Cofrestru ac anfon Ffurflen Dreth

Mae’n rhaid i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad os oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth ac nid ydych wedi anfon un o’r blaen.

Gwiriwch sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Os yw’r broses Hunanasesu yn newydd i chi, bydd angen i chi gadw cofnodion (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft cyfriflenni banc neu dderbynebau) er mwyn i chi allu llenwi’ch Ffurflen Dreth yn gywir.

Gallwch gael help i lenwi’ch Ffurflen Dreth.

Unwaith y byddwch wedi cofrestru, bydd yn rhaid i chi anfon eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad i CThEF erbyn y dyddiad cau.

Anfon Ffurflen Dreth i CThEF

Gallwch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein.

Y dyddiad cau ar gyfer anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein yw 31 Ionawr.

Anfon Ffurflen Dreth bapur

Os oes angen copi o’r Ffurflen Dreth Hunanasesiad arnoch ar bapur, ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF a gofyn am ffurflen SA100.

Os oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth ar gyfer ymddiriedolwyr cynllun pensiwn cofrestredig, bydd yn rhaid i chi lawrlwytho ffurflen SA970 (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch lawrlwytho pob ffurflen a thudalen atodol arall.

Y dyddiad cau ar gyfer anfon Ffurflen Dreth bapur yw 31 Hydref (neu 31 Ionawr os ydych yn ymddiriedolwr cynllun pensiwn cofrestredig neu’n gwmni dibreswyl).

Y cyfeiriad i anfon y ffurflen iddo, yw:

Hunanasesiad
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST
Y Deyrnas Unedig

Ar ôl anfon eich Ffurflen Dreth bapur, gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.

Os ydych yn anfon Ffurflen Dreth SA100 ar gyfer blwyddyn dreth 2021 i 2022, neu ar gyfer blwyddyn dreth gynharach, mae ffurflenni ar gael o’r Archifau Gwladol.

Defnyddio meddalwedd fasnachol i anfon Ffurflen Dreth

Gallwch ddefnyddio meddalwedd fasnachol:

  • ar gyfer partneriaeth
  • ar gyfer ymddiriedolaeth ac ystâd
  • os ydych yn cael incwm o ymddiriedolaeth
  • os oeddech yn byw dramor (yn agor tudalen Saesneg) fel unigolyn dibreswyl
  • os ydych yn un o danysgrifenwyr Lloyd’s
  • os ydych yn weinidog crefyddol
  • i roi gwybod am elw a wnaed wrth werthu neu gael gwared ar fwy nag un ased (‘enillion trethadwy’)

Dod o hyd i ddarparwr meddalwedd fasnachol (yn agor tudalen Saesneg).