Cael mynediad i’r Dangosydd Cofnodion Incwm ar gyfer asiantau
Sut i gael mynediad at y Dangosydd Cofnodion Incwm ac ysgwyd llaw’n ddigidol os ydych chi’n asiant, er mwyn gwirio manylion cyflog a threth, hanes cyflogaeth a chodau treth eich cleientiaid.
Cyn i chi ddechrau
Bydd angen cyfrif gwasanaethau asiant arnoch i gael mynediad i’r Dangosydd Cofnodion Incwm.
Os nad oes gennych chi gyfrif gwasanaethau asiant, bydd angen i chi greu cyfrif.
Cael eich awdurdodi drwy ysgwyd llaw’n ddigidol
Ni fyddwch yn gallu defnyddio unrhyw awdurdodiad 64-8 presennol i gael mynediad i’r Dangosydd Cofnodion Incwm.
Dysgwch sut i gael eich awdurdodi drwy ysgwyd llaw’n ddigidol (yn agor tudalen Saesneg), fel y gallwch gael mynediad at wybodaeth eich cleientiaid yn y Dangosydd Cofnodion Incwm.
Bydd angen i bob un o’ch cleientiaid dderbyn eich cais i ysgwyd llaw’n ddigidol unwaith yn unig, er mwyn eich awdurdodi i wneud y canlynol:
- cael mynediad at eu gwybodaeth yn y Dangosydd Cofnodion Incwm
- gweithredu ar eu rhan
Gall eich cleientiaid dderbyn eich cais i ysgwyd llaw’n ddigidol ar ôl mewngofnodi i’w cyfrif treth personol. Os nad oes ganddynt fanylion mewngofnodi, gallant greu’r rhain wrth ddewis y cysylltiad a anfonwch ar gyfer ysgwyd llaw’n ddigidol.
Os oes unrhyw rai o’ch cleientiaid wedi’u cau allan o’r byd digidol, rhaid creu cais am awdurdodiad (yn agor tudalen Saesneg). Rhowch i’ch cleient gysylltiad at y cais am awdurdodiad, a rhif er mwyn iddo gysylltu â CThEF (yn agor tudalen Saesneg). Bydd rhywun yn ei gyfeirio at y Tîm Cymorth Ychwanegol a fydd yn mynd â’ch cleient drwy’r broses dros y ffôn.
Ar ôl i chi gael eich awdurdodi
Mewngofnodwch i’ch cyfrif gwasanaethau asiant i gael mynediad i’r Dangosydd Cofnodion Incwm.
Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).
Bydd angen y manylion mewngofnodi y gwnaethoch eu creu ar gyfer eich cyfrif gwasanaethau asiant.
Ar ôl i chi fewngofnodi
Gallwch nawr gael mynediad at yr wybodaeth ganlynol am eich cleient yn y Dangosydd Cofnodion Incwm:
- gwybodaeth TWE ar gyfer y flwyddyn bresennol ynghyd â’r 4 blwyddyn dreth flaenorol
- cofnodion cyflogaeth, gan gynnwys cyfnodau mewn cyflogaeth, ei gyfeirnod TWE, a’r manylion cyflog a threth ar gyfer pob un o’i swyddi
- ad-daliadau benthyciad myfyriwr a gesglir drwy’r gyflogres, os yw hynny’n berthnasol
- y cod treth diweddaraf ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol, gan gynnwys yr holl lwfansau a didyniadau
- buddiannau trethadwy a ddarperir gan gyflogwr, megis car cwmni ac yswiriant meddygol, a ph’un a yw’r rhain yn rhagolygon (P11D heb ddod i law eto) neu’n rhai gwirioneddol (P11D wedi dod i law)
- gwybodaeth am bensiwn y wladwriaeth a phensiwn preifat
- manylion unrhyw dreth a dandalwyd a dyledion eraill, megis credydau treth neu gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a gesglir drwy god treth y cleient
Updates to this page
-
The 'first published' date of the guide has been updated to 16 November 2022. The guidance was previously published on 22 April 2022 but was later unpublished until November 2022.
-
The guidance has been updated to include information on how to get authorised using the digital handshake, what your client's will need to do to authorise you, including how to get help if your client is digitally excluded, what to do after you're authorised and what information you will be able to access in the Income Record Viewer.
-
First published.