Ffurflenni Treth Hunanasesiad
Pwy sy’n gorfod anfon Ffurflen Dreth
Mae’n rhaid i chi anfon Ffurflen Dreth os, yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf (6 Ebrill i 5 Ebrill), roedd unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:
-
roeddech yn hunangyflogedig fel ‘unig fasnachwr’ ac wedi ennill mwy na £1,000 (cyn tynnu unrhyw beth y gallwch hawlio rhyddhad treth arno)
-
roeddech yn bartner mewn partneriaeth fusnes
-
roedd yn rhaid i chi dalu Treth Enillion Cyfalaf pan wnaethoch werthu, neu ‘gael gwared ar’, rywbeth a wnaeth gynyddu mewn gwerth
-
roedd yn rhaid i chi dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel ac nid ydych yn ei dalu drwy TWE
Efallai y bydd hefyd angen i chi anfon Ffurflen Dreth os oes gennych unrhyw incwm sydd heb ei drethu, megis:
-
arian o roi eiddo ar osod
-
cildyrnau a chomisiwn
-
incwm o gynilion, buddsoddiadau a difidendau
-
incwm tramor
Gwirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth
Gallwch wirio a oes angen i chi anfon Ffurflen Dreth os nad ydych yn siŵr.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEF erbyn 5 Hydref os oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth ar gyfer y flwyddyn flaenorol ac nid ydych wedi anfon un o’r blaen. Gallwch roi gwybod i CThEF drwy gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
Rhesymau eraill dros anfon Ffurflen Dreth
Gallwch ddewis llenwi Ffurflen Dreth er mwyn:
-
hawlio rhai rhyddhadau Treth Incwm
-
profi eich bod yn hunangyflogedig, er enghraifft i hawlio Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth neu Lwfans Mamolaeth