Skip to main content
Canllawiau

Dysgwch a oes angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd y dylech wneud hynny

Gwirio a oes angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i roi gwybod am eich incwm o hunangyflogaeth ac eiddo.

Pwy sydd angen defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Mae angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

  • rydych yn unig fasnachwr neu’n landlord sydd wedi’i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad
  • rydych yn cael incwm o hunangyflogaeth neu eiddo, neu’r ddau
  • mae’ch incwm cymhwysol yn fwy na’r trothwy perthnasol ar gyfer y flwyddyn dreth — cyfrifwch eich incwm cymhwysol

Mae pryd y mae angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn dibynnu ar eich incwm cymhwysol o fewn blwyddyn dreth. Os yw’ch incwm cymhwysol dros y terfynau canlynol:

  • £50,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025, dylech fod wedi dechrau defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o 6 Ebrill 2026 ymlaen — gallwch gofrestru neu gofrestru eich cleient, os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny
  • £30,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, bydd angen i chi ei ddefnyddio o 6 Ebrill 2027 ymlaen
  • £20,000 ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027, bydd angen i chi ei ddefnyddio o 6 Ebrill 2028 ymlaen

Bydd angen i bartneriaethau ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn y dyfodol hefyd. Byddwn ni’n nodi’r amserlen ar gyfer hyn yn nes ymlaen.

Bydd yn dal i fod angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth cyn i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

I gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, mae’n rhaid i chi fod wedi gwneud y canlynol:

  • cofrestru ar gyfer Hunanasesiad
  • cyflwyno Ffurflen Dreth yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf

Gwirio a oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Gallwch ddefnyddio ein hofferyn i wirio:

  • a oes angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
  • pryd bydd angen i chi ddechrau
  • a ydych wedi’ch esemptio

Gallwch hefyd ddefnyddio’r offeryn hwn ar ran rhywun arall. 

Cyn i chi ddechrau

Bydd yr offeryn yn gofyn rhagor o wybodaeth ynghylch y blynyddoedd treth canlynol:

  • 2024 i 2025
  • 2025 i 2026
  • 2026 i 2027

Ar gyfer y blynyddoedd treth hyn, bydd angen i chi ystyried y canlynol:

  • a ydych wedi cyflwyno Ffurflen Dreth, neu a fydd angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth
  • y ffynonellau incwm yr ydych wedi’u datgan neu y bydd angen i chi eu datgan
  • faint o incwm hunangyflogaeth neu incwm o eiddo yr ydych wedi’i gael neu y byddwch yn ei gael yn ystod pob blwyddyn dreth

Gwirio nawr

Pwy sydd wedi’i esemptio rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Mae yna wahanol resymau pam y gallech gael esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Er enghraifft, gallech gael esemptiad os ydych wedi’ch cau allan o’r byd digidol.

Os ydych chi’n esempt, ni fydd angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, ond bydd yn rhaid i chi barhau i roi gwybod am eich incwm a’ch enillion mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad.  

Gallwch ddysgu a allwch gael esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Yr hyn i’w wneud os oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth

Os oes angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm nawr neu mewn blwyddyn dreth ddiweddarach, dylech ddilyn y camau a mynd ati i gofrestru. Er enghraifft, bydd angen i chi ddewis ac awdurdodi eich meddalwedd dewisol neu benderfynu sut y bydd eich asiant yn gweithredu ar eich rhan, os oes gennych un.

Gallwch ddysgu pa gamau y mae angen i chi eu cymryd a mynd ati i gofrestru os ydych yn:

Yr hyn fydd yn digwydd ym mhob blwyddyn dreth

Bydd CThEF yn adolygu’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ac yn gwirio eich incwm cymhwysol pob blwyddyn dreth. 

Os yw’ch incwm yn fwy na’r trothwy perthnasol, bydd CThEF yn ysgrifennu atoch i gadarnhau bod angen i chi ddechrau defnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm erbyn dechrau’r flwyddyn dreth ddilynol.

Er enghraifft, er mwyn gwirio a oedd angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o fis Ebrill 2026, rydym wedi adolygu’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad 2024 i 2025. Os oedd eich incwm cymhwysol ar gyfer y flwyddyn dreth dros £50,000, dylech fod wedi cael llythyr yn cadarnhau bod angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os nad ydych wedi cael llythyr, mae’n dal i fod yn gyfrifoldeb arnoch chi i wirio a oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth a phryd y bydd angen i chi wneud hynny. Mae hefyd yn dal i fod yn gyfrifoldeb arnoch chi i wneud yn siŵr eich bod chi wedi cofrestru ac yn barod i ddefnyddio’r gwasanaeth pan fydd angen.

Os ydych yn credu bod angen i chi gofrestru oherwydd bod eich incwm cymhwysol yn fwy na’r trothwy perthnasol, ond nid ydych wedi cael llythyr, dylech wneud y canlynol:

  • defnyddio’r offeryn yn yr arweiniad hwn i wirio a oes angen i chi gofrestru a phryd i wneud hynny
  • gofyn i’ch ymgynghorydd treth, os oes un gennych
  • gwirio hyn â ffrind neu aelod o’r teulu, os ydyn nhw’n eich helpu chi gyda’ch treth

Os ydych yn anghytuno â CThEF bod angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dylech gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os nad ydych o’r farn bod angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 Mawrth 2026 Show all updates
  1. The ‘Check if you need to use Making Tax Digital for Income Tax’ section has been updated because the tool now asks about the 2026 to 2027 tax year and exemptions.

  2. The list of exemptions has been removed and a link has been added to another page with updated information about exemptions.

  3. The guidance now includes further details on permanent and temporary exemptions for Making Tax Digital for Income Tax. It explains which exemptions are automatic and which you need to apply for.

  4. Information about who is exempt from Making Tax Digital for Income Tax has been added.

  5. The guidance has been updated to confirm if you have qualifying income over £20,000 you will need to use Making Tax Digital for Income Tax, and that the government is introducing legislation to confirm when you will need to start using the service from. The information about who does not need to use the service has been moved up the page. Information about what to do before you start using the service has been updated to link to our step by step guidance and to tell you what should happen before the start of the tax year.

  6. Guidance has been updated to confirm the tool will not ask about foreign income and that you can use the tool on behalf of someone else. Guidance about if you need to use the service from 6 April 2027 has been updated to confirm what will happen ahead of 6 April 2027.

  7. The Autumn Budget 2024 announced that Making Tax Digital for Income Tax will be extended to sole traders and landlords with qualifying income over £20,000 by the end of this Parliament.

  8. Information about when you need to use Making Tax Digital for Income Tax has been added. A link to an interactive guidance tool to check if you need to use Making Tax Digital for Income Tax has been added. Guidance about what is included in your qualifying income has been removed from this page.

  9. Information added to confirm how HMRC assess your qualifying income for a tax year and how we assess your qualifying income if you jointly own a property and only receive notice of your share of the income after expenses have been deducted.

  10. Information about who will and who will not need to sign up has been updated.

  11. The guidance has been updated to clarify when you will need to sign up for Making Tax Digital for Income Tax and when you will not need to.

  12. Thresholds for meeting the requirements for Making Tax Digital for Income Tax have been added for April 2026 and April 2027.

  13. Information has been added for you to check if you can use Making Tax Digital for Income Tax. Additional information has been added for what is included in your qualifying income, how you should report other income and how residence and domicile affect your qualifying income.

  14. You only need to follow the Making Tax Digital for Income Tax rules for your UK self-employment and property income if you're resident or domiciled outside the UK.

  15. Added translation

  16. First published.

Argraffu'r dudalen hon