Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm fel asiant: cam wrth gam
Os ydych yn asiant, dysgwch sut i gofrestru’ch cleientiaid ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a’i ddefnyddio ar eu rhan.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ffordd newydd i unig fasnachwyr a landlordiaid adrodd am eu hincwm a’u treuliau i CThEF.
O 6 Ebrill 2026 ymlaen, mae’n rhaid i unig fasnachwyr a landlordiaid ei ddefnyddio os yw cyfanswm eu hincwm blynyddol o hunangyflogaeth ac eiddo dros £50,000.
Bydd angen i chi neu’ch cleient ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm er mwyn:
- creu, cadw, a chywiro cofnodion digidol o’i hunangyflogaeth ynghyd ag incwm a threuliau eiddo
- anfon ei ddiweddariadau chwarterol at CThEF
- cyflwyno ei Ffurflen Dreth a thalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol
Pwy fydd angen cofrestru
Bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 ymlaen ar ran eich cleient os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol. Eich cleient:
- yn unigolyn sydd wedi cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
- yn cael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo, neu’r ddau
- ag incwm cymhwysol yn fwy na £50,000 — dysgwch fwy am incwm cymhwysol a’r hyn sydd wedi’i gynnwys
Dilynwch ein 7 cam i’ch helpu i ddeall beth sydd angen i chi ei wneud cyn, yn ystod ac ar ôl i chi gofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
1. Cyfrifwch incwm cymhwyso eich cleient
Dysgwch am beth sydd wedi’i gynnwys yn incwm cymhwysol eich cleient at ddibenion y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Bydd hyn yn eich helpu i wirio a oes angen iddo gofrestru a defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 ymlaen.
2. Darganfyddwch a oes angen i'ch cleient ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd
Gwiriwch a oes angen i’ch cleient ddefnyddio’r gwasanaeth hwn i roi gwybod am ei incwm o hunangyflogaeth ac eiddo. Gallwch ddefnyddio ein hofferyn ar-lein i ddysgu pryd mae angen iddo ddechrau.
3. Creu cyfrif gwasanaethau asiant
Bydd angen cyfrif gwasanaethau asiant arnoch i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Dysgwch sut i greu cyfrif gwasanaethau asiant gyda CThEF os nad oes gennych un eisoes.
4. Ychwanegu awdurdodiadau’ch cleient
Mae awdurdodiadau presennol gan eich cleientiaid ar gyfer Hunanasesiad yn cael eu cydnabod ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol.
Gwiriwch a yw’r awdurdodiadau wedi’u hychwanegu at eich cyfrif gwasanaethau asiant, a defnyddiwch godau asiant Hunanasesiad i ychwanegu unrhyw awdurdodiadau sydd eu hangen arnoch.
Bydd angen i chi gofrestru pob cleient o hyd i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm gan ddefnyddio’r gwasanaeth cofrestru.
5. Cael meddalwedd gydnaws
Nid yw CThEF yn darparu meddalwedd ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Dysgwch am yr opsiynau sydd ar gael o ran meddalwedd ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a sut i ddewis y feddalwedd gywir at anghenion eich cleient.
6. Cofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Dysgwch am ba dasgau y mae angen i chi eu cwblhau cyn cofrestru’ch cleient.
Cofiwch, bydd angen i chi gael eich awdurdodi i weithredu ar ran eich cleient cyn i chi ei gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i gofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
7. Defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Dysgwch beth sydd angen i chi ei wneud ar ôl cofrestru’ch cleient a’r gwahanol dasgau y mae angen i chi a’ch cleient eu gwneud yn ystod y flwyddyn dreth.
Mae’r rhain yn cynnwys creu a storio cofnodion digidol, anfon diweddariadau chwarterol, cyflwyno ei Ffurflen Dreth gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu, a beth i’w wneud os bydd ei amgylchiadau’n newid.
Updates to this page
-
Mae’r cyflwyniad wedi’i ddiweddaru i ganolbwyntio ar asiantau gyda chleientiaid y mae’n rhaid iddynt ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol o fis Ebrill 2026 ymlaen. Mae cam newydd wedi’i ychwanegu i roi cymorth i asiantau ychwanegu neu ddiweddaru awdurdodiadau ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Mae'r cam meddalwedd wedi'i ddiweddaru i gadarnhau nad yw CThEF yn darparu meddalwedd ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
-
Mae’r wybodaeth am bwy fydd angen cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol wedi’i diweddaru.
-
First published.