Skip to main content

Gwasanaethau ar-lein CThEF: mewngofnodi neu greu cyfrif

Sgipio cynnwys

Cael help wrth fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF

Gallwch gael help wrth fewngofnodi i wasanaethau ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) os ydych yn cael problemau wrth ddefnyddio Porth y Llywodraeth.

Dynodydd Defnyddiwr (ID) neu gyfrinair ar goll

Gallwch adfer neu ailosod eich manylion mewngofnodi os ydych wedi eu colli. Byddwch yn cael gwybod sut i wneud hyn pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi.

Problemau wrth gael cod mynediad

Gallwch gael cod drwy neges destun, galwad llais neu ap dilysu.

Gallwch newid sut rydych yn cael eich cod mynediad, er enghraifft, os ydych yn newid eich rhif ffôn.

Mewngofnodwch gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth. Dewiswch ‘Gallwch gael help’ pan fydd gofyn i chi roi cod mynediad, a dilynwch y camau.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi gadarnhau pwy ydych chi. Gallwch roi gwybod i CThEF am newid i’ch enw, cyfeiriad, incwm, perthynas neu rywedd.

Os ydych wedi’ch cloi allan o’ch cyfrif

Os ydych yn nodi’r manylion mewngofnodi anghywir gormod o weithiau, byddwch yn cael eich cloi allan o’ch cyfrif.

Caiff eich cyfrif ei ddatgloi ar ôl 2 awr. Ni all ymgynghorwyr y ddesg gymorth ddatgloi’ch cyfrif.

Argaeledd a phroblemau gyda’r gwasanaeth

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaethau(yn agor tudalen Saesneg).

Rhagor o help

Gallwch ofyn i gynorthwyydd digidol CThEF am help wrth ddefnyddio gwasanaethau ar-lein CThEF.

Os na all y cynorthwyydd digidol helpu, gallwch ofyn i gael eich trosglwyddo i sgwrs dros y we ag ymgynghorydd CThEF, os yw’r ymgynghorydd ar gael.

Gallwch hefyd gael help gyda’r canlynol: