Canllawiau

Cyfrifwch eich incwm cymhwysol ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch yr hyn sy’n cyfrif fel incwm cymhwysol o hunangyflogaeth ac eiddo wrth ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Beth yw incwm cymhwysol

Eich incwm cymhwysol yw cyfanswm yr incwm a gewch mewn blwyddyn dreth drwy hunangyflogaeth ac eiddo. Gall cyfanswm eich incwm ddod o fwy nag un ffynhonnell o hunangyflogaeth neu incwm o eiddo.

Nid yw ffynonellau eraill o incwm rydych yn rhoi gwybod amdanynt drwy Hunanasesiad yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol, megis incwm o’r canlynol:

  • cyflogaeth (TWE)
  • eich cyfran chi fel partner unigol o’r elw o bartneriaeth
  • difidendau (gan gynnwys y rhai o’ch cwmni’ch hun)
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • pensiynau preifat

Cyfrifo’ch incwm cymhwysol

Bydd CThEF yn asesu eich incwm gros (sef incwm cyn i chi ddidynnu treuliau, yr enw arall ar hyn yw ‘eich trosiant’). Dylech hefyd wirio’ch incwm cymwys eich hun.

I asesu’ch incwm cymhwysol ar gyfer blwyddyn dreth, byddwn yn edrych ar y Ffurflen Dreth Hunanasesiad roedd yn rhaid i chi ei chyflwyno yn ystod y flwyddyn flaenorol a gyflwynwyd gennych yn y flwyddyn dreth flaenorol.

Er enghraifft, gall eich incwm gros gynnwys y canlynol:

  • £25,000 o incwm rhent
  • £27,000 o incwm hunangyflogaeth

Yn yr enghraifft hon, cyfanswm eich incwm cymhwysol fyddai £52,000.

Os byddwn yn adolygu’ch Ffurflen Dreth ac yn canfod bod eich incwm yn uwch na’r trothwy perthnasol, byddwn yn ysgrifennu atoch yn cadarnhau bod angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm erbyn dechrau’r flwyddyn dreth nesaf.

Mae’n bosibl na fydd gennym eich gwybodaeth incwm ddiweddaraf bob tro. Hyd yn oed os na chewch lythyr, mae’n rhaid i chi wirio’ch incwm cymhwysol o hyd i ddarganfod a oes angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth a chofrestru.

Ffynonellau incwm sydd wedi dod i ben

Bydd incwm o hunangyflogaeth neu eiddo sydd wedi dod i ben ers i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ddiwethaf yn cael ei gynnwys yn eich incwm cymhwysol, os oes gennych ffynhonnell barhaus arall o hunangyflogaeth neu incwm eiddo.

Er enghraifft, mae’n bosibl bod gennych 3 ffynhonnell wahanol o incwm o hunangyflogaeth ar eich Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025. Os daeth un o’r ffynonellau hyn i ben yn ystod y flwyddyn dreth honno ond eich bod yn parhau i gael incwm o’r 2 ffynhonnell arall, bydd yr incwm a ddaeth i law o’r ffynhonnell a ddaeth i ben yn dal i gyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Os yw’ch incwm o hunangyflogaeth neu incwm o eiddo (gan gynnwys incwm o ffynonellau sydd wedi dod i ben) yn fwy na’r trothwy perthnasol, bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Unwaith y byddwch yn dechrau defnyddio’r gwasanaeth a bod eich incwm cymhwysol yn gostwng o dan y trothwy perthnasol am 3 blynedd dreth yn olynol, gallwch ddewis optio allan.

Os yw’ch holl ffynonellau incwm o hunangyflogaeth neu incwm o eiddo wedi dod i ben ers i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ddiwethaf, bydd y canlynol yn berthnasol:

  • ni fydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
  • dylech roi gwybod i CThEF

Os oes gennych reswm arall dros gyflwyno Ffurflen Dreth, bydd angen i chi gwblhau un fel arfer o hyd.

Diwygiadau i’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud diwygiadau i’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar ôl i chi ei chyflwyno.

Bydd CThEF yn ystyried diwygiadau i Ffurflenni Treth Hunanasesiad i wirio a ydynt yn effeithio ar y canlynol:

  • eich incwm cymhwysol
  • pryd fydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Ni fydd diwygiadau sy’n cynyddu’ch incwm cymhwysol uwchlaw’r trothwy perthnasol ar ôl dechrau’r flwyddyn dreth berthnasol yn cael eu hystyried ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar gyfer y flwyddyn dreth honno.

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn hirach neu’n fyrrach na 12 mis

Os ydych yn unig fasnachwr, byddwn yn cyfrif eich incwm cymhwysol yn flynyddol os oes gennym yr wybodaeth. Er enghraifft, os ydych wedi dod yn unig fasnachwr, ond dim ond am 6 mis rydych wedi bod yn masnachu yn ystod eich blwyddyn dreth gyntaf, byddwn yn dyblu eich incwm i gyfrifo’ch incwm cymhwysol.

