Ychwanegu neu ddod ag ffynonellau incwm i ben
Dysgwch sut i ychwanegu neu ddod â ffynonellau incwm i ben ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.
Os oes angen i chi ychwanegu neu ddod â ffynhonnell incwm o hunangyflogaeth, incwm o eiddo neu’r ddau i ben, mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF drwy ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein neu gyfrif gwasanaethau asiant os ydych yn asiant.
Os ydych yn unig fasnachwyr
Bydd angen i chi ychwanegu’r incwm newydd yr ydych yn ei ennill fasnachwyr. Ni fydd angen i chi ychwanegu incwm o bartneriaeth, incwm o gwmni cyfyngedig, neu incwm o gyflogaeth, ond bydd yn dal i fod angen i chi gynnwys y rhain yn eich Ffurflen Dreth, os ydych yn eu cael.
Os ydych yn landlord
Os ydych eisoes yn landlord yn y DU ac yn dechrau rhoi eiddo arall ar osod yn y DU, nid yw hyn yn cael ei drin fel ffynhonnell incwm newydd. Mae hyn oherwydd bydd yr eiddo yn ffurfio rhan o’ch busnes eiddo sydd eisoes yn bodoli. Eich:
-
holl eiddo y DU yn cael eu trin fel un ‘busnes eiddo yn y DU’ — mae hyn yn cynnwys incwm o lety gwyliau wedi’i ddodrefnu yn y DU o Ebrill 2025 ymlaen
-
holl eiddo nad ydynt yn y DU yn cael eu trin fel un ‘busnes eiddo tramor’
Pan fydd eiddo newydd yn ffurfio rhan o fusnes eiddo sydd eisoes yn bodoli, bydd angen i chi greu cofnodion digidol ar gyfer unrhyw incwm a threuliau cysylltiedig o’r amser y byddwch yn dechrau cael rhent o’r eiddo. Bydd hyn yn berthnasol i fusnesau eiddo yn y DU a thramor.
Sut i ychwanegu ffynhonnell incwm newydd o hunangyflogaeth neu eiddo
Os oes gennych ffynhonnell incwm newydd o hunangyflogaeth neu eiddo, dim ond ar ôl i chi ei chynnwys mewn Ffurflen Dreth y bydd angen i chi ddechrau cofnodion digidol a chyflwyno diweddariadau chwarterol ar gyfer y ffynhonnell incwm newydd.
Bydd angen i chi:
-
Gwirio bod eich meddalwedd sy’n cydweddu yn gallu rhoi gwybod am eich ffynhonnell incwm newydd.
-
Ychwanegwch y ffynhonnell incwm newydd at eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF neu eich cyfrif gwasanaethau asiant cyn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth gan ddefnyddio’ch meddalwedd i gynnwys y ffynhonnell incwm newydd.
-
Rhowch fanylion am eich ffynhonnell incwm newydd, megis y dyddiad dechrau. Ar gyfer ffynonellau incwm o eiddo, dyma’r dyddiad y gwnaethoch chi ddechrau cael incwm rhent.
-
Dechreuwch greu cofnodion digidol a chyflwyno diweddariadau chwarterol ar gyfer y ffynhonnell incwm newydd ar ôl i chi gyflwyno Ffurflen Dreth sy’n cynnwys y ffynhonnell incwm newydd am y tro cyntaf.
Er enghraifft, os oes angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a dechrau ffynhonnell incwm newydd o hunangyflogaeth neu eiddo ar 1 Gorffennaf 2026, mae’n rhaid i chi gynnwys y ffynhonnell incwm hon am y tro cyntaf yn eich Ffurflen Dreth 2026 i 2027. Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth 2026 i 2027 erbyn 31 Ionawr 2028. Ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth, bydd angen i chi ddechrau creu cofnodion digidol a chyflwyno diweddariadau chwarterol ar gyfer yr incwm hwn o 6 Ebrill 2028 ymlaen.
Os yw’n well gennych, gallwch ddewis rhoi gwybod am yr incwm newydd yn Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o’r dyddiad y mae’r incwm yn dechrau. I wneud hyn, gallwch ddewis yr opsiwn yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF neu gyfrif gwasanaethau asiant i newid i gyflwyno diweddariadau chwarterol o’r dyddiad y mae’r incwm yn dechrau.
Ar ôl i chi ychwanegu’r ffynhonnell incwm, dylech wirio’ch meddalwedd i wneud yn siŵr bod y ffynhonnell incwm newydd yno. Os nad yw’r ffynhonnell incwm newydd yno, efallai y bydd angen i chi adnewyddu hyn yn eich meddalwedd. Yna, gallwch gyflwyno diweddariadau chwarterol ar gyfer eich ffynhonnell incwm newydd.
Ychwanegu ffynonellau eraill o incwm
Mae yna rai cofnodion nad oes angen i chi eu cadw’n ddigidol, ond gallwch ddewis gwneud hynny. Gall cadw’r cofnodion hyn yn ddigidol eich helpu i gynnal golwg fwy cyflawn ar eich materion treth, gan y bydd eich bil treth amcangyfrifedig yn cynnwys y ffynhonnell incwm.
