Canllawiau

Cofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Os ydych yn asiant, defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i gofrestru’ch cleient ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Mae’n rhaid i’ch cleient ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 ymlaen, os yw cyfanswm ei incwm blynyddol o hunangyflogaeth ac eiddo dros £50,000.

Cyn i chi gyflwyno Ffurflen Dreth eich cleient gan ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, bydd angen i chi gynnwys ffynonellau eraill o incwm ac enillion yn ei feddalwedd sy’n cydweddu.

Pryd i gofrestru

Os oes gofyn i’ch cleient ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 ymlaen, dylech ei gofrestru cyn y dyddiad hwnnw fel bod y ddau ohonoch chi yn barod.

Yn seiliedig ar y manylion yr ydych yn eu rhoi, bydd CThEF yn gwirio a yw’ch cleient yn gymwys i gofrestru.

Bydd yn dal i fod angen i chi neu’ch cleient gyflwyno ei Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth cyn i’ch cleient ddechrau defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

I gofrestru eich cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, mae’n rhaid iddo fod wedi gwneud y canlynol:

  • cofrestru ar gyfer Hunanasesiad

  • cyflwyno Ffurflen Dreth yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf

Os yw’ch cleient yn cofrestru’n wirfoddol

Gall eich cleient gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm cyn bod rhaid iddo ei ddefnyddio, er mwyn helpu’r ddau ohonoch i baratoi.

Er enghraifft, efallai y bydd gofyn iddo ei ddefnyddio o 6 Ebrill 2027 ymlaen, ond gall gofrestru a gwirfoddoli: 

  • nawr, ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol (2025 i 2026) — bydd angen i chi neu eich cleient ddefnyddio meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn anfon unrhyw ddiweddariadau chwarterol sydd ar goll ar gyfer y flwyddyn hyd yma

  • o 6 Ebrill 2026, ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf (2026 i 2027)

Cyn i chi gofrestru’ch cleient

Gwiriwch a all eich cleient fod wedi’i esemptio rhag defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Os yw’ch cleient wedi’i esemptio, ni fydd angen iddo gofrestru.

Dylech ddarllen y canllaw cam wrth gam, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, i sicrhau’r canlynol:

  • eich bod chi a’ch cleient yn deall a oes angen iddo ddefnyddio’r gwasanaeth

  • eich bod chi a’ch cleient yn deall sut i ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (megis creu cofnodion digidol, anfon diweddariadau chwarterol a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth)

  • bod gennych chi a’ch cleient feddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm — dylech bob amser wirio gyda’r darparwr meddalwedd i sicrhau y bydd ei feddalwedd yn bodloni’ch anghenion chi ac anghenion eich cleient

Cael awdurdodiad gan gleient ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Mae angen i chi gael caniatâd eich cleient i’w gofrestru. Mae angen i chi hefyd gwblhau’r camau canlynol.

  1. Creu cyfrif gwasanaethau asiant os nad oes gennych un. Mae eich cyfrif gwasanaethau asiant yn wahanol i’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer asiantau (yn agor tudalen Saesneg)

  2. Trefnu bod eich cleient yn eich awdurdodi ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Yr hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu a ydych eisoes wedi’ch awdurdodi gan eich cleient ar gyfer Hunanasesiad.

Os ydych eisoes wedi’ch awdurdodi gan eich cleient ar gyfer Hunanasesiad

Mae awdurdodiadau presennol gan eich cleientiaid ar gyfer Hunanasesiad yn cael eu cydnabod ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os ydych eisoes wedi’ch awdurdodi ar gyfer Hunanasesiad, gallwch wirio a yw’r awdurdodiad wedi’i ychwanegu at eich cyfrif gwasanaethau asiant. Os nad yw’r awdurdodiad yn eich cyfrif gwasanaethau asiant, mae angen i chi ei ychwanegu.

Ni fydd ychwanegu awdurdodiad yn cofrestru eich cleient yn awtomatig ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm — bydd yn dal i fod angen i chi gofrestru pob un o’ch cleientiaid ar wahân drwy’r gwasanaeth ar-lein.

Darllenwch ragor o wybodaeth am wirio ac ychwanegu eich awdurdodiadau gan gleientiaid ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os ydych eisoes wedi’ch awdurdodi ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm drwy ysgwyd llaw’n ddigidol (yn agor tudalen Saesneg), gallwch gofrestru’ch cleient heb orfod ychwanegu’r awdurdod â llaw at eich cyfrif gwasanaethau asiant.

