRC assess your qualifying income for a tax year and how we assess your qualifying income if you jointly own a property and only receive notice of your share of the income after expenses have been deducted.
-
Information about who will and who will not need to sign up has been updated.
-
The guidance has been updated to clarify when you will need to sign up for Making Tax Digital for Income Tax and when you will not need to.
-
Thresholds for meeting the requirements for Making Tax Digital for Income Tax have been added for April 2026 and April 2027.
-
Information has been added for you to check if you can use Making Tax Digital for Income Tax. Additional information has been added for what is included in your qualifying income, how you should report other income and how residence and domicile affect your qualifying income.
-
You only need to follow the Making Tax Digital for Income Tax rules for your UK self-employment and property income if you're resident or domiciled outside the UK.
-
Added translation
-
First published.