Canllawiau

Gwneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol

Os ydych wedi cael llythyr gan CThEF, gallwch wneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol a gafodd eu talu drwy gamgymeriad gan eich cyflogwr.

Os ydych wedi cael llythyr gan CThEF, gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i wneud cais am ad-daliad o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais, byddwn yn cadarnhau eich bod yn gymwys i gael ad-daliad ac yn ysgrifennu atoch i gadarnhau’r canlyniad.

Pwy all ddefnyddio’r gwasanaeth hwn

Gallwch wneud cais os yw CThEF wedi ysgrifennu atoch ynghylch cyfraniadau Yswiriant Gwladol a gafodd eu talu drwy gamgymeriad gan eich cyflogwr.

Gallwch ond wneud cais os ydych wedi cael llythyr gan CThEF yn rhoi gwybod i chi efallai eich bod yn gymwys i gael ad-daliad.

Ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn os ydych yn gynrychiolydd personol neu’n gyflogwr. Os ydych yn gynrychiolydd personol, yna mae’n rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddiadau yn eich llythyr personol eich hun.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeirnod eich hawliad (gweler eich llythyr)

  • manylion y cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu

Os ydych wedi cael mwy nag un llythyr ynghylch ad-daliadau Yswiriant Gwladol, bydd angen i chi wneud cais ar wahân ar gyfer pob un.

Yr hyn i’w wneud os nad oes cyfeirnod hawliad ar eich llythyr

Os nad oes cyfeirnod hawliad ar eich llythyr, ni allwch ddefnyddio’r gwasanaeth hwn. Bydd angen i chi wirio sut i hawlio eich ad-daliad Yswiriant Gwladol.

Gwneud cais ar-lein

Bydd angen i chi fewngofnodi er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, byddwch yn gallu eu creu.

Dechrau nawr

Os na allwch wneud cais ar-lein

Gallwch wneud cais drwy lenwi’r ffurflen ar gefn eich llythyr a’i hanfon i’r cyfeiriad ar frig y llythyr hwn.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Bydd CThEF yn gwirio’ch cais ac yn ysgrifennu atoch i gadarnhau’r canlyniad.

Gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ymateb gan CThEF os hoffech wneud hynny.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 31 Mawrth 2026

Argraffu'r dudalen hon