Os ydych yn cael incwm o eiddo, mae angen i chi cyfrif eich incwm eich hun yn flynyddol i gyfrifo’ch incwm cymhwysol.

Yr hyn sydd wedi’i gynnwys yn eich incwm cymhwysol

Os ydych yn cael incwm o eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd

Bydd eich cyfran chi o’r incwm o eiddo yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol. Er enghraifft:

  • rydych yn berchen ar eiddo ar y cyd gyda’ch brawd neu chwaer, a bod yr eiddo hwnnw yn cynhyrchu £50,000 mewn incwm
  • mae’r ddau ohonoch yn cael cyfran gyfartal
  • nid oes gennych unrhyw incwm o hunangyflogaeth

Yn yr enghraifft hon, eich incwm cymhwysol fyddai £25,000.

Os ydych yn berchen ar eiddo a dim ond yn cael hysbysiad o’ch cyfran chi o’r incwm ar ôl i’r treuliau gael eu didynnu, yna byddwn yn asesu’r ffigwr hwnnw ar gyfer eich incwm cymhwysol.

Os gwnaethoch ddefnyddio’r sail arian parod ac wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW

Gallwch ddewis cynnwys neu eithrio TAW pan fyddwch yn datgan incwm eich busnes. Os ydych yn ei gynnwys, yna bydd yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Os ydych yn fuddiolwr ymddiriedolaeth wag

Bydd unrhyw incwm o eiddo neu incwm masnachu y mae gennych hawl iddo yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Os ydych yn fuddiolwr ymddiriedolaeth buddiant mewn meddiant

Bydd unrhyw incwm o eiddo neu incwm masnachu a delir yn uniongyrchol i chi, ac sy’n osgoi’r ymddiriedolwyr, yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Os yw’r trafodion yn rheolau tir yn y DU yn berthnasol

Os caiff eich incwm ei drin fel elw masnach o dan y trafodion yn rheolau tir yn y DU, bydd yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol lle mae’n ffynhonnell incwm barhaus dros fwy nag un flwyddyn dreth.

Os ydych yn cael ffioedd rheoli buddsoddiadau cudd neu fuddiant a drosglwyddir ar sail incwm

Mae’r mathau hyn o daliadau yn cael eu trin fel yr elw o fasnach benodol, a byddant yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Yr hyn nad yw’n cael ei gynnwys yn eich incwm cymhwysol

Os oes gennych incwm o hunangyflogaeth neu incwm o eiddo ochr yn ochr â’r ffynonellau hyn, mae’n bosibl y bydd gofyn i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o hyd.

Os ydych yn cael incwm o bartneriaeth

Nid yw’ch cyfran chi fel partner unigol o’r elw o bartneriaeth yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol. Nid oes angen i chi gadw cofnodion digidol nag anfon diweddariadau chwarterol ar gyfer y math hwn o incwm. Bydd yn rhaid i chi ei gynnwys yn eich Ffurflen Dreth gan ddefnyddio eich meddalwedd sy’n cydweddu. 

Mae incwm personol o hunangyflogaeth neu eiddo y mae partneriaeth yn rhoi gwybod i chi amdano yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol. Mae hyn yn cynnwys ffioedd rheoli buddsoddiadau cudd neu fuddiant a drosglwyddir ar sail incwm. Bydd angen i chi greu cofnodion digidol a chyflwyno diweddariadau chwarterol ar gyfer y ffynhonnell incwm hon.

Os ydych yn cael eich effeithio gan ddiwygio’r cyfnod sail

Efallai y bydd gennych elw trosiannol o flynyddoedd treth blaenorol a fydd yn cael ei asesu yn y flwyddyn dreth 2024 i 2025 a’r 4 blwyddyn dreth nesaf. Ni fydd yr elw hwn yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Os ydych yn ofalwr sy’n gymwys ar gyfer rhyddhad gofal cymhwysol

Mae’n bosibl y byddwch yn cael rhyddhad gofal cymhwysol os ydych yn ofalwr (fel gofalwr maeth neu ofalwr sy’n berthynas) sy’n gofalu am blant neu oedolion.

Ni fydd y rhyddhad gofal cymhwysol y byddwch yn ei gael yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Os ydych yn cael rhyddhad gofal cymhwysol, ni fydd angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm cyn Ebrill 2027. Gallwch ddysgu a oes angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, a phryd y dylech chi wneud hynny.

Trafodion untro yn ymwneud â thir yn y DU

Os caiff eich incwm ei drin fel elw masnach o dan y trafodion yn rheolau tir yn y DU, ni fydd yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol os yw’r canlynol yn wir:

  • dim ond o fewn un flwyddyn dreth y mae’n dod
  • nid yw’n ffynhonnell barhaus

Dylech fod wedi cofnodi pryd y daeth y ffynhonnell o incwm i ben ar eich Ffurflen Dreth.

