Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF erbyn 5 Hydref os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn flaenorol a bod un o’r canlynol yn wir amdanoch:

  • heb gyflwyno Ffurflen Dreth o’r blaen
  • wedi cofrestru o’r blaen, ond nid oedd angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024

Gwiriwch sut i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad i ddysgu sut i roi gwybod i CThEF. Mae’n bosibl y bydd angen i chi ail-actifadu’ch cyfrif Hunanasesiad.

Mae’n bosibl y bydd eich Ffurflen Dreth yn cael ei hoedi os ydych yn ei chyflwyno heb ailactifadu cyfrif presennol.

Mae angen i chi gadw cofnodion (yn agor tudalen Saesneg) (er enghraifft cyfriflenni banc neu dderbynebau) fel y gallwch lenwi’ch Ffurflen Dreth yn gywir.

Paratoi ar gyfer eich bil treth

Bydd angen i chi dalu eich bil treth erbyn 31 Ionawr.

I baratoi, unwaith eich bod wedi cofrestru, gallwch wneud y canlynol: