Canllawiau

Cofrestru’n wirfoddol ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord, defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein i gofrestru’ch busnes yn wirfoddol ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ac i ddysgu beth i’w wneud nesaf.

Beth yw Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn ffordd newydd o roi gwybod i CThEF am incwm a threuliau os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord. Bydd yn rhaid i chi wneud y canlynol:

  • defnyddio meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm
  • cadw cofnodion digidol o holl incwm a threuliau eich busnes
  • anfon diweddariadau chwarterol atom
  • cyflwyno Ffurflen Dreth a thalu’r dreth sy’n ddyledus erbyn 31 Ionawr y flwyddyn ganlynol

Pwy ddylai gofrestru a phryd

Mae’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm yn wirfoddol ar hyn o bryd. Mae’n bosibl y gallwch gofrestru i’n helpu i brofi a datblygu’r gwasanaeth. O 6 Ebrill 2026, bydd y cynllun yn dod yn orfodol fesul cam yn seiliedig ar gyfanswm eich incwm blynyddol o hunangyflogaeth neu eiddo.

Dylech wnued y canlynol:

  1. Gwirio a oes angen i chi gofrestru.

  2. Gwirio pryd y mae angen i chi gofrestru.

Os bydd angen i chi gofrestru yn y dyfodol, gallwch naill ai:

  • defnyddio’r gwasanaeth yn wirfoddol nawr — ar gyfer pob un o’ch ffynonellau incwm o hunangyflogaeth ac eiddo
  • parhau i gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn ôl yr arfer

Os ydych yn defnyddio asiant, gall gofrestru ar eich rhan.

Os ydych yn asiant, mae ffordd wahanol o gofrestru’ch cleient ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg).

Pwy sy’n gallu cofrestru’n wirfoddol

Byddwn yn gofyn rhai cwestiynau i chi pan fyddwch yn cofrestru. Bydd hyn yn cadarnhau a ydych yn gymwys i gofrestru’n wirfoddol.  

Gallwch gofrestru’n wirfoddol os (yw pob un o’r canlynol yn berthnasol):

  • mae gan CThEF eich manylion personol diweddaraf
  • rydych yn breswylydd yn y DU
  • mae gennych rif Yswiriant Gwladol
  • rydych wedi cyflwyno o leiaf un Ffurflen Dreth Hunanasesiad
  • mae’ch cofnodion treth yn gyfredol — er enghraifft, nid oes rhwymedigaethau treth yn ddyledus gennych
  • rydych yn defnyddio cyfnod cyfrifyddu sy’n rhedeg o 6 Ebrill i 5 Ebrill

Rydych hefyd yn gallu defnyddio cyfnod cyfrifyddu sy’n rhedeg o 1 Ebrill i 31 Mawrth, os yw’r feddalwedd rydych wedi’i dewis yn cefnogi hyn. Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  • dewis chwarterau calendr yn y feddalwedd cyn gwneud y diweddariad cyntaf
  • gwneud addasiad ar ddiwedd eich blwyddyn dreth gyntaf — fel bod eich incwm a’ch treuliau o 1 Ebrill i 5 Ebrill wedi’u cynnwys yn eich Ffurflen Dreth

Ni allwch gofrestru yn wirfoddol os yw’r canlynol yn wir:

  • mae gennych Dâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel
  • mae gennych gynllun talu gyda CThEF yn barod
  • rydych yn bartner mewn partneriaeth
  • rydych yn hawlio Lwfans Pâr Priod
  • rydych yn hawlio Lwfans Person Dall
  • rydych yn fethdalwr neu’n ansolfent ar hyn o bryd, neu byddwch yn dod yn fethdalwr neu’n ansolfent
  • rydych yn AS, yn weinidog yr efengyl neu’n danysgrifennwr Lloyds
  • mae gennych incwm o fod yn ofalwr maeth mewn cynllun cysylltu bywydau
  • mae gennych incwm o ymddiriedolaeth
  • mae gennych incwm o eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd
  • mae gennych incwm o osod llety gwyliau wedi’i ddodrefnu
  • rydych yn agored i ymholiad cydymffurfio
  • rydych yn defnyddio ‘trefniant cyfartalu’ neu drefniadau eraill oherwydd bod eich elw yn amrywio rhwng blynyddoedd — er enghraifft, oherwydd eich bod yn ffermwr, yn awdur neu’n artist
  • rydych yn cofrestru ar ran rhywun arall (oni bai eich bod yn asiant) — mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
    • rydych yn ymarferwr ansolfedd
    • rydych yn enwebai
    • rydych yn gyfreithiwr

Os byddwch yn cofrestru, yn ystod y cyfnod prawf, ni fyddwch yn gallu gwneud y canlynol:

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen i chi gael meddalwedd sy’n gweithio gyda’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Wrth ddewis meddalwedd, gwiriwch â’r darparwr meddalwedd bob amser i wneud yn siŵr ei bod yn bodloni eich anghenion.

Bydd angen y canlynol arnoch:

Os ydych yn unig fasnachwr, bydd hefyd angen y canlynol arnoch:

  • enw’ch busnes — dyma’r enw rydych yn ei ddefnyddio ar eich anfonebau
  • cyfeiriad eich busnes
  • natur eich busnes (eich masnach)

Sut caiff y cosbau eu codi

Bydd cosbau newydd (yn agor tudalen Saesneg) CThEF yn berthnasol i chi os byddwch wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer:

  • cyflwyno’ch Ffurflen Dreth
  • talu’ch bil

Byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau pan fyddwch yn dod yn agored i’r cosbau hyn.

Sut i gofrestru

Bydd arnoch angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a gawsoch wrth gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.

Cofrestru nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Ar ôl i chi gofrestru

Dysgwch ragor ynghylch defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd yn dal i fod yn rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer y flwyddyn dreth cyn i chi gofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Help

Help a chymorth ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol (yn agor tudalen Saesneg).

Cysylltwch â’ch cyflenwr meddalwedd os oes angen help arnoch i greu cofnodion busnes neu i anfon diweddariadau.

Os oes gennych ymholiad arall ynghylch y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, cysylltwch â CThEF.

Cyhoeddwyd ar 10 February 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 26 April 2024 + show all updates
  1. On Monday 22 April information for users who want to voluntarily sign up now was updated as you can now use the sign up service instead of a software provider. Information about who can and cannot sign up voluntarily was updated.

  2. Welsh translation added.

  3. The date for helping to test and develop Making Tax Digital for Income Tax has been extended to 6 April 2026.

  4. The steps to take and what you will need before using Making Tax Digital for Income Tax have been updated. The criteria for voluntarily signing up now has also been updated.

  5. Information to check if you can voluntarily sign up now has been added. Information on what to do after you’ve signed up has been removed as this is covered in the Using Making Tax Digital for Income Tax guidance.

  6. Information on what you'll need and before you sign up for Making Tax Digital for Income Tax has been updated.

  7. Updated information on what to do after you've signed up.

  8. Added translation

  9. Information has been added to let you know that if you use an agent they can send you an authorisation request link.

  10. Register for a webinar on 29 July for information on the Making Tax Digital for Income Tax pilot.

  11. Welsh translation has been added.

  12. First published.