Gwirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol

Gallwch wirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol ar-lein er mwyn gweld:

  • yr hyn yr ydych wedi’i dalu hyd at ddechrau’r flwyddyn dreth bresennol (6 Ebrill 2024)
  • unrhyw gredydau Yswiriant Gwladol yr ydych wedi’u cael
  • a oes bylchau o ran cyfraniadau neu gredydau sy’n golygu bod yna flynyddoedd nad ydynt yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth (nid ydynt yn ‘flynyddoedd cymwys’)
  • a allwch dalu cyfraniadau gwirfoddol (yn Saesneg) i lenwi unrhyw fylchau, a faint y bydd hyn yn ei gostio

Nid yw’ch cofnod ar-lein yn cynnwys faint o Bensiwn y Wladwriaeth yr ydych yn debygol o’i gael.

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Dechrau nawr

Cyn i chi ddechrau

Er mwyn gwirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol, bydd angen i chi fewngofnodi i’ch cyfrif treth personol gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth.

Os nad oes gennych gyfrif treth personol

Mae angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch er mwyn creu cyfrif treth personol. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) eisoes, gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.

Bydd angen eich rhif Yswiriant Gwladol neu’ch cod post arnoch, a dau o’r canlynol:

  • pasbort dilys y DU
  • trwydded yrru cerdyn-llun y DU a gyhoeddwyd gan y DVLA (neu’r DVA yng Ngogledd Iwerddon)
  • slip cyflog o’r tri mis diwethaf, neu ffurflen P60 gan eich cyflogwr ar gyfer y flwyddyn dreth ddiwethaf
  • manylion hawliad am gredyd treth, os gwnaethoch un
  • manylion o Ffurflen Dreth Hunanasesiad o’r ddwy flynedd ddiwethaf, os cyflwynoch un
  • gwybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich cofnod credyd, os oes gennych un (megis benthyciadau, cardiau credyd, neu forgeisi)

Ffyrdd eraill o wneud cais

Gallwch ofyn am ddatganiad Yswiriant Gwladol ar bapur:

Bydd angen i chi roi gwybod pa flynyddoedd yr ydych am i’ch datganiad eu cwmpasu. Ni allwch ofyn am ddatganiadau ar gyfer y flwyddyn dreth bresennol na’r un flaenorol.

Gallwch hefyd ysgrifennu at Gyllid a Thollau EF (CThEF).

Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a Swyddfa’r Cyflogwr
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1ST

Os ydych wedi talu Yswiriant Gwladol ar Ynys Manaw

Ni fydd eich cofnod yn dangos cyfraniadau Yswiriant Gwladol o Ynys Manaw os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar ôl 5 Ebrill 2016.

Anfonwch e-bost i swyddfa Yswiriant Gwladol Ynys Manaw i gael gwybod faint yr ydych wedi’i dalu.

Swyddfa Yswiriant Gwladol Ynys Manaw
nationalinsurance.itd@gov.im

Yn ogystal, gallwch anfon llythyr i’r swyddfa.

National Insurance contributions
Income Tax Division
Government Office
Bucks Road
Douglas
Isle of Man
IM1 3TX