Trosolwg

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol er mwyn bod yn gymwys am fudd-daliadau penodol a Phensiwn y Wladwriaeth.

Mae angen rhif Yswiriant Gwladol arnoch cyn y gallwch ddechrau talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg.

Pwy sy’n talu Yswiriant Gwladol

Rydych yn talu Yswiriant Gwladol gorfodol os ydych yn 16 oed, neu’n hŷn, a bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gyflogai sy’n ennill dros £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd
  • rydych yn hunangyflogedig ac yn gwneud elw o fwy na £12,570 y flwyddyn

Nid ydych yn talu Yswiriant Gwladol, ond rydych yn dal i fod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol a Phensiwn y Wladwriaeth, os yw’r naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn gyflogai sy’n ennill rhwng £123 a £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd
  • rydych yn hunangyflogedig, ac mae’ch elw rhwng £6,725 a £12,570 y flwyddyn

Caiff eich cyfraniadau eu trin fel pe baent wedi’u talu er mwyn diogelu eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Mae’n bosibl y gallwch dalu cyfraniadau gwirfoddol (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Dosbarthiadau Yswiriant Gwladol

Mae yna fathau gwahanol o Yswiriant Gwladol (a elwir yn ‘dosbarthiadau’).

Mae’r math o Yswiriant Gwladol yr ydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich statws cyflogaeth a faint rydych yn ei ennill.

Pan rydych yn rhoi’r gorau i dalu

Os ydych yn gyflogedig, rydych yn rhoi’r gorau i dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 (yn agor tudalen Saesneg) pan gyrhaeddwch oedran Pensiwn y Wladwriaeth (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn hunangyflogedig, rydych yn rhoi’r gorau i dalu:

  • Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 pan fyddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

  • Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 o 6 Ebrill (dechrau’r flwyddyn dreth) ar ôl i chi gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth