Helpu ffrindiau neu aelodau o’r teulu gyda’u treth

Cofrestrwch ar-lein fel ‘Cynorthwyydd Dibynadwy’ er mwyn helpu ffrind neu aelod o’ch teulu i wneud y canlynol:

  • gwirio ei fod yn talu’r swm cywir o Dreth Incwm
  • gwirio neu ddiweddaru ei gyfrif treth personol
  • gwirio neu ddiweddaru ei fuddiannau trethadwy (ceir cwmni neu yswiriant meddygol yn unig)

Bydd yn rhaid i’r person rydych yn ei helpu mynd ati i ddefnyddio’r gwasanaeth i dderbyn eich cofrestriad o fewn 28 diwrnod. Os na all fynd ar-lein, mae’n bosibl y byddwch yn gallu ffonio Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar ei ran. Mae’n rhaid i chi fod yn yr un ystafell â’r person rydych yn ei helpu pan fyddwch yn ffonio.

Dim ond am 90 diwrnod y gallwch helpu ffrind neu aelod o’ch teulu gyda’i dreth ar-lein. Ar ôl hynny, bydd angen i chi gofrestru i osod yr help eto.

Gallwch fod yn gynorthwyydd dibynadwy ar gyfer hyd at 5 person.

Bydd y person rydych yn ei helpu yn parhau i fod yn gyfrifol yn gyfreithiol am ei dreth ei hunan.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, bydd modd i chi eu creu.

Wrth i chi fewngofnodi, cewch wybod a oes angen i chi brofi pwy ydych. Mae hyn er mwyn cadw’ch manylion yn ddiogel ac, fel arfer, bydd angen i chi ddefnyddio ID ffotograffig fel pasbort neu drwydded yrru i wneud hynny.

Dechrau nawr

Ffonio CThEF ar ran rhywun arall

Os nad yw’r person rydych yn ei helpu yn gallu mynd ar-lein, gallwch ffonio CThEF ar ei ran a thrafod unrhyw faterion treth.

Mae’n rhaid i chi fod yn yr un ystafell a’r person rydych yn ei helpu. Bydd CThEF yn cadarnhau pwy ydyw ac yn gwirio’i fod yn hapus i chi ei gynrychioli.

Mae’n rhaid bod gennych ei rif Yswiriant Gwladol neu gyfeirnod treth wrth law pan fyddwch yn ffonio.

Mae’n rhaid i chi fod dros 16 oed os ydych yn cyfieithu ar y pryd ar gyfer rhywun nad yw’n siarad Cymraeg na Saesneg. Mae gan linellau cymorth CThEF wasanaethau ieithoedd tramor hefyd.

Darllenwch yr arweiniad ar wasanaethau CThEF os oes gennych chi, neu’r person rydych yn ei helpu, anabledd.