Os nad ydych wedi’ch awdurdodi gan eich cleient ar gyfer Hunanasesiad

Bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant a dilyn y camau yn eich cyfrif i ofyn i’ch cleient eich awdurdodi.

Cosbau ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Os oes gofyn i’ch cleient ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 ymlaen, ni fydd CThEF yn rhoi pwyntiau cosb am ddiweddariadau chwarterol hwyr ar gyfer y flwyddyn gyntaf (2026 i 2027). Bydd cosbau yn dal i fod yn berthnasol am gyflwyno Ffurflenni Treth yn hwyr neu os telir bil treth ar ôl y dyddiad cau.

Os yw’ch cleient yn cofrestru’n wirfoddol, sicrhewch eich bod chi a’ch cleient yn deall pa gosbau sy’n berthnasol i’r rhai sy’n gwirfoddoli ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Bydd CThEF yn cysylltu â’ch cleient i gadarnhau pryd mae wedi dod yn agored i’r cosbau hyn ar ôl iddo gofrestru.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Yn y gwasanaeth cofrestru, dylech roi gwybod i CThEF am incwm eich cleient o fod yn unig fasnachwr gweithredol a’i incwm o eiddo.

Bydd angen y manylion canlynol ar gyfer eich cleient:

  • enw llawn

  • dyddiad geni

  • rhif Yswiriant Gwladol

Os yw’ch cleient yn unig fasnachwr, bydd hefyd angen y canlynol arnoch: 

  • enw’r busnes — dyma’r enw mae’ch cleient yn ei ddefnyddio ar ei anfonebau

  • cyfeiriad y busnes 

  • natur y busnes (masnach eich cleient)

Os oes gan eich cleient sawl ffynhonnell incwm o hunangyflogaeth neu sawl busnes eiddo, bydd angen i chi wirio pob un ohonynt yn y gwasanaeth ar-lein ac ychwanegu unrhyw rai sydd ar goll.

Ar gyfer pob un o ffynonellau incwm eich cleient, bydd angen: 

  • dyddiad dechrau ei fusnes, neu’r dyddiad y dechreuodd gael incwm o eiddo (os yw hyn o fewn y 2 flwyddyn dreth ddiwethaf)

  • i chi gadarnhau’r flwyddyn dreth y bydd eich cleient yn dechrau defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Sut i gofrestru’ch cleient

Bydd angen i chi defnyddio’r un Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r un cyfrinair a gawsoch wrth gofrestru ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant. 

Cofrestru nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Rhagfyr 2025 show all updates
  1. Guidance has been updated to make clear who needs to use Making Tax Digital for Income Tax from April 2026 and what they need to sign up. It has also been updated to confirm that anyone signing up must be registered for Self Assessment and have submitted a tax return in the last 2 years. Information about penalties has been updated. Information about exemptions and how to get client authorisations for Making Tax Digital for Income Tax has been added.

  2. Information about what Making Tax Digital for Income Tax is has been updated.

  3. The 'Who cannot sign up voluntarily' section has been updated to remove those who have income from a furnished holiday let.

  4. Steps about what you need to do before you have signed up your client in the system have been added. Information about what you need to do to make sure you are authorised for Self Assessment and Making Tax Digital for Income Tax in your agent services account has been added. Information about when penalties do and do not apply during the testing phase has been clarified.

  5. The list of who cannot voluntarily sign up for Making Tax Digital for Income Tax has been updated.

  6. Information added to confirm that you need to sign up each income source for Making Tax Digital for Income Tax if your client has multiple sources of income. Information added about what you need to do if your client has already authorised you for Self Assessment in your HMRC online services for agents account.

  7. Information for users who want to voluntarily sign up now has been updated as you can now use the sign up service instead of a software provider. Information about who can and cannot sign up voluntarily has been updated.

  8. Welsh translation added.

  9. The date for helping to test and develop Making Tax Digital for Income Tax has been extended to 6 April 2026.

  10. The steps to take and what you will need before using Making Tax Digital for Income Tax have been updated. You can check if you can voluntarily sign up your client now.

  11. Information on what you'll need and before you sign up for Making Tax Digital for Income Tax has been updated.

  12. Information on what to do after you've signed up your client has been updated.

  13. A Welsh translation has been added.

  14. Information in the 'Before you start' section has been updated with what you need to do before you can sign up a client for Making Tax Digital for Income Tax.

  15. Information has been updated under 'before you start' to advise ways your client can authorise you through your agent service account.

  16. Welsh translation has been added.

  17. First published.

Argraffu'r dudalen hon