Os bydd eich amgylchiadau’n newid
Dysgwch beth sydd angen i chi wneud er mwyn cadw eich manylion yn gyfredol a phryd mae angen i chi roi gwybod i CThEF am newid.
Ar ôl cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, efallai y bydd eich amgylchiadau’n newid.
Byddwch yn gallu rhoi gwybod i ni am y mwyafrif o newidiadau gan ddefnyddio’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF neu gyfrif gwasanaethau asiant.
Dysgwch sut i newid eich Ffurflen Dreth yn yr adran Cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Os ydych wedi bod yn defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gallwch ddewis peidio â chymryd rhan os nad oes angen i chi ei ddefnyddio mwyach oherwydd:
-
rydych wedi diwygio’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol, gan olygu bod eich incwm cymhwysol yn is na’r trothwy perthnasol
-
mae eich incwm cymhwysol wedi bod yn is na’r trothwy perthnasol am 3 blynedd yn olynol
Bydd CThEF yn defnyddio’r wybodaeth o’ch pedwerydd diweddariad chwarterol ar gyfer y drydedd flwyddyn i wirio a allwch optio allan.
Er enghraifft, os yw’ch incwm cymhwysol yn uwch na £50,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, bydd angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ym mis Ebrill 2026.
Byddwch yn gallu dewis peidio â chymryd rhan ar ôl diwedd blwyddyn dreth 2028 i 2029, os yw’ch incwm cymhwysol:
- £30,000 neu lai ar sail eich Ffurflen Dreth 2025 i 2026
- £20,000 neu lai ar sail eich Ffurflen Dreth 2026 i 2027
- £20,000 neu lai ar sail eich pedwerydd diweddariad chwarterol ar gyfer 2028 i 2029
Bydd angen i chi fod wedi cyflwyno’ch pedwerydd diweddariad chwarterol ar gyfer blwyddyn dreth 2028 i 2029 erbyn 7 Mai 2029. Ni fydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer blwyddyn dreth 2029 i 2030.
Os ydych yn gymwys i ddewis peidio â chymryd rhan, bydd angen i chi ddewis yr opsiwn hwn yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF neu cyfrif gwasanaethau asiant. Dim ond os ydych yn gymwys y bydd yr opsiwn yn ymddangos.
Os ydych yn dewis peidio â chymryd rhan oherwydd bod eich incwm cymhwyso wedi bod yn is na’r trothwy perthnasol am 3 blynedd yn olynol, ni fydd angen i chi aros nes i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar gyfer y drydedd flwyddyn cyn dewis peidio â chymryd rhan.
Os byddwch yn dewis optio allan:
- ni fydd angen i chi greu cofnodion digidol na chyflwyno diweddariadau chwarterol mwyach
- bydd unrhyw ddiweddariadau rydych wedi’u cyflwyno yn cael eu dileu ar gyfer y flwyddyn dreth pan y gwnaethoch optio allan
- mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth honno. Nid oes angen i chi ddefnyddio’ch meddalwedd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i gyflwyno’r Ffurflen Dreth hon, ond gallwch wneud hynny os yw’n well gennych
- dylech ddarganfod a oes angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y dyfodol, ac os felly, pryd
Defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol yn wirfoddol
Ar ôl cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, efallai y byddwch yn gymwys i gael esemptiad oherwydd bod eich amgylchiadau wedi newid.
Er enghraifft, mae’n bosibl y byddwch yn cael eich cau allan o’r byd digidol os nad yw’n rhesymol i chi ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i gadw cofnodion digidol, cyflwyno diweddariadau chwarterol neu gyflwyno’ch Ffurflen Dreth.
Gallwch ddarganfod a allwch gael esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os bydd CThEF yn cadarnhau eich bod yn esempt, bydd y canlynol yn wir:
- ni fydd angen i chi greu cofnodion digidol na chyflwyno diweddariadau chwarterol mwyach
- mae’n rhaid i chi roi gwybod am incwm ac enillion o hyd mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad
- bydd eich cosbau yn newid
Os byddwch yn parhau i gael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo ar ôl dechrau proses ansolfedd swyddogol, bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o hyd.
Os nad ydych yn parhau i gael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo, gwiriwch yr adran Ychwanegu neu roi’r gorau i ffynonellau incwm.
Gallwch gael help os byddwch yn dod yn ansolfent (yn agor tudalen Saesneg).
