Yswiriant Gwladol: rhagarweiniad
Yr hyn y mae Yswiriant Gwladol ar ei gyfer
Mae cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cyfrif tuag at y budd-daliadau a’r pensiynau yn y tabl.
| Dosbarth 1: cyflogeion | Dosbarth 2: hunangyflogedig | Dosbarth 3: cyfraniadau gwirfoddol | |
|---|---|---|---|
| Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth | Iawn | Iawn | Iawn |
| Pensiwn Ychwanegol y Wladwriaeth | Iawn | Na | Na |
| Pensiwn Newydd y Wladwriaeth | Iawn | Iawn | Iawn |
| Lwfans Ceisio Gwaith newydd | Iawn | Na | Na |
| Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail cyfraniadau | Iawn | Iawn | Na |
| Lwfans Mamolaeth | Iawn | Iawn | Na |
| Taliad Cymorth Profedigaeth | Iawn | Iawn | Na |
Os ydych yn hunangyflogedig ac yn gwneud elw o fwy na £12,570 y flwyddyn, rydych yn talu cyfraniadau Dosbarth 4. Nid yw’r rhain yn cyfrif tuag at fudd-daliadau na phensiwn y Wladwriaeth.