Os ydych yn cael incwm o Ymddiriedolaethau Buddsoddi Eiddo Tirol yn y DU (UK REITs) neu Gronfeydd Buddsoddi Awdurdodedig mewn Eiddo (PAIFs)

Ni fydd incwm o REITs na PAIFs yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Os ydych yn defnyddio rhyddhad cyfartalu

Nid yw rhyddhad cyfartalu yn effeithio ar eich incwm gros, er enghraifft os ydych chi’n ffermwr neu’n artist creadigol.

Sut y mae’ch statws preswylio at ddibenion treth yn effeithio ar eich incwm cymhwysol

Os oeddech yn breswylydd treth yn y DU yn ystod blwyddyn dreth 2024 i 2025

I wirio’ch incwm cymhwysol, byddwn yn bwrw golwg dros y Ffurflen Dreth Hunanasesiad a gyflwynwyd gennych ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025. Bydd hyn yn cynnwys eich:

  • incwm o hunangyflogaeth
  • incwm o eiddo yn y DU ac eiddo tramor

Er enghraifft, gallech fod:

  • yn unig fasnachwr yn y DU
  • yn rhoi eiddo ar osod yn Ffrainc

Yn yr enghraifft hon, bydd y ddwy ffynhonnell incwm yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Os nad oeddech yn breswylydd treth yn y DU yn ystod blwyddyn dreth 2024 i 2025

I asesu’ch incwm cymhwysol, byddwn yn bwrw golwg dros y Ffurflen Dreth Hunanasesiad a gyflwynwyd gennych ym mlwyddyn dreth 2024 i 2025. Bydd eich incwm cymhwysol yn cynnwys y canlynol:

  • Incwm o eiddo yn y DU
  • incwm hunangyflogedig yr ydych wedi’i ddatgan yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn y DU

Os oes gennych unrhyw incwm o fasnach o ddelio neu ddatblygu tir yn y DU, bydd hyn yn cael ei gynnwys.

Ni fydd incwm o hunangyflogaeth nac incwm o eiddo tramor, nad ydych wedi’i ddatgan ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn y DU, yn cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Er enghraifft, gallech fod:

  • yn breswylydd at ddibenion treth yn Sbaen
  • yn rhoi eiddo ar osod yn y DU
  • yn unig fasnachwr yn Sbaen

Yn yr enghraifft hon, dim ond eich incwm o eiddo yn y DU fyddai’n cyfrif tuag at eich incwm cymhwysol.

Os byddwch yn cyflwyno gwybodaeth ar y dudalen atodol SA109 ar gyfer eich Ffurflen Dreth 2024 i 2025 ac yn disgwyl gwneud hynny ar gyfer eich Ffurflen Dreth 2026 i 2027, ni fydd angen i chi ddefnyddio’r gwasanaeth cyn mis Ebrill 2027. Gallwch ddysgu a oes angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, a phryd y dylech chi wneud hynny.

Ar ôl i chi gyfrifo’ch incwm cymhwysol

Ar ôl i chi gyfrifo’ch incwm cymhwysol, gallwch ddarganfod a oes angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a phryd y dylech wneud hynny.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Hydref 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 Ionawr 2026 show all updates
  1. The guidance has been updated to explain that if you get a share of profit from a partnership as an individual partner, this does not count towards your qualifying income. Additionally, you still need to include that share of profit in your end of year tax return through your compatible software.

  2. Guidance has been updated to make clear that if you receive qualifying care relief, you will not need to use Making Tax Digital for Income Tax before April 2027.

  3. Guidance has been updated to clarify which sources of income do and do not count toward qualifying income. Information about ‘Ceased income sources’, ‘Amendments to your Self Assessment tax return’, ‘If you use averaging relief’, ‘One off transactions in UK land’ and ‘If you get income from UK Real Estate Investment Trusts (UK REITS) or a Property Authorised Investment Fund (PAIFs)’ has been added. Information about ‘If your accounting period is longer or shorter than 12 months’, ‘If you're a carer that is eligible for qualifying care relief’ and ‘How your tax residence affects your qualifying income’ has also been updated.

  4. Guidance has been updated to clarify what sources of income do and do not count towards your qualifying income. Information has been added on how HMRC will assess your income based on your Self Assessment tax return and when your accounting period is longer or shorter than 12 months. Information has been added about what you need to do if you already use Making Tax Digital for Income Tax and you start a new business. What’s included in your qualifying income has been updated with information about income where transactions in UK land rules apply. What’s not included in your qualifying income has been updated with information about basis period reform. Information about tax residency has been updated to clarify what contributes to your qualifying income if you are UK tax resident and not UK resident.

  5. Added translation

Argraffu'r dudalen hon