Gwasanaethau ar-lein CThEF: mewngofnodi neu greu cyfrif
Mewngofnodi neu greu cyfrif
Mewngofnodwch i’ch cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) er mwyn gallu bwrw golwg dros bethau fel eich cyfrif treth busnes neu’ch cyfrif treth personol, Hunanasesiad, Treth Gorfforaeth, TWE i gyflogwyr, TAW a Chynllun y Diwydiant Adeiladu.
Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Pa fanylion mewngofnodi i’w defnyddio
Mae 2 ffordd i fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF:
- Porth y Llywodraeth – mewngofnodi gan ddefnyddio Dynodydd Defnyddiwr (ID) (hyd at 12 o gymeriadau) a chyfrinair
- GOV.UK One Login – mewngofnodi gan ddefnyddio cyfeiriad e-bost a chyfrinair
Os ydych eisoes yn defnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF
Gallwch barhau i ddefnyddio’r manylion mewngofnodi sydd gennych. Er enghraifft:
- Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth – hyd yn oed os oes gennych fanylion mewngofnodi GOV.UK One Login o wasanaeth arall y llywodraeth
- manylion mewngofnodi GOV.UK One Login – ar gyfer gwasanaethau treth bersonol
Os nad ydych erioed wedi defnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF
Dewiswch ‘Creu manylion mewngofnodi newydd’ wrth fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF, hyd yn oed os oes gennych fanylion mewngofnodi GOV.UK One Login o wasanaeth arall y llywodraeth neu danysgrifiad e-bost.
Bydd y gwasanaeth yn eich tywys i greu manylion mewngofnodi Porth y Llywodraeth neu GOV.UK One Login.
Gwasanaethau y gallwch eu defnyddio gyda’ch cyfrif ar-lein CThEF
Gallwch gael mynediad at wahanol wasanaethau drwy’r dulliau canlynol:
- eich cyfrif treth personol
- eich cyfrif treth busnes
- cyfrifon asiantau treth (yn agor tudalen Saesneg)
Gwasanaethau yr ydych yn mewngofnodi iddynt ar wahân
Mae yna ffordd wahanol i fewngofnodi ar gyfer: