Os oes angen i chi newid eich Ffurflen Dreth

Gallwch wneud newid i Ffurflen Dreth ar ôl i chi ei chyflwyno, er enghraifft, am eich bod wedi gwneud camgymeriad.

Caiff eich bil ei ddiweddaru yn seiliedig ar yr hyn yr ydych yn rhoi gwybod amdano. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu mwy o dreth, neu mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio ad-daliad.

Diweddaru’ch Ffurflen Dreth

Gallwch gywiro Ffurflen Dreth cyn pen 12 mis i’r dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad, a hynny ar-lein neu drwy anfon ffurflen bapur arall.

Enghraifft

Ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, fel arfer bydd angen i chi newid eich Ffurflen Dreth erbyn 31 Ionawr 2026.

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau, neu os bydd angen i chi wneud newid i Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth gynharach, bydd angen i chi ysgrifennu at CThEF.

Ffurflenni Treth ar-lein

Mae’n rhaid i chi aros 3 diwrnod (72 awr) ar ôl cyflwyno’ch Ffurflen Dreth cyn ei diweddaru.

  1. Mewngofnodwch i’ch cyfrif.

  2. O ‘Eich cyfrif treth’, dewiswch ‘Cyfrif Hunanasesiad’.

  3. Dewiswch ‘Rhagor o fanylion Hunanasesiad’.

  4. Dewiswch ‘Ar gip’ o’r ddewislen ar y chwith.

  5. Dewiswch ‘Opsiynau Ffurflen Dreth’.

  6. Dewiswch y flwyddyn dreth ar gyfer y Ffurflen Dreth rydych am ei diwygio.

  7. Ewch i mewn i’r Ffurflen Dreth, ei chywiro a’i hailgyflwyno.

Ffurflenni Treth papur

Ar gyfer y brif Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gallwch wneud y canlynol:

Gallwch lawrlwytho pob ffurflen a thudalen atodol arall.

Yna, bydd angen i chi anfon y tudalennau wedi’u cywiro i’r cyfeiriad ar eich gwaith papur Hunanasesiad.

Dylech ysgrifennu ‘diwygiad’ ar bob tudalen, a chynnwys eich enw a Chyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) – mae hwn i’w weld ar Ffurflenni Treth blaenorol neu lythyrau gan CThEF.

Os na allwch ddod o hyd i’r cyfeiriad, gallwch anfon eich tudalennau wedi’u cywiro i:

Hunanasesiad
Cyllid a Thollau EF
BX9 1ST

Os gwnaethoch ddefnyddio meddalwedd fasnachol

Cysylltwch â’r darparwr meddalwedd (yn agor tudalen Saesneg) i gael help i gywiro’ch Ffurflen Dreth. Cysylltwch â CThEF os nad yw’ch meddalwedd yn gallu gwneud cywiriadau.

Newidiadau i’ch bil

Byddwch yn gweld eich bil diwygiedig yn syth os gwnaethoch ddiweddaru’ch Ffurflen Dreth ar-lein. Cyn pen 3 diwrnod, bydd eich datganiad hefyd yn dangos y canlynol:

  • yr hyn sy’n wahanol i’r hen un, fel y gallwch weld a oes arnoch fwy neu lai o dreth
  • unrhyw log

I fwrw golwg dros hyn, mewngofnodwch i’ch cyfrif a dewiswch ‘View statements’ o’r ddewislen ar y chwith.

Os oes treth yn ddyledus i chi

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio ad-daliad treth.

Os oes angen i chi dalu mwy o dreth

Bydd eich bil sydd wedi’i ddiweddaru’n dangos y canlynol hefyd:

  • y dyddiad cau ar gyfer talu
  • yr effaith y mae’r diweddariad hwn wedi’i gael ar unrhyw daliadau ar gyfrif y mae’n rhaid i chi eu gwneud

Os gwnaethoch anfon Ffurflen Dreth bapur wedi’i diweddaru

Bydd CThEF yn anfon bil wedi’i ddiweddaru atoch. Gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.

Bydd CThEF yn talu unrhyw ad-daliad yn uniongyrchol i’ch cyfrif banc, cyn belled â’ch bod wedi rhoi’ch manylion banc ar eich Ffurflen Dreth.

Os ydych wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer newid eich Ffurflen Dreth

Os yw’ch Ffurflen Dreth yn anghywir ac mae’n fwy na 12 mis ar ôl y dyddiad cau ar gyfer yr Hunanasesiad, bydd angen i chi ysgrifennu at CThEF i wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod am incwm na wnaethoch ei gynnwys yn eich Ffurflen Dreth
  • hawlio rhyddhad gordaliad os ydych o’r farn eich bod wedi gordalu treth

Rhoi gwybod am incwm na wnaethoch ei gynnwys yn eich Ffurflen Dreth

Dylech gysylltu â CThEF yn ysgrifenedig a gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y canlynol:

  • y flwyddyn dreth yr ydych yn ei chywiro
  • pam yr ydych o’r farn eich bod wedi talu rhy ychydig o dreth
  • faint yr ydych yn credu eich bod wedi’i dandalu
  • eich llofnod

Bydd CThEF yn adolygu’ch gwybodaeth, ac yn cysylltu â chi os bydd angen mwy o fanylion arnynt. Mae’n bosibl y bydd y swm rsydd arnoch yn cael ei ddiweddaru yn seiliedig ar yr hyn rydych yn ei ddweud wrthyn nhw.

Hawlio rhyddhad gordaliad

Gallwch hawlio rhyddhad gordaliad hyd at 4 blynedd ar ôl diwedd y flwyddyn dreth y mae’n berthnasol iddi.

Dylech gysylltu â CThEF (yn agor tudalen Saesneg) yn ysgrifenedig, mae’n rhaid i chi gynnwys:

  • y ffaith eich bod yn gwneud hawliad am ryddhad gordaliad
  • y flwyddyn dreth yr ydych yn meddwl eich bod wedi talu gormod o dreth ar ei chyfer
  • pam yr ydych o’r farn eich bod wedi talu gormod o dreth
  • faint y credwch a ordalwyd i chi
  • a ydych wedi gwneud apêl ar gyfer yr un taliad o’r blaen, neu os nad ydych

Os na fyddwch yn cynnwys yr holl wybodaeth hon, bydd eich hawliad yn cael ei wrthod.

Mae’n rhaid i chi gynnwys datganiad yn dweud bod y manylion rydych wedi’u rhoi yn ‘gywir ac yn gyflawn hyd eithaf eich gwybodaeth a’ch cred’. Mae’n rhaid i’r datganiad gael ei lofnodi gan un o’r canlynol:

  • chi, os ydych yn hawlio ar gyfer chi’ch hun
  • swyddog cwmni (er enghraifft cyfarwyddwr, cyfarwyddwr cysgodol, ysgrifennydd cwmni neu reolwr y cwmni) os yw’r hawliad ar gyfer cwmni cyfyngedig

Ni all unrhyw un arall, gan gynnwys asiant treth, lofnodi ar eich rhan.

Yn eich llythyr, gallwch hefyd roi gwybod i CThEF sut yr hoffech gael eich ad-dalu.

Bydd CThEF yn adolygu’ch gwybodaeth, ac yn cysylltu â chi os bydd angen mwy o fanylion arnynt. Mae’n bosibl y bydd y swm rsydd arnoch yn cael ei ddiweddaru yn seiliedig ar yr hyn rydych yn ei ddweud wrthyn nhw.

Mae angen i chi gadw tystiolaeth o’r dreth rydych cyn credu sydd wedi’i gor-dalu ar gyfer y cyfnod perthnasol gan y gallai CThEF ofyn am hyn yn ddiweddarach.