Yswiriant Gwladol: rhagarweiniad
Dosbarthiadau Yswiriant Gwladol
Mae’r dosbarth rydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich statws cyflogaeth a faint rydych yn ei ennill. Gweler y cyfraddau presennol ar gyfer cyfraniadau Dosbarth 1, 2 a 4.
Os ydych yn gyflogedig
Bydd eich cyflogwr yn didynnu cyfraniadau Dosbarth 1 o’ch tâl yn awtomatig os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol:
- rydych yn iau nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth
- rydych yn ennill mwy na £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd
Caiff cyfraniadau Dosbarth 1A a Dosbarth 1B eu talu gan gyflogwyr ar dreuliau neu fuddiannau eu cyflogeion yn unig.
Os ydych yn ennill llai na £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd
Os ydych yn ennill rhwng £129 a £242 yr wythnos wrth gyflawni un swydd, ni fyddwch fel arfer yn talu Yswiriant Gwladol, ond efallai eich bod yn dal i fod yn gymwys i gael budd-daliadau penodol a Phensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn ennill llai na £129 yr wythnos wrth gyflawni un swydd, gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol.
Os ydych yn hunangyflogedig
Mae’r dosbarth rydych yn ei dalu’n dibynnu ar eich elw.
Os yw’ch elw yn £7,105 neu’n fwy y flwyddyn
Caiff cyfraniadau Dosbarth 2 eu trin fel pe baent wedi’u talu er mwyn diogelu eich cofnod Yswiriant Gwladol. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 2.
Os yw’ch elw yn fwy na £12,570 y flwyddyn, mae’n rhaid i chi dalu cyfraniadau Dosbarth 4.
Os yw’ch elw yn llai na £7,105 y flwyddyn
Nid oes angen i chi dalu unrhyw beth, ond gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 2 gwirfoddol er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol.
Rheolau arbennig ar gyfer swyddi penodol
Mae rheolau arbennig sy’n berthnasol i’r canlynol:
- landlordiaid
- arholwyr, safonwyr, goruchwylwyr neu bobl sy’n gosod cwestiynau arholiad
- gweinidogion yr efengyl
- pobl sy’n gwneud buddsoddiadau
Os nad ydych yn gweithio
Gallwch ddewis talu cyfraniadau Dosbarth 3 gwirfoddol er mwyn osgoi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol.