Skip to main content

Faint rydych yn ei dalu

Mae swm yr Yswiriant Gwladol rydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich statws cyflogaeth a faint rydych yn ei ennill.

Gallwch fwrw golwg dros gyfraddau ar gyfer y blynyddoedd treth blaenorol (yn agor tudalen Saesneg).

Os ydych yn gyflogedig

Rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1.

Y cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 ar gyfer y rhan fwyaf o bobl ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 yw:

Eich cyflog O 6 Ebrill 2026 i 5 Ebrill 2027
£242 i £967 yr wythnos (£1,048 i £4,189 y mis) 8%
Dros £967 yr wythnos (£4,189 y mis) 2%

Byddwch yn talu llai os:

Mae cyflogwyr yn talu cyfradd wahanol o Yswiriant Gwladol yn dibynnu ar lythrennau categori (yn agor tudalen Saesneg) eu cyflogeion.

Sut i dalu

Rydych yn talu Yswiriant Gwladol gyda’ch treth. Bydd eich cyflogwr yn ei ddidynnu o’ch cyflog cyn i chi gael eich talu. Bydd eich slip cyflog yn dangos eich cyfraniadau.

Os ydych yn gyfarwyddwr cwmni cyfyngedig (yn agor tudalen Saesneg), efallai y byddwch hefyd yn gyflogai i chi’ch hun, ac felly yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 drwy’ch cyflogres TWE.

Os ydych yn hunangyflogedig

Os yw eich elw yn fwy na £12,570 y flwyddyn, rydych yn talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4.

Cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 yw:

  • 6% ar elw dros £12,570 hyd at £50,270
  • 2% ar elw dros £50,270

Gallwch ddewis talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2.

Y gyfradd Dosbarth 2 ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 yw £3.65 yr wythnos.

Sut i dalu

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 a 4 drwy Hunasesiad.

Os ydych yn arholwr, yn safonwr, yn oruchwyliwr neu os ydych yn gosod cwestiynau arholiad, ni allwch dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 drwy Hunanasesiad - cysylltwch â CThEF i drefnu taliad.

Os ydych yn gyflogedig ac yn hunangyflogedig

Mae’n bosibl eich bod yn gyflogai ond eich bod hefyd yn gwneud gwaith hunangyflogedig. Yn yr achos hwn, bydd eich cyflogwr yn didynnu’ch Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 oddi wrth eich cyflog, ac efallai y bydd yn rhaid i chi dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 4 ar gyfer eich gwaith hunangyflogedig.

Bydd faint rydych yn ei dalu yn dibynnu ar eich cyflog cyfunol a’ch gwaith hunangyflogedig. Bydd CThEF yn rhoi gwybod i chi faint o Yswiriant Gwladol sy’n ddyledus ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Cyfarwyddwyr, landlordiaid a physgotwyr cyfran

Mae rheolau gwahanol ar gyfer Yswiriant Gwladol os rydych yn un o’r canlynol:

Gallwch wneud cais i CThEF i wirio’ch cofnod Yswiriant Gwladol a hawlio ad-daliad os ydych o’r farn eich bod wedi gordalu.