Credydau Yswiriant Gwladol

Neidio i gynnwys y canllaw

Trosolwg

Efallai y gallwch gael credydau Yswiriant Gwladol os nad ydych yn talu Yswiriant Gwladol, er enghraifft pan fyddwch yn hawlio budd-daliadau oherwydd eich bod yn sâl neu’n ddi-waith.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Gall credydau helpu i lenwi bylchau yn eich cofnod Yswiriant Gwladol, er mwyn sicrhau eich bod yn gymwys ar gyfer budd-daliadau penodol gan gynnwys Pensiwn y Wladwriaeth.

Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol am fylchau.

Cael credydau

Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael credydau – naill ai byddwch yn eu cael yn awtomatig neu bydd yn rhaid i chi wneud cais amdanynt.

Byddwch yn cael un o’r mathau hyn o gredydau, os ydych yn gymwys:

  • Dosbarth 1 – mae’r rhain yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth a gallant eich helpu i fod yn gymwys ar gyfer rhai budd-daliadau eraill, er enghraifft Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd
  • Dosbarth 3 – mae’r rhain yn cyfrif tuag at eich Pensiwn y Wladwriaeth yn unig

Gallwch drosglwyddo’ch credydau, a gawsoch wrth gofrestru ar gyfer Budd-dal Plant, i’ch priod neu i’ch partner sy’n byw gyda chi, os ydych wedi talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol am flwyddyn (yr enw ar hyn yw ‘blwyddyn gymwys’ ar gyfer Pensiwn y Wladwriaeth).

Gwirio’ch credydau

Gwiriwch eich cofnod Yswiriant Gwladol i gael gwybod a oes gennych gredydau. Os gwnaethoch gais am gredydau ond eu bod yn anghywir ar eich cofnod, cysylltwch â’r swyddfa lle gwnaethoch y cais.

Ffoniwch Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF os oes gennych gwestiynau am gredydau Yswiriant Gwladol.