Os oes gan eich meddalwedd gydnaws yr opsiwn hwn, gallwch ddewis rhoi gwybod am ffynonellau incwm eraill yn ystod y flwyddyn dreth, megis incwm o:
- partneriaeth
- difidendau (gan gynnwys y rhai o’ch cwmni’ch hun)
Os byddwch yn dewis peidio â rhoi gwybod am y ffynhonnell incwm hon yn ystod y flwyddyn dreth, bydd yn rhaid i chi gynnwys pob un ohonynt yn eich Ffurflen Dreth cyn i chi ei chyflwyno gan ddefnyddio’ch meddalwedd.
Dod â ffynonellau incwm o hunangyflogaeth neu eiddo i ben
Mae ffynhonnell incwm o hunangyflogaeth neu eiddo sy’n dod i ben yn golygu bod eich busnes wedi rhoi’r gorau i fasnachu neu eich bod chi wedi stopio cael incwm o eiddo.
Gallwch ddefnyddio eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF neu eich cyfrif gwasanaethau asiant i roi gwybod i CThEF pan fydd hyn yn digwydd drwy nodi’r dyddiad y daeth yr incwm o fusnes neu eiddo i ben. Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF erbyn y dyddiad cau ar gyfer diweddariadau chwarterol am y cyfnod lle gwnaeth yr incwm o eiddo neu fusnes ddod i ben. Yna, bydd y ffynhonnell sydd wedi dod i ben yn cael ei chynnwys yn eich Ffurflen Dreth.
Mae’r hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar p’un a ydych yn dod â phob ffynhonnell incwm neu un ffynhonnell incwm o hunangyflogaeth neu eiddo i ben.
Dod â ffynhonnell unigol o incwm o hunangyflogaeth neu eiddo i ben
Os mai dim ond un o’ch ffynonellau incwm sy’n dod i ben, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni drwy ddefnyddio’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF neu gyfrif gwasanaethau asiant. Yna bydd angen i chi gwblhau pob diweddariad chwarterol sydd heb eu llenwi ar gyfer y ffynhonnell honno o’r dyddiad pan ddaeth yr incwm ar waith. Byddwch yn gyfrifol am y canlynol:
-
ni fyddwch yn cael nodynnau atgoffa i gyflwyno diweddariadau chwarterol ar gyfer y ffynhonnell honno, os ydych wedi optio i gael cyfathrebiad digidol
-
byddwch yn parhau i gael nodynnau atgoffa i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn
Mae’n rhaid i chi barhau i greu cofnodion digidol a chyflwyno diweddariadau chwarterol ar gyfer unrhyw ffynhonnell incwm o hunangyflogaeth neu eiddo.
Er enghraifft, os gwnaeth eich incwm o hunangyflogaeth neu eiddo ddod i ben ym mis Mai 2026, mae’n rhaid i chi gyflwyno’r diweddariad chwarterol erbyn 7 Awst 2026. Ni fydd angen i chi gyflwyno unrhyw ddiweddariadau chwarterol ar gyfer yr incwm hwn mwyach. Yna, bydd yr incwm o’r ffynhonnell sydd wedi dod i ben yn cael ei gynnwys yn eich Ffurflen Dreth 2026 i 2027.
Os byddwch yn rhoi’r gorau i osod eiddo yn y DU ond yn parhau i osod eiddo arall, mae’ch busnes eiddo yn parhau ac nid oes angen i chi roi gwybod i CThEF.
Dod â phob ffynhonnell incwm o hunangyflogaeth neu eiddo i ben
Os ydych yn dod â phob un o’ch ffynonellau incwm o hunangyflogaeth neu eiddo i ben, mae’n rhaid i chi:
-
defnyddio’ch cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF neu gyfrif gwasanaethau asiant i roi gwybod i ni’r dyddiad y daeth y ffynhonnell incwm i ben
-
cyflwyno diweddariadau chwarterol terfynol ar gyfer y cyfnod sy’n cynnwys y dyddiad y daeth yr incwm i ben
-
cynnwys yr incwm sydd wedi dod i ben yn eich Ffurflen Dreth — mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth o hyd ar gyfer y flwyddyn dreth y daeth yr incwm i ben, gan ddefnyddio meddalwedd Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
Ar ôl y flwyddyn dreth y daeth yr incwm i ben ynddi, ni fydd angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Bydd dal angen i chi gadw eich cofnodion digidol i ategu’ch Ffurflen Dreth. Gallwch ddysgu pa mor hir y dylech gadw’ch cofnodion (yn agor tudalen Saesneg).
Dod â ffynonellau eraill o incwm i ben
Os byddwch yn stopio cael mathau eraill o incwm, fel incwm o gyflogaeth, pensiwn, difidendau neu log ar gynilion, nid oes angen i chi gymryd unrhyw gamau pellach yn eich cyfrif gwasanaethau ar-lein CThEF neu gyfrif gwasanaethau asiant.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am y newidiadau hyn yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn dreth pan y gwnaeth yr incwm ddod i ben.