Canllawiau

Creu cyfrif gwasanaethau asiant

Ewch ati i greu cyfrif gwasanaethau asiant (ASA) er mwyn i’ch cwmni asiant treth ddefnyddio rhai o wasanaethau CThEF.

Os ydych yn asiant treth newydd, yn y lle cyntaf mae’n rhaid i chi gofrestru gyda CThEF ar gyfer cyfrif gwasanaethau asiant. Gallwch greu cyfrif pan fydd eich cofrestriad wedi’i dderbyn gan CThEF.

Os ydych eisoes yn gweithredu ar-lein fel asiant gyda CThEF a bod gennych o leiaf un cleient (ar gyfer Hunanasesiad, Treth Gorfforaeth, TWE neu TAW), gallwch greu cyfrif gwasanaethau asiant ar unwaith. 

Mae ffordd wahanol o wneud cais am gyfrif gwasanaethau asiant os nad ydych wedi’ch lleoli yn y DU.

Bydd ceisiadau i gael mynediad at ein gwasanaeth yn cael eu mesur yn erbyn Safon CThEF ar gyfer asiantau.

Pwy all greu cyfrif

Er mwyn creu cyfrif gwasanaethau asiant, mae’n rhaid i chi fod yn un o’r canlynol:

  • cyfarwyddwr
  • partner
  • unig fasnachwr

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych un yn barod, gallwch greu un ar y dudalen fewngofnodi)
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer eich cwmni asiant treth
  • y cod post sy’n gysylltiedig â’ch UTR
  • rhif cofrestru eich cwmni, os oes un gennych
  • eich rhif cofrestru TAW, os oes un gennych
  • eich rhif Yswiriant Gwladol a’ch dyddiad geni er mwyn cadarnhau pwy ydych os ydych yn unig fasnachwr neu’n bartneriaeth fusnes
  • eich rhif Yswiriant Gwladol a’ch dyddiad geni er mwyn cadarnhau pwy ydych os ydych yn Bartneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (mewn rhai achosion)
  • enw eich corff goruchwylio gwyngalchu arian (yn Saesneg), eich rhif aelodaeth a’r dyddiad adnewyddu

Creu cyfrif gwasanaethau asiant

Mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Os nad yw’r rhain gennych yn barod, gallwch eu creu ar y dudalen fewngofnodi.

Creu nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn Saesneg).

Ar ôl i chi greu cyfrif

Os ydych yn asiant newydd, bydd gennych erbyn hyn Ddynodydd Defnyddiwr ar gyfer Porth y Llywodraeth ar gyfer eich cyfrif gwasanaethau asiant.

Os ydych eisoes yn asiant treth, bydd gennych Ddynodydd Defnyddiwr newydd ar gyfer Porth y Llywodraeth y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer eich cyfrif gwasanaethau asiant. Bydd gennych un arall sy’n bodoli eisoes ar gyfer gwasanaethau ar-lein CThEF.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw cofnod o ba Ddynodydd Defnyddiwr sydd ar gyfer pa gyfrif.

Byddwch yn cael cyfeirnod asiant, a bydd angen hwn arnoch er mwyn gallu cael ad-daliadau Treth Incwm neu TWE ar ran eraill.

Bydd gennych bellach fynediad at sawl gwasanaeth treth o fewn y cyfrif gwasanaethau asiant. Does dim angen i chi gofrestru ar wahân ar gyfer pob gwasanaeth treth, ond bydd angen i chi gofrestru ar gyfer unrhyw rai na cheir mynediad atynt drwy’r cyfrif gwasanaethau asiant.

Nesaf, dylech:

  1. Mewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant a dechrau gwneud cais am awdurdodiad gan eich cleientiaid (yn Saesneg).

  2. Creu Dynodyddion Defnyddiwr unigol i’ch staff ar gyfer Porth y Llywodraeth a phennu caniatâd (yn Saesneg) i reoli eu mynediad at wasanaethau a chleientiaid.

Safonau gofynnol ar gyfer asiantau

Rhaid i chi beidio â defnyddio’r ffaith bod gennych gyfrif gwasanaethau asiant i awgrymu:

  • bod CThEF yn eich cymeradwyo fel asiant
  • eich bod yn rhan o CThEF
  • eich bod yn gweithredu ar ran CThEF

nid yw CThEF yn cymeradwyo unrhyw fusnesau nac asiantau treth unigol.

Rhagor o wybodaeth am safonau CThEF ar gyfer asiantau.

Help

Os oes angen help arnoch, gallwch wneud y canlynol:

Cyhoeddwyd ar 15 March 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 February 2024 + show all updates
  1. Your application to access our services will be measured against HMRC Standard for Agents.

  2. After creating an account, you'll be given an agent reference number. You will need this to receive Income Tax or PAYE repayments on behalf of others.

  3. Information about needing an agent services account to submit Income Tax or PAYE repayment claims on behalf of others has been added.

  4. Added translation

  5. Guidance updated with information on 'Who can create an agent services account'.

  6. Updated to advise you'll need your National Insurance number and date of birth to create an account if you're a Limited Liability Partnership.

  7. Guidance on what you will need to set up your account has been updated.

  8. Added translation

  9. The section 'Who should create an account' has been updated with more information for agents not registered with HMRC.

  10. Guidance on what you will need to set up your account has been updated.

  11. A link to 'Sign up for Making Tax Digital for VAT' has been added to section 'After you create an account'.

  12. You do not need to add services to your agent services account.

  13. If your agent business is based outside the UK, information about how to get approved by HMRC before you can create an agent services account has been added.

  14. The instructions for linking clients to your agent services account have been removed from this guide. A link to a new guide for linking clients has been added.

  15. Information about what you need to get an HMRC agent services account has been updated.

  16. Information for the Making Tax Digital for VAT pilot, including how to change your client's business details has been added.

  17. Guidance on the information you'll need before you start this service has been updated.

  18. First published.