Gwirio sut i hawlio ad-daliad Yswiriant Gwladol
Defnyddiwch yr offeryn hwn i wirio sut i hawlio ad-daliad ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol gan Gyllid a Thollau EF (CThEF).
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Os ydych eisoes wedi hawlio ad-daliad, gwiriwch pryd y gallwch ddisgwyl ateb.
Dysgu sut i hawlio
Mae gwahanol ddosbarthiadau o Yswiriant Gwladol. Bydd gofyn i chi nodi’r dosbarth y mae’ch ad-daliad ar ei gyfer.
Os yw CThEF wedi ysgrifennu atoch ynghylch cyfraniadau Yswiriant Gwladol a dalwyd ar gam gan eich cyflogwr (a bod eich llythyr yn cynnwys cyfeirnod hawlio), gallwch wneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.