Canllawiau

Ychwanegu eich awdurdodiadau gan gleientiaid ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Sut i ychwanegu eich awdurdodiadau gan gleientiaid i’ch cyfrif gwasanaethau asiant ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a gwirio pa awdurdodiadau sydd eisoes wedi’u hychwanegu.

Cyn i chi gofrestru pob cleient ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau asiant a chwblhau’r camau canlynol.

  1. Gwirio pa godau asiant ar gyfer Hunanasesiad o’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF sydd wedi cael eu hychwanegu i’ch cyfrif gwasanaethau asiant.

  1. Defnyddio eich codau asiant ar gyfer Hunanasesiad er mwyn ychwanegu eich awdurdodiadau i’ch cyfrif gwasanaethau asiant o’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF, os oes angen i chi wneud hynny.

Nid oes angen i chi wneud hyn os yw’ch cleientiaid eisoes wedi’ch awdurdodi ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm drwy ysgwyd llaw’n ddigidol (yn agor tudalen Saesneg).

Os nad oes gennych chi gyfrif gwasanaethau asiant, bydd angen i chi greu cyfrif.

Gwirio’ch awdurdodiadau yn eich cyfrif gwasanaethau asiant

Cyn ychwanegu eich awdurdodiadau, gallwch wirio pa godau asiant hunanasesiad awdurdodiadau ar gyfer Hunanasesiad sydd eisoes wedi’u hychwanegu i’ch cyfrif gwasanaethau asiant.

Mewngofnodwch i’ch cyfrif gwasanaethau asiant a dewiswch yr opsiwn i ychwanegu awdurdodiadau presennol ar gyfer Hunanasesiad at eich cyfrif gwasanaethau asiant. 

Os ydych eisoes wedi ychwanegu awdurdodiadau, byddwch yn gweld rhestr o’r codau asiant ar gyfer Hunanasesiad sydd wedi’u hychwanegu. Ni fyddwch yn gweld rhestr o gleientiaid unigol.

Os yw’r cod asiant ar gyfer Hunanasesiad sydd wedi’i gysylltu i’ch cleient:

  • ar y rhestr hon, ni fydd angen i chi ychwanegu’r awdurdodiad eto — gallwch gofrestru’ch cleient ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, os nad ydy’r cleient wedi’i gofrestru eisoes

  • ddim ar y rhestr hon — bydd angen i chi ychwanegu’r cod asiant ar gyfer Hunanasesiad i’r cyfrif gwasanaethau asiant, fel y gallwch ddefnyddio’r awdurdodiad ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Ychwanegu eich awdurdodiadau i’ch cyfrif gwasanaethau asiant

Er mwyn ychwanegu awdurdodiadau gan gleientiaid, byddwch angen y codau asiant ar gyfer Hunanasesiad sydd wedi’u cysylltu i’r cleientiaid hynny.

Mewngofnodwch i’ch cyfrif gwasanaethau asiant a dewiswch yr opsiwn i ychwanegu awdurdodiadau presennol ar gyfer Hunanasesiad at eich cyfrif gwasanaethau asiant.

Bydd angen i chi ddilyn y camau i ychwanegu eich awdurdodiadau gan gleientiaid ar gyfer Hunanasesiad o’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF.

Bydd hyn yn ychwanegu pob awdurdodiad gan gleientiaid sydd wedi’u cysylltu i’r cod asiant ar gyfer Hunanasesiad i’ch cyfrif gwasanaethau asiant.

Os oes gennych fwy nag un cod asiant ar gyfer Hunanasesiad, gallwch ailadrodd y broses hon.

Bydd ychwanegu awdurdodiadau yn golygu:

  • bod gennych fynediad at eich awdurdodiadau gan gleientiaid yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF o hyd – byddwch yn gallu defnyddio’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF ar gyfer Hunanasesiad ac ar gyfer cleientiaid nad oes angen iddynt ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

  • y bydd yn rhaid i’ch cleient fynd ati i gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm oherwydd na fydd hyn yn digwydd yn awtomatig – bydd dal angen i chi neu’ch cleient ddilyn y camau yn y gwasanaeth ar gyfer cofrestru

  • y byddwn yn eich awdurdodi fel prif asiant ar gyfer y cleientiaid hyn — dewch o hyd i ragor o wybodaeth am yr hyn y gall prif asiantau ac asiantau ategol ei wneud

Pan fyddwch yn ychwanegu cod asiant ar gyfer Hunanasesiad, bydd eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF yn cael ei gysylltu â’ch cyfrif gwasanaethau asiant.

Golyga hyn os byddwch yn ychwanegu neu’n diweddaru cleient ar gyfer Hunanasesiad yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF, bydd yn diweddaru eich awdurdodiadau yn eich cyfrif gwasanaethau asiant. 

Os rydych yn rhoi’r gorau i weithio ar ran unrhyw gleient Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF a’ch cyfrif gwasanaethau asiant i ddileu’r awdurdodiad.

Os nad ydych wedi cael awdurdodiad gan eich cleientiaid, ni allwch eu cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Ar ôl i’ch cleientiaid gael eu hawdurdodi yn eich cyfrif gwasanaethau asiant

Gallwch gofrestru’r pob cleient ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 3 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Rhagfyr 2025 show all updates
  1. The guidance has been updated to include how client authorisations are added to an agent services account using Self Assessment agent codes, with information about how to do this.

  2. 'Add your authorisations to your agent services account' section updated to clarify that adding existing client authorisations from your HMRC online services account will authorise you as a main agent for these clients. Link added for guidance on being a main or supporting agent for Making Tax Digital for Income Tax.

  3. Added translation

Argraffu'r dudalen hon