Os oes gennych bwyntiau cosb
Os bydd gennych bwyntiau cosb am gyflwyno’n hwyr ac yn dod yn ansolfent, bydd CThEF yn ailosod cyfanswm eich pwyntiau i sero.
Os byddwch yn parhau i gael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo ar ôl y flwyddyn dreth pan ddaethoch yn ansolfent, bydd pwyntiau cosb a chosbau yn berthnasol i chi os byddwch yn colli dyddiad cau ar gyfer talu neu gyflwyno fel yr arfer.
Gallwch newid y feddalwedd rydych yn ei defnyddio ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar unrhyw adeg, ond efallai y bydd yn haws i chi newid eich meddalwedd ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Mae’n bosibl y byddwch yn defnyddio gwahanol feddalwedd sy’n cydweddu ar gyfer gwahanol ffynonellau incwm.
Os byddwch yn newid eich meddalwedd, mae’n dal i fod angen i chi storio eich cofnodion digidol ar gyfer pob blwyddyn dreth am o leiaf 5 mlynedd o’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno.
Er enghraifft, mae’n rhaid i’ch Ffurflen Dreth 2026 i 2027 gael ei chyflwyno drwy feddalwedd sy’n cydweddu erbyn 31 Ionawr 2028. Mae’n rhaid i chi gadw cofnodion digidol ar gyfer y flwyddyn dreth honno tan o leiaf 31 Ionawr 2033.
Dylech hefyd sicrhau y gallwch gael mynediad at eich cofnodion digidol o flynyddoedd treth blaenorol. Er enghraifft, mae’n bosibl y bydd angen i chi allgludo’ch cofnodion digidol o’ch hen feddalwedd, a’u storio’n ddigidol.
Os bydd angen help arnoch gyda phroblemau sy’n ymwneud â’ch meddalwedd, cysylltwch â’ch darparwr meddalwedd.
Os ydych yn newid eich meddalwedd ar ôl diwedd blwyddyn dreth
Bydd angen i chi storio’ch cofnodion digidol o flynyddoedd treth blaenorol yn ddiogel, a gallu cael mynediad atynt.
Does dim rhaid i chi fewngludo’ch cofnodion digidol o flynyddoedd treth blaenorol i’r feddalwedd newydd.
Os ydych yn newid eich meddalwedd yn ystod blwyddyn dreth
Os ydych yn defnyddio meddalwedd i greu cofnodion digidol, bydd angen i chi wneud un o’r canlynol:
- mewngludo’ch cofnodion digidol i’ch meddalwedd newydd ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol
- ail-greu’r cofnodion yn eich meddalwedd newydd
Os ydych yn defnyddio meddalwedd sy’n cysylltu â’ch cofnodion (meddalwedd bontio), bydd angen i chi gysylltu’ch meddalwedd newydd â’ch meddalwedd cadw cofnodion.
Mae’n rhaid i chi dynnu’r cysylltiad rhwng eich hen feddalwedd bontio a’ch cofnodion.
Os byddwch yn newid, ychwanegu neu dynnu asiant treth, ni fydd eich cofnodion digidol o flynyddoedd treth blaenorol yn cael eu trosglwyddo’n awtomatig rhwng asiantau.
Bydd angen i chi sicrhau’r canlynol:
- bod gennych fynediad at eich cofnodion digidol o flynyddoedd treth blaenorol a’ch bod yn eu storio’n ddiogel
- bod unrhyw asiant treth sy’n gweithredu ar eich rhan wedi’i awdurdodi i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar eich rhan
- eich bod chi â’ch asiant treth yn defnyddio meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm — siaradwch â’ch asiant i gael cyngor o ran pa feddalwedd i’w defnyddio
- bod unrhyw wahanol gynhyrchion meddalwedd yr ydych yn eu defnyddio yn gweithio ar y cyd i fodloni’ch gofynion
- bod gan yr asiant neu’r asiantau treth sy’n gweithredu ar eich rhan fynediad at y cofnodion digidol sydd eu hangen arnynt, gan gynnwys eich cofnodion blaenorol
- os byddwch yn rhoi’r gorau i ddefnyddio asiant treth, dylech ddileu ei awdurdodiad yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF fel na all weithredu ar eich rhan mwyach
Dysgwch sut i ddewis asiantau ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.