Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth

Sut i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth wrth ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Unwaith y byddwch wedi gwneud yr holl addasiadau i’ch incwm a threuliau o hunangyflogaeth ac eiddo, bydd angen i chi gadarnhau eich sefyllfa Treth Incwm yn derfynol ar gyfer y flwyddyn a chyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth, mae angen i chi sicrhau eich bod wedi cynnwys eich holl incwm trethadwy ar gyfer y flwyddyn yn eich meddalwedd sy’n cydweddu.

Drwy gyflwyno’ch Ffurflen Dreth, rydych yn datgan bod yr wybodaeth rydych wedi’i darparu yn gywir ac yn gyflawn.

Ychwanegu ffynonellau incwm eraill 

Mae’n bosibl bod gennych ffynonellau incwm eraill, fel cynilion neu ddifidendau, sydd angen eu datgan i CThEF.

Bydd angen i chi ychwanegu’r manylion ynglŷn â’r ffynonellau incwm eraill hyn drwy ddefnyddio’ch meddalwedd sy’n cydweddu cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu er mwyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth

Bydd angen i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth derfynol trwy’ch meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Nid yw’n bosibl defnyddio eich gwasanaethau ar-lein CThEF mwyach i gyflwyno’ch ffynonellau incwm eraill.

Os nad yw’ch meddalwedd presennol yn cefnogi cyflwyno’ch ffynonellau incwm eraill, gofynnwch i’ch darparwr meddalwedd a fyddant yn ychwanegu hyn at eich meddalwedd sy’n cydweddu.

Os nad ydyn nhw’n ychwanegu’r swyddogaeth hon neu os na fydd yn ei le cyn i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth, gallwch naill ai:

  • dewis meddalwedd ychwanegol neu feddalwedd arall sy’n cydweddu a fydd yn cefnogi cyflwyno’ch ffynonellau incwm arall

  • cysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF am arweiniad

Pryd i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth derfynol erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd y flwyddyn dreth berthnasol.

Os byddwch yn methu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno, yna byddwch yn agored i gosb am gyflwyno’n hwyr. Unwaith eich bod chi wedi cyrraedd trothwy nifer y pwyntiau cosb, yna daw’r gosb yn un ariannol.

Ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth

Yna, bydd yr wybodaeth a roddwch i CThEF yn cael ei defnyddio i gynhyrchu eich bil treth Hunanasesiad terfynol ar gyfer y flwyddyn dreth honno.

Os na fyddwch yn talu’ch bil treth Hunanasesiad erbyn y dyddiad cau perthnasol, mae’n bosibl y bydd angen i chi dalu cosb am dalu’n hwyr. Ni fydd y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn newid y ffordd rydych yn talu treth na’r dyddiadau cau ar gyfer taliadau.