Yswiriant Gwladol Gwirfoddol
Trosolwg
Os na fyddwch yn talu Yswiriant Gwladol, mae’n bosibl y bydd gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Gallai hyn fod oherwydd:
- roeddech yn gyflogedig, ond ag enillion isel
- roeddech yn ddi-waith ac nid oeddech yn hawlio budd-daliadau
- roeddech yn cael credydau Yswiriant Gwladol am lai nag un flwyddyn dreth lawn
- roeddech yn hunangyflogedig, ond ni wnaethoch dalu cyfraniadau o ganlyniad i elw bychan
- roeddech yn byw neu’n gweithio y tu allan i’r DU
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Gall bylchau olygu na fydd gennych ddigon o flynyddoedd o gyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn:
- cael Pensiwn y Wladwriaeth (fel arfer mae angen o leiaf 10 ‘mlynedd gymhwysol’)
- bod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol
Mae’n bosibl y byddwch yn gallu talu cyfraniadau gwirfoddol i lenwi unrhyw fylchau ac ychwanegu at eich Pensiwn y Wladwriaeth.
Pwy na all dalu cyfraniadau gwirfoddol
Ni allwch dalu cyfraniadau gwirfoddol os yw’r canlynol yn berthnasol:
- nid oes gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol - oni bai eich bod yn cael credydau Dosbarth 3 ac yn gymwys i dalu cyfraniadau Dosbarth 2
- rydych yn fenyw briod neu’n weddw sy’n talu Yswiriant Gwladol ar gyfradd is (yn agor tudalen Saesneg)
- mae’r dyddiad cau ar gyfer talu cyfraniadau am y cyfnod sydd â bylchau wedi mynd heibio
Gwirio’ch cofnod am fylchau
Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael gwybod:
- a oes gennych unrhyw fylchau
- faint y bydd yn ei gostio i dalu cyfraniadau gwirfoddol
- a fyddech yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol
- a allwch dalu ar-lein
Os oes gennych fylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, gwiriwch a ydych yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol cyn penderfynu talu cyfraniadau gwirfoddol.
Cysylltwch â Chyllid a Thollau EF (CThEF) os ydych yn credu bod eich cofnod Yswiriant Gwladol yn anghywir.
Penderfynu a ydych am dalu cyfraniadau gwirfoddol
Nid yw cyfraniadau gwirfoddol bob amser yn cynyddu’ch Pensiwn y Wladwriaeth, er enghraifft os cawsoch eich contractio allan.
Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gwiriwch ragolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol. Gallwch hefyd gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol.
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.
Os ydych yn byw neu’n gweithio dramor a’ch bod dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu o fewn 6 mis o’i gyrraedd, cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg) i gael cyngor.
Pam efallai yr hoffech dalu cyfraniadau gwirfoddol
Mae’n bosibl y byddwch am dalu cyfraniadau gwirfoddol oherwydd:
- rydych yn agos at oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg) ac nid oes gennych ddigon o flynyddoedd cymhwysol i gael neu i gynyddu’ch Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych yn gwybod na fyddwch yn gallu cael y blynyddoedd cymhwysol sydd eu hangen arnoch i gael Pensiwn y Wladwriaeth llawn yn ystod eich bywyd gwaith
- rydych yn hunangyflogedig ac mae gennych elw blynyddol sy’n llai na £7,105
- rydych yn byw y tu allan i’r DU, ond hoffech fod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol neu Bensiwn y Wladwriaeth
- nid ydych yn gymwys i gael credydau Yswiriant Gwladol
Pobl hunangyflogedig gyda swyddi penodol
Nid yw rhai pobl yn cael eu cyfraniadau Dosbarth 2 wedi’u trin fel pe baent wedi’u talu, ond efallai y bydd y bobl hyn am dalu cyfraniadau gwirfoddol. Y rhain yw:
- arholwyr, safonwyr, goruchwylwyr ac unigolion sy’n gosod cwestiynau arholiad
- landlordiaid sy’n gymwys i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2
- gweinidogion yr efengyl nad ydynt yn cael cyflog na thâl
- unigolion sy’n gwneud buddsoddiadau – ond nid fel busnes a heb gael ffi na chomisiwn